Awdurdodau lleol sy’n uno’n wirfoddol
3Cynigion ar gyfer uno
1
Caiff unrhyw 2 brif awdurdod lleol neu ragor, yn ddim hwyrach na 30 Tachwedd 2015 neu unrhyw ddyddiad diweddarach y caiff Gweinidogion Cymru ei bennu drwy reoliadau, wneud cais ar y cyd i Weinidogion Cymru yn cynnig uno eu prif ardaloedd i greu prif ardal newydd.
2
Nid yw adran 101 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan awdurdodau lleol) yn gymwys i’r swyddogaeth o wneud cais o dan is-adran (1).
3
Ni chaniateir i’r swyddogaeth o wneud cais gan brif awdurdod lleol o dan is-adran (1) fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth y prif awdurdod lleol o dan drefniadau gweithrediaeth (o fewn ystyr Rhan 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000).
4
Mae’r cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at wneud cais o dan is-adran (1) yn cynnwys gwneud cais ar y cyd i Weinidogion Cymru, cyn i’r adran hon ddod i rym, gan 2 brif awdurdod lleol neu ragor sy’n cynnig uno eu prif ardaloedd i greu prif ardal newydd.
4Ymgynghori cyn gwneud cais i uno
1
Cyn i brif awdurdodau lleol wneud cais o dan adran 3(1) rhaid i’r prif awdurdodau lleol ymgynghori â’r canlynol—
a
aelodau’r cyhoedd mewn unrhyw brif ardal y mae’r cynnig i uno yn debygol o effeithio arni (“ardal yr effeithir arni”),
b
y prif awdurdodau lleol ar gyfer ardaloedd yr effeithir arnynt a chynghorau ar gyfer cymunedau mewn unrhyw ardal yr effeithir arni,
c
yr awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer unrhyw ardal sy’n gyfan gwbl neu’n rhannol o fewn unrhyw ardal yr effeithir arni,
d
prif swyddog yr heddlu a’r comisiynydd heddlu a throseddu ar gyfer unrhyw ardal heddlu sy’n gyfan gwbl neu’n rhannol o fewn unrhyw ardal yr effeithir arni,
e
yr awdurdod tân ac achub ar gyfer unrhyw ardal sy’n gyfan gwbl neu’n rhannol o fewn unrhyw ardal yr effeithir arni,
f
y bwrdd iechyd lleol ar gyfer unrhyw ardal sy’n gyfan gwbl neu’n rhannol o fewn unrhyw ardal yr effeithir arni,
g
pob undeb llafur a gydnabyddir (o fewn yr ystyr a roddir i “recognised” yn Neddf Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992) gan un neu ragor o’r prif awdurdodau lleol, ac
h
unrhyw bersonau eraill y mae’r prif awdurdodau lleol o’r farn eu bod yn briodol.
2
Rhaid bodloni is-adran (1) mewn perthynas â chais a wneir cyn i’r adran hon ddod i rym (yn ogystal â chais a wneir ar ôl hynny); a rhaid i unrhyw ymgynghoriad a gynhelir cyn i’r adran hon ddod i rym fodloni gofynion yr is-adran honno.
5Canllawiau ynghylch ceisiadau i uno
1
Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau—
a
ynghylch yr amcanion y dylai cynnig sydd mewn cais o dan adran 3(1) fwriadu eu cyflawni,
b
ynghylch y materion y dylid eu hystyried wrth lunio’r cynnig sydd mewn cais o dan adran 3(1),
c
ynghylch sut y mae’r ymgynghoriad sy’n ofynnol gan adran 4(1) i gael ei gynnal, a
d
fel arall mewn perthynas â gwneud ceisiadau o dan adran 3(1).
2
Rhaid i brif awdurdodau lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir o dan is-adran (1).
3
Gellir cydymffurfio â’r gofyniad yn is-adran (2) drwy roi sylw i unrhyw ganllawiau mewn perthynas ag unrhyw faterion y cyfeirir atynt yn is-adran (1) a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru cyn i’r adran hon ddod i rym.
6Pŵer i wneud rheoliadau uno
1
Pan wneir cais i Weinidogion Cymru o dan adran 3(1) caiff Gweinidogion Cymru, os ydynt o’r farn ei bod yn briodol gwneud hynny, wneud rheoliadau ar gyfer cyfansoddiad prif ardal newydd drwy uno, i greu prif ardal newydd, brif ardaloedd y prif awdurdodau lleol a wnaeth y cais.
2
Rhaid i reoliadau uno wneud darpariaeth ar gyfer—
a
sefydlu’r brif ardal newydd a diddymu’r prif ardaloedd presennol,
b
ffin y brif ardal newydd,
c
enw Cymraeg ac enw Saesneg y brif ardal newydd,
d
pa un a yw’r brif ardal newydd i fod yn sir neu’n fwrdeistref sirol,
e
sefydlu, fel cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol, awdurdod lleol ar gyfer y brif ardal newydd,
f
enw Cymraeg ac enw Saesneg y prif awdurdod lleol newydd,
g
trosglwyddo swyddogaethau’r awdurdodau sy’n uno i’r prif awdurdod lleol newydd, ac
h
dirwyn i ben a diddymu’r awdurdodau sy’n uno.
