Dehongli’r DdeddfLL+C
243Awdurdodau lleol ac awdurdodau eraillLL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion dehongli’r Ddeddf hon.
(2)Mae’r canlynol yn awdurdodau lleol—
(a)cyngor sir ar gyfer ardal yng Nghymru,
(b)cyngor bwrdeistref sirol, ac
(c)comisiynydd heddlu a throseddu ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru.
(3)Ystyr “awdurdod tai lleol” (ac eithrio ym mharagraff [F110A a pharagraff] 12 o Atodlen 2) yw cyngor sir ar gyfer ardal yng Nghymru neu gyngor bwrdeistref sirol.
(4)Ystyr “ymddiriedolaeth gweithredu tai” yw ymddiriedolaeth gweithredu tai a sefydlwyd o dan Ran 3 o Ddeddf Tai 1988 (p. 50) ac mae’n cynnwys unrhyw gorff a sefydlwyd o dan adran 88 o’r Ddeddf honno.
(5)Mae i “corfforaeth dref newydd” yr un ystyr â “new town corporation” yn Neddf Tai 1985 (p. 68) (gweler adran 4 o’r Ddeddf honno).
(6)Ystyr “corfforaeth datblygu trefol” yw corfforaeth datblygu trefol a sefydlwyd o dan Ran 16 o Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980 (p. 65) ac mae’n cynnwys unrhyw gorff a sefydlwyd o dan adran 165B o’r Ddeddf honno.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 243(3) wedi eu mewnosod (30.11.2023) gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 a Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) 2015 (Diwygio) 2023 (O.S. 2023/1277), rhlau. 1(1), 2(3)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 243 mewn grym ar 19.1.2016, gweler a. 257(1)
244Landlord, lletywr a meddiannydd a ganiateirLL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion dehongli’r Ddeddf hon.
(2)Y landlord, mewn perthynas â chontract meddiannaeth, yw’r person sydd (neu sy’n honni ei fod) â hawl i roi’r hawl i unigolyn feddiannu’r annedd fel cartref.
(3)Mae person yn byw mewn annedd fel lletywr os yw’r denantiaeth neu’r drwydded y mae’n meddiannu’r annedd oddi tani yn dod o fewn paragraff 6 o Atodlen 2 (llety a rennir â’r landlord).
(4)Ond nid yw person yn byw mewn annedd fel lletywr os rhoddir hysbysiad iddo o dan baragraff 3 o Atodlen 2 bod ei denantiaeth neu drwydded yn gontract meddiannaeth.
(5)Mae person yn feddiannydd a ganiateir mewn annedd sy’n ddarostyngedig i gontract meddiannaeth—
(a)os yw’n byw yn yr annedd fel lletywr neu isddeiliad i ddeiliad y contract, neu
(b)os nad yw’n lletywr nac yn isddeiliad ond bod deiliad y contract yn caniatáu iddo fyw yn yr annedd fel cartref.
Gwybodaeth Cychwyn
I2A. 244 mewn grym ar 19.1.2016, gweler a. 257(1)
245Dyddiad meddiannu contract meddiannaethLL+C
Yn y Ddeddf hon, dyddiad meddiannu contract meddiannaeth yw’r diwrnod y mae gan ddeiliad y contract hawl i ddechrau meddiannu’r annedd.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 245 mewn grym ar 19.1.2016, gweler a. 257(1)
246AnneddLL+C
(1)At ddibenion y Ddeddf hon, ystyr “annedd” yw annedd [F2sydd] yng Nghymru, ac—
(a)nid yw’n cynnwys unrhyw strwythur neu gerbyd y gellir ei symud o un lle i’r llall, ond
(b)mae’n cynnwys unrhyw dir a feddiennir ynghyd â’r annedd, oni bai bod y tir yn dir amaethyddol sy’n fwy na 0.809 hectar.
