ATODLEN 3DARPARIAETH BELLACH YNGHYLCH CYDNABOD CYRFF DYFARNU
Y weithdrefn ar gyfer tynnu cydnabyddiaeth yn ôl
21
(1)
Os yw Cymwysterau Cymru yn penderfynu tynnu cydnabyddiaeth yn ôl, rhaid iddo roi hysbysiad i’r corff cydnabyddedig am y penderfyniad.
(2)
Rhaid i’r hysbysiad—
(a)
rhoi gwybod i’r corff am ei hawl o dan drefniadau a wneir o dan baragraff 22 i wneud cais am adolygiad o’r penderfyniad,
(b)
datgan y dyddiad erbyn pryd y mae rhaid gwneud unrhyw gais am adolygiad, ac
(c)
pennu’r dyddiad y mae’r tynnu’n ôl, yn absenoldeb cais am adolygiad, i gymryd effaith pan ddaw i ben (y “dyddiad tynnu’n ôl”).
(3)
Rhaid i’r dyddiad tynnu’n ôl fod yn ddyddiad ar ôl y dyddiad olaf y caniateir gwneud cais am adolygiad o dan drefniadau a wneir o dan baragraff 22.
(4)
Ar unrhyw adeg cyn y dyddiad tynnu’n ôl, caiff Cymwysterau Cymru benderfynu peidio â thynnu cydnabyddiaeth y corff yn ôl; ac os yw’n gwneud hynny, rhaid iddo roi i’r corff hysbysiad i’r perwyl hwn.
(5)
Wrth benderfynu ar y dyddiad tynnu’n ôl, mae Cymwysterau Cymru i roi sylw i’r angen i osgoi effaith andwyol ar bersonau sy’n ceisio cael, neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddynt geisio cael, cymhwyster, neu gymhwyster o’r disgrifiad, y mae cydnabyddiaeth i gael ei thynnu’n ôl mewn cysylltiad â’i ddyfarnu.