Yn y Ddeddf hon—
mae i “adolygiad cychwynnol” (“initial review”) yr ystyr a roddir gan adran 16(2);
mae i “awdurdod cysgodol” (“shadow authority”) yr ystyr a roddir gan adran 2(7);
mae i “awdurdod sy’n uno” (“merging authority”) yr ystyr a roddir gan adran 2(3);
ystyr “y Comisiwn” (“the Commission”) yw Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru;
mae i “dyddiad trosglwyddo” (“transfer date”) yr ystyr a roddir gan adran 2(8);
mae i “newidiadau canlyniadol perthnasol” (“relevant consequential changes”) yr ystyr a roddir gan adran 16(3);
ystyr “y Panel” (“the Panel”) yw Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol;
mae i “prif ardal” (“principal area”) yr ystyr a roddir gan adran 2(4);
mae i “prif ardal arfaethedig” (“proposed principal area”) yr ystyr a roddir gan adran 2(6);
mae i “prif awdurdod lleol” (“principal local authority”) yr ystyr a roddir gan adran 2(5);
mae i “pwyllgor pontio” (“transition committee”) yr ystyr a roddir gan adran 2(9);
mae i “rheoliadau uno” (“merger regulations”) yr ystyr a roddir gan adran 2(2);
mae i “trefniadau etholiadol” (“electoral arrangements”) yr ystyr a roddir gan adran 16(4);
mae i “yr ymgyngoreion mandadol” (“the mandatory consultees”) yr ystyr a roddir gan adran 19(3).