(2)Ystyr “tir amaethyddol” yw—
(a)tir a ddefnyddir fel tir âr, doldir neu borfa yn unig;
(b)tir a ddefnyddir ar gyfer planhigfa neu goedwig neu ar gyfer tyfu prysgwydd y gellir eu gwerthu;
(c)tir a ddefnyddir at ddiben ffermio dofednod, gerddi marchnad, tiroedd planhigfa, perllannau neu randiroedd, gan gynnwys gerddi rhandir o fewn ystyr Deddf Rhandiroedd 1922 (p. 51),
ond nid yw’n cynnwys tir a feddiennir ynghyd â thŷ fel parc, gerddi (ac eithrio fel y crybwyllir ym mharagraff (c)) neu diroedd hamdden, tir a ddefnyddir yn bennaf neu’n llwyr at ddibenion chwaraeon neu hamdden neu dir a ddefnyddir fel cae ras.
(3)Ystyr annedd, mewn perthynas â chontract meddiannaeth, yw’r annedd sy’n ddarostyngedig i’r contract.
Diwygiadau Testunol
F2Gair yn a. 246(1) wedi ei hepgor (7.6.2021) yn rhinwedd Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 5 para. 7
Gwybodaeth Cychwyn
I4A. 246 mewn grym ar 19.1.2016, gweler a. 257(1)
247Ystyr “amrywio” contract meddiannaethLL+C
Yn y Ddeddf hon, mewn perthynas â chontract meddiannaeth—
(a)mae “amrywio” yn cynnwys ychwanegu teler i’r contract neu ddileu un o delerau’r contract;
(b)nid yw “amrywio” yn cynnwys unrhyw newid o ran pwy yw’r landlord na deiliad y contract o dan y contract.
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 247 mewn grym ar 19.1.2016, gweler a. 257(1)
248Y llysLL+C
Yn y Ddeddf hon, ystyr “y llys” yw’r Uchel Lys neu’r llys sirol.
Gwybodaeth Cychwyn
I6A. 248 mewn grym ar 19.1.2016, gweler a. 257(1)
249Les, tenantiaeth ac ymadroddion cysylltiedigLL+C
(1)Yn y Ddeddf hon, mae i “les” a “tenantiaeth” yr un ystyr.
(2)Mae’r naill ymadrodd a’r llall yn cynnwys—
(a)is-les neu is-denantiaeth, a
(b)les neu denantiaeth (neu is-les neu is-denantiaeth) mewn ecwiti.
(3)Mae’r ymadroddion “lesydd” a “lesddeiliad” a “landlord” a “tenant”, a chyfeiriadau at osod, at roi neu wneud les neu at gyfamodau neu delerau, i’w darllen yn unol â hynny.
(4)Ystyr “tenantiaeth” a “trwydded” yw tenantiaeth neu drwydded sy’n berthnasol i annedd (gweler adran 246).
Gwybodaeth Cychwyn
I7A. 249 mewn grym ar 19.1.2016, gweler a. 257(1)
250Aelodau o deuluLL+C
(1)Mae person yn aelod o deulu rhywun arall at ddibenion y Ddeddf hon—
(a)os yw’n briod neu’n bartner sifil i’r person hwnnw,
(b)os yw’n byw gyda’r person hwnnw fel pe baent yn briod neu’n bartneriaid sifil, neu
(c)os yw’n rhiant, yn fam-gu/nain neu’n dad-cu/taid, yn blentyn, yn ŵyr neu wyres, yn frawd, yn chwaer, yn ewythr, yn fodryb, yn nai neu’n nith i’r person hwnnw.
