21(1)Os yw Cymwysterau Cymru yn penderfynu tynnu cydnabyddiaeth yn ôl, rhaid iddo roi hysbysiad i’r corff cydnabyddedig am y penderfyniad.
(2)Rhaid i’r hysbysiad—
(a)rhoi gwybod i’r corff am ei hawl o dan drefniadau a wneir o dan baragraff 22 i wneud cais am adolygiad o’r penderfyniad,
(b)datgan y dyddiad erbyn pryd y mae rhaid gwneud unrhyw gais am adolygiad, ac
(c)pennu’r dyddiad y mae’r tynnu’n ôl, yn absenoldeb cais am adolygiad, i gymryd effaith pan ddaw i ben (y “dyddiad tynnu’n ôl”).
(3)Rhaid i’r dyddiad tynnu’n ôl fod yn ddyddiad ar ôl y dyddiad olaf y caniateir gwneud cais am adolygiad o dan drefniadau a wneir o dan baragraff 22.
(4)Ar unrhyw adeg cyn y dyddiad tynnu’n ôl, caiff Cymwysterau Cymru benderfynu peidio â thynnu cydnabyddiaeth y corff yn ôl; ac os yw’n gwneud hynny, rhaid iddo roi i’r corff hysbysiad i’r perwyl hwn.
(5)Wrth benderfynu ar y dyddiad tynnu’n ôl, mae Cymwysterau Cymru i roi sylw i’r angen i osgoi effaith andwyol ar bersonau sy’n ceisio cael, neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddynt geisio cael, cymhwyster, neu gymhwyster o’r disgrifiad, y mae cydnabyddiaeth i gael ei thynnu’n ôl mewn cysylltiad â’i ddyfarnu.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 3 para. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
I2Atod. 3 para. 21 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)