ATODLEN 3DARPARIAETH BELLACH YNGHYLCH CYDNABOD CYRFF DYFARNU

18Darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad ag ildio

1

Caiff Cymwysterau Cymru, os yw’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny at ddiben osgoi effaith andwyol ar bersonau sy’n ceisio cael neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddynt geisio cael y cymhwyster o dan sylw, neu gymhwyster o’r disgrifiad o dan sylw, wneud darpariaeth mewn cydnabyddiaeth o ildio o dan baragraff 17(3) sydd o fewn is-baragraff (2).

2

Mae darpariaeth o fewn yr is-baragraff hwn yn ddarpariaeth i’r perwyl bod y corff, o’r adeg pan ddaw’r dyddiad ildio i ben hyd nes y daw’r dyddiad estyn i ben, i gael ei drin at ddibenion a bennir gan Gymwysterau Cymru yn y gydnabyddiaeth o ildio fel pe bai’n cael ei gydnabod mewn cysylltiad â dyfarnu’r cymhwyster neu’r disgrifiad o gymhwyster o dan sylw.

3

Os yw Cymwysterau Cymru yn gwneud darpariaeth o fewn is-baragraff (2)—

a

rhaid iddo roi rhesymau dros hyn yn y gydnabyddiaeth o ildio, a

b

mae’r corff i gael ei drin, o’r adeg pan ddaw’r dyddiad ildio i ben, at y dibenion a bennir yn y gydnabyddiaeth o ildio, a hyd nes y daw’r dyddiad estyn i ben, fel pe bai’n cael ei gydnabod mewn cysylltiad â dyfarnu’r cymhwyster neu’r disgrifiad o gymhwyster o dan sylw.

4

Yn y paragraff hwn—

  • ystyr “dyddiad estyn” (“extension date”) yw dyddiad a bennir gan Gymwysterau Cymru yn y gydnabyddiaeth o ildio at ddibenion y paragraff hwn;

  • ystyr “dyddiad ildio” (“surrender date”) yw’r dyddiad a bennir gan Gymwysterau Cymru yn y gydnabyddiaeth o ildio fel yr un y mae’r corff i beidio â chael ei gydnabod pan ddaw i ben.