(2)At ddibenion is-adran (1)(c)—
(a)mae perthynas drwy briodas neu bartneriaeth sifil i’w thrin fel perthynas waed,
(b)mae perthynas rhwng personau nad oes ganddynt ond un rhiant yn gyffredin i’w thrin fel perthynas rhwng personau sydd â’r naill riant a’r llall yn gyffredin, ac
(c)ac eithrio at ddibenion paragraff (b), mae llysblentyn person i’w drin fel ei blentyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I8A. 250 mewn grym ar 19.1.2016, gweler a. 257(1)
251Gorchymyn eiddo teuluolLL+C
(1)At ddibenion y Ddeddf hon gorchymyn eiddo teuluol yw gorchymyn o dan—
(a)adran 24 o Ddeddf Achosion Priodasol 1973 (p. 18) (gorchmynion ad-drefnu eiddo mewn cysylltiad ag achosion priodasol),
(b)adran 17 neu 22 o Ddeddf Achosion Priodasol a Theuluol 1984 (p. 42) (gorchmynion ad-drefnu eiddo etc. ar ôl ysgariad mewn gwlad dramor),
(c)paragraff 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Plant 1989 (p. 41) (gorchmynion am gymorth ariannol yn erbyn rhieni),
(d)Atodlen 7 i Ddeddf Cyfraith Teulu 1996 (p. 27) (trosglwyddo tenantiaethau ar ôl ysgaru neu wahanu),
(e)Rhan 2 o Atodlen 5 i Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 (p. 33) (gorchmynion ad-drefnu eiddo mewn cysylltiad â phartneriaeth sifil), neu
(f)paragraff 9 neu 13 o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno (gorchmynion ad-drefnu eiddo etc. yn dilyn diddymu partneriaeth sifil mewn gwlad dramor).
(2)Mae gorchymyn o dan Atodlen 1 i Ddeddf Cartrefi Priodasol 1983 (p. 19) (fel y mae’n parhau i gael effaith oherwydd Atodlen 9 i Ddeddf Cyfraith Teulu 1996) hefyd yn orchymyn eiddo teuluol.
Gwybodaeth Cychwyn
I9A. 251 mewn grym ar 19.1.2016, gweler a. 257(1)
252Mân ddiffiniadauLL+C
Yn y Ddeddf hon—
ystyr “contract cyflogaeth” (“contract of employment”) yw contract gwasanaeth neu brentisiaeth, boed yn ddatganedig neu’n oblygedig, ac (os yw’n ddatganedig) boed ar lafar neu mewn ysgrifen;
ystyr “contract cyfnod penodol” (“fixed term contract”) yw contract meddiannaeth nad yw’n gontract cyfnodol;
ystyr “cyfnod rhentu” (“rental period”) yw cyfnod y mae rhent yn daladwy ar ei gyfer;
mae i “cymdeithas dai” yr ystyr sydd i “housing association” yn Neddf Cymdeithasau Tai 1985 (p. 69) (gweler adran 1 o’r Ddeddf honno);
ystyr “deddfiad” (“enactment”) yw deddfiad (pryd bynnag y’i deddfwyd neu y’i gwnaed, oni bai bod bwriad i’r gwrthwyneb yn ymddangos), sydd wedi ei gynnwys mewn, neu mewn offeryn a wnaed o dan—
(a)Deddf Seneddol, neu
(b)Mesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (gan gynnwys y Ddeddf hon);
ystyr “elusen gofrestredig“ (“registered charity”) yw elusen sydd wedi ei chofrestru o dan Ddeddf Elusennau 2011 (p. 25);
mae i “hawliau Confensiwn” yr ystyr sydd i “Convention rights” yn Neddf Hawliau Dynol 1998 (p. 42);
ystyr “rhagnodedig” (“prescribed”) yw wedi ei rhagnodi drwy reoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru;
ystyr “rhannau cyffredin” (“common parts”), mewn perthynas ag annedd sy’n ddarostyngedig i gontract meddiannaeth, yw—
(a)unrhyw ran o adeilad sy’n ffurfio’r annedd honno, a
(b)unrhyw fangre arall (gan gynnwys unrhyw annedd arall),
mae “rhent” (“rent”) yn cynnwys swm sy’n daladwy o dan drwydded;
[F3mae i “tenantiaeth cymdeithas dai” yr un ystyr â “housing association tenancy” yn Rhan 6 o Ddeddf Rhenti 1977 (p. 42) (gweler adran 86 o’r Ddeddf honno);]
mae i “ymddiriedolaeth dai” yr ystyr sydd i “housing trust” yn Neddf Cymdeithasau Tai 1985 (gweler adran 2 o’r Ddeddf honno).
