xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Valid from 05/08/2016
Valid from 07/06/2021
Valid from 01/12/2022
(1)Ar y diwrnod penodedig ac ar ôl hynny, ni all unrhyw denantiaeth na thrwydded (pryd bynnag y’i gwnaed) fod yn—
(a)contract cyfyngedig;
(b)tenantiaeth fyrddaliol warchodedig;
(c)tenantiaeth ddiogel;
(d)tenantiaeth sicr (sy’n cynnwys tenantiaeth fyrddaliol sicr);
(e)tenantiaeth ragarweiniol;
(f)tenantiaeth isradd.
(2)Pe gallai’r landlord o dan denantiaeth warchodedig neu denantiaeth statudol, yn union cyn y diwrnod penodedig, fod wedi adennill meddiant o’r tŷ annedd sy’n ddarostyngedig i’r denantiaeth o dan Achos 19 o Atodlen 15 i Ddeddf Rhenti 1977 (p. 42) (tenantiaethau byrddaliol gwarchodedig blaenorol), mae’r denantiaeth yn peidio â bod yn denantiaeth warchodedig neu’n denantiaeth statudol ar y diwrnod penodedig.
(3)Nid oes dim yn yr adran hon yn terfynu tenantiaeth neu drwydded sydd o fewn is-adran (1) neu (2).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 239 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
Valid from 01/12/2022
(1)At ddibenion penderfynu ar y materion yn is-adran (2), mae tenantiaeth neu drwydded a fodolai yn union cyn y diwrnod penodedig i’w thrin fel pe bai wedi ei gwneud ar y diwrnod penodedig.
(2)Y materion yw—
(a)pa un a yw’r denantiaeth neu’r drwydded yn gontract meddiannaeth,
(b)pwy yw deiliaid y contract o dan y contract, ac
(c)a yw’r contract yn gontract diogel neu’n gontract safonol.
(3)Mae is-adrannau (4) i (7) yn gymwys i denantiaeth neu drwydded sy’n dod yn gontract meddiannaeth ar y diwrnod penodedig.
(4)Mae’r darpariaethau sylfaenol sy’n gymwys i’r contract wedi eu hymgorffori fel telerau o’r contract.
(5)Mae telerau presennol y contract yn parhau i gael effaith, ac eithrio i’r graddau y maent—
(a)yn anghydnaws â darpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau’r contract, neu
(b)yn delerau’r contract oherwydd deddfiad a ddiddymir neu a ddirymir o dan y Ddeddf hon.
(6)Mae’r darpariaethau atodol sy’n gymwys i’r contract wedi eu hymgorffori fel telerau o’r contract, ac eithrio i’r graddau y maent yn anghydnaws â thelerau presennol y contract.
(7)Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i Atodlen 12 (sy’n gwneud darpariaeth bellach ynghylch tenantiaethau a thrwyddedau sydd eisoes yn bodoli, sy’n addasu’r modd y cymhwysir y Ddeddf hon, ac sy’n cynnwys darpariaeth sylfaenol sy’n gymwys i gontractau safonol penodol).
Gwybodaeth Cychwyn
I2A. 240 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
Valid from 01/12/2022
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan wneir, ar neu ar ôl y diwrnod penodedig, denantiaeth neu drwydded yn unol â chontract a wnaed cyn y diwrnod y gwneir y gorchymyn sy’n pennu’r diwrnod penodedig gan Weinidogion Cymru.
(2)Mae adran 240 ac Atodlen 12 yn gymwys i’r denantiaeth neu’r drwydded—
(a)fel pe bai wedi ei gwneud ar y diwrnod penodedig, a
(b)fel pe bai, yn union cyn y diwrnod hwnnw, yn denantiaeth neu’n drwydded o’r math y byddai wedi bod ar y diwrnod hwnnw oni bai am y Ddeddf hon.
(3)Nid yw paragraffau 2(3), 4(1) a (3), 11, 12, 13 a 23(3) a (7) o Atodlen 12 yn gymwys mewn perthynas â’r denantiaeth neu’r drwydded.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 241 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
Valid from 01/12/2022
Yn y Bennod hon—
“y diwrnod penodedig” (“the appointed day”) yw’r diwrnod a bennir o dan adran 257 fel y diwrnod y daw adran 239 i rym;
mae i “tenantiaeth ddiogel” yr ystyr sydd i “secure tenancy” yn Neddf Tai 1985 (p. 68) F1... o fewn ystyr adran 86 o Ddeddf Rhenti 1977 (p. 42);
mae i “tenantiaeth fyrddaliol sicr” yr ystyr sydd i “assured shorthold tenancy” yn Neddf Tai 1988 (p. 50)
mae i “tenantiaeth fyrddaliol warchodedig”, “tenantiaeth warchodedig”, “contract cyfyngedig” a “tenantiaeth statudol” yr ystyr sydd i “protected shorthold tenancy”, “protected tenancy”, “restricted contract” a “statutory tenancy” yn Neddf Rhenti 1977;
ystyr “tenantiaeth isradd” (“demoted tenancy”) yw tenantiaeth y mae adran 143A o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) yn berthnasol iddi;
mae i “tenantiaeth ragarweiniol” yr ystyr sydd i “introductory tenancy”yn Neddf Tai 1996;
mae i “tenantiaeth sicr” yr ystyr sydd i “assured tenancy”yn Neddf Tai 1988 (ac mae’n cynnwys tenantiaeth fyrddaliol sicr).
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 242 wedi eu hepgor (7.6.2021) yn rhinwedd Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 5 para. 5(1)
Gwybodaeth Cychwyn
I4A. 242 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)