xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Os yw Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus at ddiben rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, neu o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth o’r fath, cânt wneud drwy reoliadau—
(a)unrhyw ddarpariaeth atodol, darpariaeth gysylltiedig neu ddarpariaeth ganlyniadol, a
(b)unrhyw ddarpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.
(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddiwygio, diddymu, dirymu neu addasu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys darpariaeth yn y Ddeddf hon) F1....
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 255(2) wedi eu hepgor (7.6.2021) yn rhinwedd Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 5 para. 8
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 255 mewn grym ar 19.1.2016, gweler a. 257(1)