Diwygiadau Testunol
F3Geiriau yn a. 252 wedi eu mewnosod (1.12.2022) gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Tenantiaethau Cymdeithas Dai: Darpariaethau Sylfaenol) 2022 (O.S. 2022/799), rhlau. 1, 5(4) (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2022/906, erglau. 1(2), 14)
Gwybodaeth Cychwyn
I10A. 252 mewn grym ar 19.1.2016, gweler a. 257(1)
253MynegaiLL+C
Mae’r tabl canlynol yn cynnwys mynegai o’r termau a ddefnyddir yn y Ddeddf hon (ac eithrio mewn adrannau neu baragraffau lle mae’r term a ddefnyddir wedi ei ddiffinio neu ei esbonio yn yr adran honno neu’r paragraff hwnnw)—
TABL 2
aelod o deulu (“member of a family”) | adran 250 |
amrywiad (“variation”) | adran 247 |
annedd (“dwelling”) | adran 246 |
awdurdod lleol (“local authority”) | adran 243 |
awdurdod tai lleol (ac eithrio ym mharagraff 12 o Atodlen 2 (“local housing authority”) | adran 243 |
blaendal (“deposit”) | adran 47 |
contract cyflogaeth (“contract of employment”) | adran 252 |
contract cyfnod penodol (“fixed term contract”) | adran 252 |
contract cyfyngedig (“restricted contract”) | adran 242 |
contract diogel (“secure contract”) | adran 8 |
contract isfeddiannaeth (“sub-occupation contract”) | adran 59 |
contract meddiannaeth (“occupation contract”) | adran 7 |
contract safonol (“standard contract”) | adran 8 |
contract safonol â chymorth (“supported standard contract”) | adran 143 |
contract safonol rhagarweiniol (“introductory standard contract”) | adran 16 |
contract safonol ymddygiad gwaharddedig (“prohibited conduct standard contract”) | adran 116 |
corfforaeth datblygu trefol (“urban development corporation”) | adran 243 |
corfforaeth tref newydd (“new town corporation”) | adran 243 |
cyfnod prawf (“probation period”) | paragraff 3 o Atodlen 7 |
cyfnod rhagarweiniol (“introductory period”) | paragraff 1 o Atodlen 4 |
cyfnod rhentu (“rental period”) | adran 252 |
cymal terfynu deiliad contract (“contract-holder’s break clause”) | adran 189 |
cymal terfynu’r landlord (“landlord’s break clause”) | adran 194 |
cymdeithas dai (“housing association”) | adran 252 |
cymdeithas dai gwbl gydfuddiannol (“fully mutual housing association”) | adran 9 |
cymdeithas dai gydweithredol (“co-operative housing association”) | adran 9 |
cynllun blaendal awdurdodedig (“authorised deposit scheme”) | adran 47 |
darpariaeth atodol (ac eithrio yn adrannau 255 a 256) (“supplementary provision”) | adran 23 |
darpariaeth sylfaenol (“fundamental provision”) | adran 18 (gweler adran 19 hefyd) |
darparwr tai cymdeithasol preifat cofrestredig (“private registered provider of social housing”) | adran 9 |
deddfiad (“enactment”) | adran 252 |
deiliad contract (“contract-holder”) | adran 7 (gweler adran 48 hefyd) |
diwrnod penodedig (“appointed day”) | adran 242 |
dyddiad cyflwyno (“introduction date”) | paragraffau 1 a 2 o Atodlen 4 |
dyddiad meddiannu (“occupation date”) | adran 245 |
elusen gofrestredig (“registered charity”) | adran 252 |
gofynion cychwynnol (o ran cynllun blaendal awdurdodedig) (“initial requirements (in relation to an authorised deposit scheme)”) | adran 47 |
gosodiad gwasanaeth (“service installation”) | adran 92 |
