(1)Mae darpariaethau’r Ddeddf hon a rhai Deddf Addysg 1996 (p.56) i’w darllen fel pe bai pob un ohonynt wedi eu cynnwys yn Neddf Addysg 1996 (ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-adran (2)).
(2)Pan roddir, at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, ystyr i ymadrodd sy’n wahanol i’r ystyr a roddir iddo yn Neddf Addysg 1996 (p.56), mae’r ystyr hwnnw i fod yn gymwys at ddibenion y ddarpariaeth honno, yn lle’r ystyr a roddir at ddibenion Deddf Addysg 1996 (p.56).
(3)Yn y Ddeddf hon—
mae i “amod arbennig” (“special condition”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 4 o Atodlen 3;
mae i “amod capio ffioedd” (“fee capping condition”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 6 o Atodlen 3;
mae i “amod trosglwyddo” (“transfer condition”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 12 o Atodlen 3;
mae i “corff cydnabyddedig” (“recognised body”) yr ystyr a roddir yn adran 12(2);
ystyr “corff dyfarnu” (“awarding body”) yw person sy’n dyfarnu, neu sy’n bwriadu dyfarnu, cymhwyster;
mae i “cosb ariannol” (“monetary penalty”) yr ystyr a roddir yn adran 38(3);
ystyr “cwmni” yw cwmni fel y diffinnir “company” yn adran 1(1) o Ddeddf Cwmnïau 2006 (p.46);
mae i “cydnabyddiaeth” (“recognition”) yr ystyr a roddir yn adran 12(2);
mae i “cymhwyster” (“qualification”) yr ystyr a roddir yn adran 56;
ystyr “cymhwyster a gymeradwywyd” (“approved qualification”) yw ffurf ar gymhwyster a gymeradwywyd gan Gymwysterau Cymru o dan Ran 4 (cymhwysterau blaenoriaethol a chymeradwyo cymwysterau);
mae i “cymhwyster blaenoriaethol” (“priority qualification”) yr ystyr a roddir yn adran 13(6);
mae i “cymhwyster blaenoriaethol anghyfyngedig” (“unrestricted priority qualification”) yr ystyr a roddir yn adran 13(6);
mae i “cymhwyster blaenoriaethol cyfyngedig” (“restricted priority qualification”) yr ystyr a roddir yn adran 13(6);
ystyr “darparwr dysgu” (“learning provider”) yw person sy’n darparu addysg neu hyfforddiant sy’n arwain at gymhwyster;
ystyr “dysgwyr” (“learners”) yw personau sy’n ceisio cael cymwysterau, neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddynt geisio cael cymwysterau;
ystyr “hysbysiad” (“notice”) yw hysbysiad ysgrifenedig;
mae i “meini prawf cydnabod cyffredinol” (“general recognition criteria”) yr ystyr a roddir yn adran 5(1);
mae i “meini prawf cydnabod sy’n benodol i gymhwyster” (“qualification specific recognition criteria”) yr ystyr a roddir yn adran 6(1);
ystyr “prif nodau” (“principal aims”) Cymwysterau Cymru yw’r nodau a restrir yn adran 3(1);
ystyr “rheoliadau” (“regulations”) yw rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru;
ystyr “sefydliad addysg uwch” (“higher education institution”) yw sefydliad o fewn y sector addysg uwch;
mae i “system gymwysterau Cymru” (“Welsh qualification system”) yr ystyr a roddir yn adran 3(3);
ystyr “trefniadau asesu” (“assessment arrangements”), mewn perthynas â chymhwyster, yw trefniadau ar gyfer asesu’r sgiliau perthnasol, yr wybodaeth berthnasol a’r ddealltwriaeth berthnasol mewn perthynas â’r cymhwyster;
“yr wybodaeth berthnasol, y sgiliau perthnasol neu’r ddealltwriaeth berthnasol” (“relevant knowledge, skills or understanding”), mewn perthynas â chymhwyster, yw’r wybodaeth, y sgiliau neu’r ddealltwriaeth y mae’n ofynnol eu dangos at ddiben penderfynu pa un ai i ddyfarnu’r cymhwyster i berson.
(4)At ddibenion y Ddeddf hon dim ond os yw’r gweithgareddau a gynhelir gan berson at ddibenion dangos yr wybodaeth berthnasol, y sgiliau perthnasol neu’r ddealltwriaeth berthnasol yn cael eu cynnal yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru yr asesir y person yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru, mewn cysylltiad â chymhwyster.
(5)Mae gan berson anhawster dysgu, at ddibenion y Ddeddf hon, os oes gan y person hwnnw—
(a)anghenion addysgol arbennig, neu
(b)anhawster i ddysgu sy’n llawer mwy na’r rhan fwyaf o bersonau sydd o’r un oedran â’r person, neu
(c)anabledd sydd naill ai’n atal neu’n rhwystro’r person rhag defnyddio cyfleusterau addysgol o’r math a ddarperir yn gyffredinol i bersonau o’r un oedran.
(6)Ond, nid yw person i’w gymryd fel pe bai ganddo anhawster dysgu dim ond oherwydd bod yr iaith (neu’r ffurf ar iaith) a ddefnyddir, neu a fydd yn cael ei defnyddio, i addysgu’r person yn wahanol i’r iaith (neu’r ffurf ar iaith) sydd wedi ei siarad ar unrhyw adeg yng nghartref y person.
(7)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at gorff yn cael ei gydnabod mewn cysylltiad â chymhwyster i’w dehongli yn unol ag adran 12.
(8)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at ddyfarnu ffurf ar gymhwyster fel cymhwyster a gymeradwywyd i’w dehongli yn unol ag adran 22(4).