3
Pan fo’r brif ardal newydd i fod yn sir, rhaid i’r rheoliadau uno ddarparu y bydd y prif awdurdod lleol newydd yn cael enw’r sir ynghyd ag—
a
yn achos yr enw Saesneg, y geiriau “County Council” neu’r gair “Council”, a
b
yn achos yr enw Cymraeg, y geiriau “Cyngor Sir” neu’r gair “Cyngor”.
4
Pan fo’r brif ardal newydd i fod yn fwrdeistref sirol, rhaid i’r rheoliadau uno ddarparu y bydd y prif awdurdod lleol newydd yn cael enw’r bwrdeistref sirol ynghyd ag—
a
yn achos yr enw Saesneg, y geiriau “County Borough Council” neu’r gair “Council”, a
b
yn achos yr enw Cymraeg, y geiriau “Cyngor Bwrdeistref Sirol” neu’r gair “Cyngor”.
7Awdurdodau cysgodol
1
Rhaid i reoliadau uno—
a
gwneud darpariaeth ar gyfer sefydlu, o ddyddiad penodedig, awdurdod cysgodol sy’n cynnwys holl aelodau’r awdurdodau sy’n uno,
b
gwneud darpariaeth ar gyfer penodi gweithrediaeth gysgodol gan yr awdurdod cysgodol,
c
pennu cyfansoddiad y weithrediaeth gysgodol,
d
gwneud darpariaeth sy’n pennu swyddogaethau’r awdurdod cysgodol a’r weithrediaeth gysgodol, ac ynghylch arfer y swyddogaethau hynny, yn ystod y cyfnod cysgodol,
e
gwneud darpariaeth ynghylch ariannu’r awdurdod cysgodol, a
f
gwneud darpariaeth i’r awdurdod cysgodol a’r weithrediaeth gysgodol ddod yn brif awdurdod lleol ar gyfer y brif ardal newydd, ac yn weithrediaeth ar gyfer y prif awdurdod lleol hwnnw, ar gyfer y cyfnod cyn yr etholiad.
2
Yn is-adran (1) ystyr “cyfnod cysgodol” yw’r cyfnod—
a
sy’n dechrau â’r dyddiad yr awdurdodir neu y gwneir hi’n ofynnol yn gyntaf i’r awdurdod cysgodol neu’r weithrediaeth gysgodol arfer unrhyw swyddogaethau yn unol â’r rheoliadau uno, a
b
sy’n dod i ben yn union cyn y dyddiad trosglwyddo.
3
Yn is-adran (1) ystyr “cyfnod cyn yr etholiad” yw’r cyfnod—
a
sy’n dechrau â’r dyddiad trosglwyddo, a
b
sy’n dod i ben yn union cyn y pedwerydd diwrnod ar ôl cynnal yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr i’r prif awdurdod lleol newydd.
4
Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau mewn perthynas ag arfer swyddogaethau gan awdurdodau cysgodol a gweithrediaethau cysgodol a sefydlir neu a benodir yn unol â rheoliadau uno; a rhaid i awdurdodau cysgodol a gweithrediaethau cysgodol roi sylw i ganllawiau a ddyroddir o dan yr is-adran hon wrth arfer eu swyddogaethau.
8Etholiadau a chynghorwyr
Caiff rheoliadau uno gynnwys darpariaeth—
a
sy’n dileu etholiad cyffredin ar gyfer cynghorwyr i’r awdurdodau sy’n uno ac yn ymestyn tymhorau swyddi presennol cynghorwyr;
b
sy’n datgymhwyso am gyfnod penodedig ddarpariaethau sy’n ei gwneud yn ofynnol llenwi lleoedd gwag achlysurol ar gyfer swydd cynghorydd yn unrhyw un o’r awdurdodau sy’n uno;
c
sy’n pennu dyddiad yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr i’r prif awdurdod lleol yn y brif ardal newydd a thymhorau swyddi cynghorwyr a etholir yn yr etholiad hwnnw;
d
sy’n gohirio etholiad cyffredin ar gyfer cynghorwyr i gynghorau cymuned yn y brif ardal newydd ac yn ymestyn tymhorau swyddi presennol cynghorwyr.
9Awdurdodau â model gweithrediaeth maer a chabinet
1
Os yw un neu ragor o’r awdurdodau sy’n uno yn gweithredu drwy weithrediaeth maer a chabinet, neu wedi gwneud cynigion i weithredu drwy weithrediaeth o’r fath, caiff y rheoliadau uno gynnwys darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod cysgodol gynnal refferendwm ynghylch a ddylai’r prif awdurdod lleol newydd weithredu drwy weithrediaeth maer a chabinet (o fewn ystyr Rhan 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000).