gorchymyn eiddo teuluol (“family property order”) | adran 251 |
hawliau Confensiwn (“Convention rights”) | adran 252 |
hawliad meddiant (“possession claim”) | adran 149 |
hysbysiad adennill meddiant (“possession notice”) | [F4adrannau 159, 161, 166, 171, 182, 188 a 192 (a gweler hefyd adran 150)] |
isddeiliad (“sub-holder”) | adran 59 |
landlord (“landlord”) | adran 244 (gweler adran 53 hefyd) |
landlord cymdeithasol cofrestredig (“registered social landlord”) | adran 9 |
landlord cymunedol (“community landlord”) | adran 9 |
landlord preifat (“private landlord”) | adran 10 |
les (“lease”) | adran 249 |
llety â chymorth (“supported accommodation”) | adran 143 |
lletywr (“lodger”) | adran 244 |
llys (“court”) | adran 248 |
mater allweddol (o ran contract meddiannaeth) (“key matter (in relation to an occupation contract)”) | adrannau 26 a 27 |
meddiannydd a ganiateir (“permitted occupier”) | adran 244 |
olynydd â blaenoriaeth (i ddeiliad contract) (“priority successor (of a contract-holder)”) | adran 75 |
olynydd â blaenoriaeth (o ran contract meddiannaeth) (“priority successor (in relation to an occupation contract)”) | adran 83 |
olynydd wrth gefn (i ddeiliad contract) (“reserve successor (of a contract-holder)”) | adrannau 76 a 77 |
olynydd wrth gefn (o ran contract meddiannaeth) (“reserve successor (in relation to an occupation contract)”) | adran 83 |
prif landlord (“head landlord”) | adran 59 |
rhagnodedig (“prescribed”) | adran 252 |
rhannau cyffredin (“common parts”) | adran 252 |
rhent (“rent”) | adran 252 |
seiliau rheoli ystad (“estate management grounds”) | adran 160 ac Atodlen 8 |
sicrwydd (“security”) | adran 47 |
teler atodol (“supplementary term”) | adran 23 |
teler sylfaenol (“fundamental term”) | adran 19 |
telerau ychwanegol (contract meddiannaeth) (“additional terms (of an occupation contract)”) | adran 28 |
tenantiaeth (“tenancy”) | adran 249 |
[F5tenantiaeth cymdeithas dai | adran 252] |
tenantiaeth ddiogel (“secure tenancy”) | adran 242 |
tenantiaeth fyrddaliol sicr (“assured shorthold tenancy”) | adran 242 |
tenantiaeth fyrddaliol warchodedig (“protected shorthold tenancy”) | adran 242 |
tenantiaeth isradd (“demoted tenancy”) | adran 242 |
tenantiaeth ragarweiniol (“introductory tenancy”) | adran 242 |
tenantiaeth sicr (“assured tenancy”) | adran 242 |
tenantiaeth statudol (“statutory tenancy”) | adran 242 |
tenantiaeth warchodedig (“protected tenancy”) | adran 242 |
ymddiriedolaeth dai (“housing trust”) | adran 252 |
ymddiriedolaeth gweithredu tai (“housing action trust”) | adran 243 |
ymddygiad gwaharddedig (“prohibited conduct”) | adran 55 |
ymddygiad gwrthgymdeithasol (“anti-social behaviour”) | adran 55 |
Diwygiadau Testunol
F4Geiriau yn a. 253 table 2 wedi eu hamnewid (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 6 para. 20
F5Geiriau yn a. 253 table 2 wedi eu mewnosod (1.12.2022) gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Tenantiaethau Cymdeithas Dai: Darpariaethau Sylfaenol) 2022 (O.S. 2022/799), rhlau. 1, 5(5) (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2022/906, erglau. 1(2), 14)
Gwybodaeth Cychwyn
I11A. 253 mewn grym ar 19.1.2016, gweler a. 257(1)