RHAN 7PWERAU GORFODI CYMWYSTERAU CYMRU
37Pŵer i roi cyfarwyddydau
(1)
Os ymddengys i Gymwysterau Cymru fod corff dyfarnu wedi methu, neu’n debygol o fethu, â chydymffurfio ag amod y mae ei gydnabyddiaeth yn ddarostyngedig iddo, caiff Cymwysterau Cymru gyfarwyddo’r corff i gymryd, neu i beidio â chymryd, camau penodedig, gyda golwg ar sicrhau cydymffurfedd â’r amod.
(2)
Os ymddengys i Gymwysterau Cymru fod corff dyfarnu sy’n dyfarnu cymhwyster a gymeradwywyd wedi methu, neu’n debygol o fethu, â chydymffurfio ag amod y mae’r gymeradwyaeth honno yn ddarostyngedig iddo, caiff Cymwysterau Cymru gyfarwyddo’r corff i gymryd, neu i beidio â chymryd, camau penodedig gyda golwg ar sicrhau cydymffurfedd â’r amod.
(3)
Cyn rhoi cyfarwyddyd i gorff dyfarnu o dan yr adran hon, rhaid i Gymwysterau Cymru roi hysbysiad i’r corff o dan sylw am ei fwriad i wneud hynny.
(4)
Rhaid i’r hysbysiad—
(a)
nodi rhesymau Cymwysterau Cymru dros fwriadu rhoi’r cyfarwyddyd;
(b)
pennu pa bryd y mae Cymwysterau Cymru yn bwriadu penderfynu pa un ai i roi’r cyfarwyddyd.
(5)
Wrth benderfynu pa un ai i roi’r cyfarwyddyd, rhaid i Gymwysterau Cymru roi sylw i unrhyw sylwadau a gyflwynir gan y corff dyfarnu.
(6)
Rhaid i gorff dyfarnu gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir iddo o dan yr adran hon.
(7)
O ran cyfarwyddyd o dan yr adran hon—
(a)
rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;
(b)
caniateir iddo gael ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd diweddarach;
(c)
mae’n orfodadwy drwy orchymyn mandadol ar gais Cymwysterau Cymru.