Deddf Cymwysterau Cymru 2015

Amodau cydnabod safonolLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

2(1)Rhaid i Gymwysterau Cymru lunio a chyhoeddi amodau (yr ”amodau safonol”) y mae (yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3) a (4)) pob cydnabyddiaeth o gorff dyfarnu i fod yn ddarostyngedig iddynt.

(2)Caiff yr amodau safonol, ymhlith pethau eraill, wneud darpariaeth ynghylch cydymffurfio â chyfarwyddydau a roddir i gorff cydnabyddedig gan Gymwysterau Cymru o dan y paragraff hwn.

(3)Caniateir i amodau safonol gwahanol gael eu gosod at ddibenion gwahanol, gan gynnwys ymhlith pethau eraill drwy gyfeirio at—

(a)disgrifiadau gwahanol o gyrff dyfarnu;

(b)cymwysterau gwahanol neu ddisgrifiadau gwahanol o gymhwyster (gan gynnwys drwy gyfeirio at ba un a yw cymhwyster yn gymhwyster a gymeradwywyd neu’n gymhwyster sydd wedi ei ddynodi o dan adran 29 ai peidio);

(c)amgylchiadau gwahanol y dyfernir cymhwyster odanynt;

(d)disgrifiadau gwahanol o berson y dyfernir cymhwyster iddo.

(4)Caiff Cymwysterau Cymru benderfynu, mewn achos penodol, nad yw cydnabyddiaeth o gorff dyfarnu i fod yn ddarostyngedig i amod safonol a bennir yn y penderfyniad a fyddai fel arall yn gymwys.

(5)Caniateir i benderfyniad o fewn is-baragraff (4) gael ei wneud naill ai ar adeg rhoi’r gydnabyddiaeth o dan sylw, neu wedi hynny, a chaiff Cymwysterau Cymru ei ddirymu.

(6)Ni chaiff yr amodau safonol gynnwys—

(a)amodau capio ffioedd (gweler paragraffau 6 i 11 am y rhain);

(b)amodau trosglwyddo (gweler paragraffau 12 i 16 am y rhain).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 3 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)

I2Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)