RHAN 10AMRYWIOL
PENNOD 1DARPARIAETHAU PELLACH YN YMWNEUD Â CHONTRACTAU MEDDIANNAETH
Rhwymedigaethau landlordiaid cymunedol i ymgynghori
234Trefniadau ymgynghori
1
Rhaid i landlord cymunedol wneud a chynnal unrhyw drefniadau sy’n briodol yn ei farn—
a
er mwyn hysbysu deiliaid contract o dan gontractau meddiannaeth gyda’r landlord am gynigion perthnasol ar faterion rheoli tai, a
b
er mwyn rhoi cyfle rhesymol i ddeiliaid contract wneud sylwadau ar y cynigion.
2
Nid yw’r dyletswyddau yn is-adran (1)—
a
ond yn gymwys pan fo cynnig perthnasol ar fater rheoli tai yn debygol o effeithio’n sylweddol ar yr holl ddeiliaid contract o dan gontractau meddiannaeth gyda’r landlord, neu ar grŵp perthnasol o ddeiliaid contract o’r fath, a
b
ond yn gymwys mewn perthynas â’r deiliaid contract sy’n debygol o gael eu heffeithio’n sylweddol.
3
Cyn gwneud unrhyw benderfyniad ar gynnig perthnasol ar fater rheoli tai, rhaid i’r landlord ystyried unrhyw sylwadau a wneir gan ddeiliaid contract yn unol â’r trefniadau.
4
Ystyr “cynnig perthnasol ar fater rheoli tai” yw cynnig sydd, ym marn y landlord, yn ymwneud â—
a
rhaglen newydd i gynnal, gwella neu ddymchwel anheddau sy’n ddarostyngedig i gontractau meddiannaeth, neu
b
newid arferion neu bolisi’r landlord o ran rheoli, cynnal, gwella neu ddymchwel anheddau o’r fath.
5
Ond nid yw cynnig yn gynnig perthnasol ar fater rheoli tai i’r graddau y mae’n ymwneud ag—
a
y rhent sy’n daladwy neu gydnabyddiaeth arall sy’n ddyledus i’r landlord, neu
b
tâl a godir am wasanaethau a chyfleusterau a ddarperir gan y landlord.
6
Ystyr “grŵp perthnasol” yw grŵp sy’n—
a
ffurfio grŵp cymdeithasol penodol, neu
b
meddiannu anheddau sy’n ffurfio dosbarth penodol (boed drwy gyfeiriad at y math o annedd, neu’r ystad dai neu ardal arall mwy o faint y maent wedi eu lleoli ynddi).
7
Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i baragraff 12(7) yn Rhan 2 o Atodlen 8 (cymeradwyo cynlluniau ailddatblygu).
235Datganiad o drefniadau ymgynghori
1
Rhaid i landlord y mae’n ofynnol iddo wneud trefniadau o dan adran 234 baratoi a chyhoeddi datganiad o’r trefniadau.
2
Os yw’r landlord yn awdurdod tai lleol, rhaid iddo sicrhau bod copi o’r datganiad ar gael i’w archwilio gan aelodau’r cyhoedd ar bob adeg resymol, yn ddi-dâl, ym mhrif swyddfa’r landlord.
3
Os yw’r landlord yn landlord cymdeithasol cofrestredig neu’n ddarparwr tai cymdeithasol preifat cofrestredig, rhaid iddo anfon copi o’r datganiad at Weinidogion Cymru a’r awdurdod tai lleol ar gyfer yr ardal y mae’r anheddau wedi ei lleoli ynddi.
4
Rhaid i awdurdod tai lleol yr anfonir copi ato o dan is-adran (3) sicrhau ei fod ar gael i’w archwilio gan aelodau’r cyhoedd ar bob adeg resymol, yn ddi-dâl, yn ei brif swyddfa.
5
Rhaid i’r landlord roi copi o’r datganiad—
a
i unrhyw ddeiliad contract o dan gontract meddiannaeth gyda’r landlord sy’n gofyn am un, yn ddi-dâl, a
b
i unrhyw berson arall sy’n gofyn am un, o dalu ffi resymol.
6
Rhaid i’r landlord hefyd—
a
paratoi crynodeb o’r datganiad, a
b
darparu copi o’r crynodeb yn ddi-dâl i unrhyw berson sy’n gofyn am un.