Cyfyngiadau ar drafodion a recriwtio etc. gan awdurdodau sy’n uno

29Cyfyngu ar drafodion a recriwtio etc. drwy gyfarwyddyd

1

Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo—

a

na chaiff awdurdod sy’n uno gyflawni gweithgaredd cyfyngedig oni bai ei fod wedi ystyried barn person neu bersonau penodedig ynghylch priodoldeb cyflawni’r gweithgaredd;

b

na chaiff awdurdod sy’n uno gyflawni gweithgaredd cyfyngedig oni bai bod person neu bersonau penodedig wedi rhoi cydsyniad ysgrifenedig i gyflawni’r gweithgaredd.

2

Y gweithgareddau cyfyngedig yw—

a

gwneud caffaeliad neu warediad tir perthnasol;

b

ymrwymo i gontract neu gytundeb perthnasol;

c

gwneud caffaeliad cyfalaf perthnasol;

d

rhoi grant neu gymorth ariannol arall perthnasol;

e

rhoi benthyciad perthnasol;

f

cynnwys swm o gronfeydd ariannol wrth gefn mewn cyfrifiad o dan adran 32 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992;

g

dechrau’r broses o recriwtio (gan gynnwys drwy recriwtio mewnol)—

i

prif swyddog anstatudol a grybwyllir yn adran 2(7) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989;

ii

dirprwy brif swyddog a grybwyllir yn adran 2(8) o’r Ddeddf honno.

3

Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod rhaid i awdurdod sy’n uno sy’n ceisio penodi neu ddynodi person i swydd gyfyngedig (gan gynnwys o blith ei swyddogion presennol) gydymffurfio â gofynion penodedig ynghylch y penodiad neu’r dynodiad.

4

Ystyr “swydd gyfyngedig”, mewn perthynas ag awdurdod sy’n uno, yw—

a

pennaeth ei wasanaeth cyflogedig a ddynodir o dan adran 4(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989;

b

ei swyddog monitro a ddynodir o dan adran 5(1) o’r Ddeddf honno;

c

prif swyddog statudol a grybwyllir yn adran 2(6) o’r Ddeddf honno.

5

Rhaid i awdurdod sy’n uno—

a

darparu manylion ynghylch cynnig arfaethedig i gyflawni gweithgaredd cyfyngedig i unrhyw berson a bennir at ddibenion is-adran (1)(a) neu (b) mewn perthynas â’r gweithgaredd hwnnw;

b

darparu manylion i Weinidogion Cymru ynghylch cynnig arfaethedig i benodi neu i ddynodi person i swydd gyfyngedig o dan amgylchiadau pan fo unrhyw ofynion yn gymwys mewn perthynas â’r penodiad neu’r dynodiad yn rhinwedd cyfarwyddyd o dan is-adran (3).

6

Os rhoddir barn at ddibenion is-adran (1)(a) na fyddai’n briodol i awdurdod sy’n uno gyflawni gweithgaredd cyfyngedig ond bod yr awdurdod yn penderfynu ei gyflawni, rhaid i’r awdurdod gyhoeddi ei resymau dros wneud y penderfyniad hwnnw.

7

Nid yw adran 143A(1)(b) a (3) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (argymhellion Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyflogau) yn gymwys—

a

pan fo cyfarwyddyd wedi ei roi o dan is-adran (1)(b) mewn perthynas â recriwtio prif swyddog anstatudol neu ddirprwy brif swyddog, i gynnig i dalu cyflog i’r person sy’n cael ei recriwtio sy’n wahanol i’r hyn a dalwyd i ragflaenydd y person hwnnw;

b

pan fo cyfarwyddyd wedi ei roi o dan is-adran (3), i gynnig i dalu cyflog i’r person a benodir neu a ddynodir sy’n wahanol i’r hyn a dalwyd i ragflaenydd y person hwnnw.

8

Mae’r cyfeiriad yn is-adran (7) at adran 143A o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 yn cynnwys cyfeiriad at yr adran honno fel y mae’n cael effaith o dan adran 39 o’r Ddeddf hon.

9

Mae cyfarwyddyd a roddir o dan yr adran hon yn cael effaith o’r dyddiad a bennir yn y cyfarwyddyd.