2
Caiff rheoliadau uno gynnwys darpariaeth sy’n atal awdurdod sy’n uno rhag llunio a chymeradwyo cynigion i weithredu drwy weithrediaeth maer a chabinet o’r fath.
10Darpariaeth ganlyniadol etc. arall
1
Caiff rheoliadau uno gynnwys unrhyw ddarpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol neu drosiannol neu ddarpariaeth arbed sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.
2
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau sy’n gymwys yn gyffredinol wneud darpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol neu throsiannol neu darpariaeth arbed—
a
at ddibenion rheoliadau uno neu o ganlyniad iddynt, neu
b
er mwyn rhoi effaith lawn i reoliadau uno.
3
Mae rheoliadau o dan is-adran (2) yn cael effaith yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a gynhwysir mewn rheoliadau uno.
4
Yn yr adran hon mae cyfeiriadau at ddarpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol neu drosiannol neu ddarpariaeth arbed yn cynnwys darpariaeth—
a
ar gyfer trosglwyddo swyddogaethau ac eiddo, hawliau neu rwymedigaethau (gan gynnwys rhwymedigaethau troseddol) o awdurdod sy’n uno i brif awdurdod lleol newydd;
b
i achos sifil neu droseddol a gychwynnir gan neu yn erbyn awdurdod sy’n uno gael ei barhau gan neu yn erbyn prif awdurdod lleol newydd;
c
ar gyfer trosglwyddo staff, digolledu am golli swydd, neu mewn perthynas â phensiynau a materion staffio eraill;
d
ar gyfer trin prif awdurdod lleol newydd at rai dibenion neu at bob diben fel yr un person mewn cyfraith ag awdurdod sy’n uno;
e
mewn perthynas â rheolaeth neu gadwraeth eiddo (tirol neu bersonol) a drosglwyddir i brif awdurdod lleol newydd;
f
ynghylch cynnal refferendwm sy’n ofynnol yn rhinwedd adran 9;
g
mewn perthynas ag ymddiriedolwyr siarter;
h
mewn perthynas â siroedd wedi eu cadw (o fewn yr ystyr a roddir gan adran 270(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972).
5
Mae’r hawliau a’r rhwymedigaethau y caniateir eu trosglwyddo yn unol â rheoliadau uno neu reoliadau o dan is-adran (2) yn cynnwys hawliau a rhwymedigaethau mewn perthynas â chontract cyflogi.
6
Mae darpariaethau Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006 (O.S. 2006/246), ar wahân i reoliadau 4(6) a 10, yn gymwys i drosglwyddiad a wneir yn unol â rheoliadau uno neu reoliadau o dan is-adran (2) (pa un a yw’r trosglwyddiad yn drosglwyddiad perthnasol at ddibenion y Rheoliadau hynny ai peidio).
7
Yn yr adran hon mae cyfeiriadau at ddarpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol neu drosiannol neu ddarpariaeth arbed hefyd yn cynnwys darpariaeth mewn cysylltiad ag—
a
sefydlu cyrff cyhoeddus neu aelodaeth cyrff o’r fath mewn unrhyw ardal yr effeithir arni gan y rheoliadau uno ac ethol neu benodi aelodau’r cyrff cyhoeddus, neu
b
diddymu neu sefydlu, neu gyfyngu neu ymestyn, awdurdodaeth unrhyw gorff cyhoeddus mewn neu dros unrhyw ran o unrhyw ardal yr effeithir arni gan reoliadau uno.
8
Caiff darpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol neu drosiannol neu ddarpariaeth arbed mewn rheoliadau uno neu reoliadau o dan is-adran (2) fod ar ffurf darpariaeth—
a
sy’n addasu, yn eithrio neu’n cymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) unrhyw ddeddfiad, neu
b
sy’n diddymu neu’n dirymu unrhyw ddeddfiad (gydag arbedion neu hebddynt).
9
Mae “deddfiad” yn is-adran (8) yn cynnwys unrhyw siarter, pa bryd bynnag y’i rhoddwyd.
10
Nid yw’n ofynnol i Weinidogion Cymru achosi i ymchwiliad gael ei gynnal o dan is-adran (6) o adran 4 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (awdurdodau cyfunol) mewn perthynas â gorchymyn o dan is-adran (4) o’r adran honno a wneir o ganlyniad i reoliadau uno neu reoliadau o dan is-adran (2).
11
Caiff Gweinidogion Cymru—
a
amrywio rheoliadau uno (neu reoliadau o dan y paragraff hwn) drwy reoliadau, a
b
amrywio neu ddirymu rheoliadau o dan is-adran (2) (neu’r paragraff hwn) drwy reoliadau.