RHAN 6DARPARIAETH BELLACH SY’N BERTHNASOL I GYDNABOD, CYMERADWYO A DYNODI
Amlinellu rolau Cymwysterau Cymru ac Ofqual
36Cyfyngu ar gymhwyso amodau a osodir gan Gymwysterau Cymru
(1)
Nid yw unrhyw amod o fewn is-adran (2) ond yn gymwys mewn cysylltiad â dyfarnu, neu at ddibenion dyfarnu, yng Nghymru gan gorff dyfarnu ffurf ar gymhwyster y cydnabyddir y corff o dan Ran 3 mewn cysylltiad â’i dyfarnu.
(2)
Yr amodau yw’r amodau y mae cydnabyddiaeth o’r corff o dan adran 8 neu 9 yn ddarostyngedig iddynt.