xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F1Aau. 2-39 wedi eu hepgor (21.1.2021) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 150(3)(b), 175(1)(f)(2)
(1)Mae adran 143A o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (swyddogaethau’r Panel mewn perthynas â chyflogau penaethiaid gwasanaethau cyflogedig) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Ar ôl is-adran (3) mewnosoder—
“(3A)Ond caiff awdurdod perthnasol cymwys sydd wedi ymgynghori â’r Panel ynghylch gostyngiad arfaethedig mewn cyflog wneud y gostyngiad cyn derbyn argymhelliad gan y Panel os nad yw’r contract y mae’r cyflog yn daladwy oddi tano yn atal yr awdurdod rhag newid y cyflog ar ôl derbyn argymhelliad.
(3B)Pan fo awdurdod perthnasol cymwys yn newid cyflog ei bennaeth gwasanaeth cyflogedig yn unol ag is-adran (3A) ac yn derbyn argymhelliad gan y Panel ynghylch y newid wedi hynny—
(a)rhaid iddo ailystyried y cyflog, a
(b)wrth wneud hynny, rhaid iddo roi sylw i’r argymhelliad.”
(3)Ar ôl is-adran (4) mewnosoder—
“(4A)Rhaid i’r Panel hysbysu Gweinidogion Cymru am bob argymhelliad y mae’n ei wneud o dan yr adran hon.”
(4)Ar ôl is-adran (5) mewnosoder—
“(5A)Rhaid i awdurdod perthnasol cymwys—
(a)hysbysu’r Panel a Gweinidogion Cymru am ei ymateb i argymhelliad a wnaed gan y Panel ynghylch newid i gyflog ei bennaeth gwasanaeth cyflogedig cyn diwedd y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r awdurdod yn penderfynu ar yr ymateb, a
(b)peidio â newid y cyflog cyn—
(i)diwedd y cyfnod o wyth wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r awdurdod yn hysbysu Gweinidogion Cymru o dan baragraff (a), neu
(ii)os yw Gweinidogion Cymru, cyn diwedd y cyfnod hwnnw, yn hysbysu’r awdurdod na fyddant yn rhoi cyfarwyddyd i’r awdurdod o dan is-adran (5B), y diwrnod y derbynnir yr hysbysiad hwnnw.
(5B)Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod ymateb awdurdod perthnasol cymwys i argymhelliad a wnaed gan y Panel ynghylch newid i gyflog yn golygu y bydd yr awdurdod yn talu (neu, o dan is-adran (3A), ei fod yn talu) cyflog sy’n anghyson â’r argymhelliad, caiff Gweinidogion Cymru—
(a)cyfarwyddo’r awdurdod i ailystyried y cyflog, a
(b)pennu yn y cyfarwyddyd erbyn pryd y mae’n rhaid i’r awdurdod wneud hynny.”
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 40 mewn grym ar 25.1.2016, gweler a. 46(1)
(1)Mae paragraff 1 o Atodlen 2 i Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (aelodaeth y Panel) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2)Yn is-baragraff (1), yn lle “Pum” rhodder “Dim llai na 3, a dim mwy na 7,”.
(3)Hepgorer is-baragraff (5) (cyflogeion awdurdodau lleol etc. heb eu hanghymhwyso rhag bod yn aelodau).
Gwybodaeth Cychwyn
I2A. 41 mewn grym ar 25.1.2016, gweler a. 46(1)