(1)Rhaid i Gymwysterau Cymru wneud rheolau ynghylch gwneud ceisiadau iddo o dan y Rhan hon.
(2)Caiff y rheolau wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol.
(3)Caiff y rheolau wneud darpariaeth ynghylch—
(a)ffurf a chynnwys ceisiadau;
(b)y ffordd y mae ceisiadau i gael eu gwneud (gan gynnwys o ran unrhyw ffi sy’n daladwy mewn cysylltiad â chais).
(4)Rhaid i Gymwysterau Cymru gyhoeddi’r rheolau a wneir o dan yr adran hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
I2A. 24 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)