ATODLEN 3DARPARIAETH BELLACH YNGHYLCH CYDNABOD CYRFF DYFARNU
I1I219Tynnu cydnabyddiaeth yn ôl
1
Os yw corff cydnabyddedig yn methu â chydymffurfio ag unrhyw amod y mae cydnabyddiaeth mewn cysylltiad â dyfarnu cymhwyster neu ddisgrifiad o gymhwyster yn ddarostyngedig iddo, caiff Cymwysterau Cymru dynnu’n ôl ei gydnabyddiaeth o’r corff mewn cysylltiad â dyfarnu—
a
cymhwyster penodedig neu ddisgrifiad penodedig o gymhwyster, neu
b
pob cymhwyster y cydnabyddir y corff mewn cysylltiad â’i ddyfarnu.
2
Os yw corff cydnabyddedig sy’n dyfarnu cymhwyster a gymeradwywyd yn methu â chydymffurfio ag unrhyw amod y mae’r gymeradwyaeth yn ddarostyngedig iddo, caiff Cymwysterau Cymru dynnu’n ôl ei gydnabyddiaeth o’r corff mewn cysylltiad â dyfarnu—
a
cymhwyster penodedig neu ddisgrifiad penodedig o gymhwyster, neu
b
pob cymhwyster y cydnabyddir y corff mewn cysylltiad â’i ddyfarnu.