30Cyfarwyddydau o dan adran 29(1): atodol
(1)Mae’r adran hon yn gymwys mewn perthynas â chyfarwyddyd o dan adran 29(1).
(2)Caniateir rhoi cyfarwyddyd mewn perthynas â’r canlynol—
(a)un awdurdod sy’n uno;
(b)dau awdurdod penodedig neu ragor;
(c)awdurdodau o ddisgrifiad penodedig.
(3)Caiff person a bennir fel person y mae’n ofynnol cael ei farn neu ei gydsyniad fod yn unrhyw awdurdod neu berson y mae Gweinidogion Cymru yn ei ystyried yn briodol, a chaiff hyn gynnwys Gweinidogion Cymru, unrhyw bwyllgor pontio ac unrhyw awdurdod cysgodol.
(4)Caiff cyfarwyddyd bennu personau gwahanol—
(a)mewn perthynas â materion gwahanol y mae’n ofynnol cael barn neu gydsyniad yn eu cylch;
(b)mewn perthynas â gwahanol awdurdodau sy’n uno neu ddisgrifiadau gwahanol o awdurdodau.
(5)Caiff cyfarwyddyd bennu, mewn perthynas â’r un gweithgaredd cyfyngedig, ofynion gwahanol mewn perthynas â thrafodion o werthoedd gwahanol.
(6)Caiff cyfarwyddyd bennu, mewn perthynas â recriwtio prif swyddog anstatudol neu ddirprwy brif swyddog—
(a)gofynion gwahanol mewn perthynas â lefelau gwahanol o gydnabyddiaeth ariannol arfaethedig;
(b)gofynion gwahanol mewn perthynas â disgrifiadau gwahanol o swyddogion.
(7)Caniateir rhoi barn neu gydsyniad at ddibenion cyfarwyddyd mewn perthynas â thrafodiad penodol neu drafodion o unrhyw ddisgrifiad.
(8)Caniateir i unrhyw gydsyniad at ddibenion cyfarwyddyd gael ei roi yn ddiamod neu yn ddarostyngedig i amodau.
(9)At ddibenion cyfarwyddyd sy’n ymwneud â recriwtio prif swyddog anstatudol neu ddirprwy brif swyddog, caiff barn a roddir, neu amodau y mae cydsyniad yn ddarostyngedig iddynt, ymwneud yn benodol—
(a)â’r gydnabyddiaeth ariannol sydd i fod yn daladwy i berson sy’n cael ei recriwtio;
(b)â hyd penodiad.
(10)Mae unrhyw ddeddfiadau sy’n ymwneud â chaffaeliadau neu warediadau, ymrwymo i gontractau neu gytundebau, rhoi grantiau neu gymorth ariannol arall, rhoi benthyciadau, neu recriwtio neu benodi personau gan awdurdodau sy’n uno yn cael effaith yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddyd.
(11)Mae cydsyniad sy’n ofynnol gan gyfarwyddyd yn ychwanegol at unrhyw gydsyniad sy’n ofynnol gan unrhyw un neu ragor o’r ddeddfiadau hynny.