RHAN 2LL+CCONTRACTAU MEDDIANNAETH A LANDLORDIAID

PENNOD 4LL+CDARPARIAETHAU ATODOL CONTRACTAU MEDDIANNAETH

23Darpariaethau atodolLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu drwy reoliadau bod darpariaethau a ddynodir yn y rheoliadau wedi eu hymgorffori fel telerau contractau meddiannaeth (yn ddarostyngedig i adrannau 21, 24(1) a (2) a 25); at ddibenion y Ddeddf hon, mae darpariaethau o’r fath yn “ddarpariaethau atodol”.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu tyb hwy cyn gwneud Rheoliadau o dan is-adran (1).

(3)Mae adrannau 112 a 131 yn rhoi pwerau pellach i Weinidogion Cymru ragnodi darpariaethau atodol yn ymwneud â therfynau amser ar gyfer cyd-ddeiliaid contract yn tynnu’n ôl o gontractau diogel a chontractau safonol cyfnodol (ac mae’n rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori yn unol ag is-adran (2) cyn defnyddio’r pwerau hynny).

(4)Caiff Gweinidogion Cymru, o dan is-adran (1), ragnodi bod darpariaeth mewn deddfiad yn ddarpariaeth atodol sy’n gymwys i gontract meddiannaeth.

(5)Yn y Ddeddf hon—

  • mae i “darpariaeth atodol” (“supplementary provision”) (heblaw mewn perthynas ag adrannau 255 a 256) yr ystyr a roddir yn is-adran (1) o’r adran hon;

  • ystyr “teler atodol” (“supplementary term”), mewn perthynas â chontract meddiannaeth, yw unrhyw un neu ragor o delerau’r contract sy’n ymgorffori darpariaeth atodol (ynghyd ag addasiadau neu heb addasiadau iddi).

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 23 mewn grym ar 5.8.2016 at ddibenion penodedig gan O.S. 2016/813, ergl. 2(a), Atod. Rhn. 1

I3A. 23 mewn grym ar 1.12.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2022/906, ergl. 2

24Ymgorffori ac addasu darpariaethau atodolLL+C

(1)Nid yw darpariaeth atodol wedi ei hymgorffori fel un o delerau contract meddiannaeth os yw’r landlord a deiliad y contract yn cytuno na ddylid ei hymgorffori.

(2)Mae darpariaeth atodol wedi ei hymgorffori fel un o delerau contract meddiannaeth ynghyd ag addasiadau iddi os yw’r landlord a deiliad y contract yn cytuno y dylid ei hymgorffori ynghyd â’r addasiadau hynny.

(3)Nid oes unrhyw effaith i gytundeb o dan is-adran (1) neu (2) a fyddai’n gwneud teler atodol mewn contract meddiannaeth yn anghydnaws ag un o delerau sylfaenol y contract.

(4)Mae is-adrannau (1) a (2) yn ddarostyngedig i adran 34 (methiant landlord i ddarparu datganiad ysgrifenedig o’r contract) ac adran 36 (datganiad anghyflawn o’r contract).

25Effaith peidio ag ymgorffori darpariaethau atodol ac addasu darpariaethau atodolLL+C

(1)Mae is-adrannau (2) a (3) yn gymwys—

(a)pan na fo darpariaeth atodol wedi ei hymgorffori fel un o delerau contract meddiannaeth oherwydd cytundeb o dan adran 24(1), neu

(b)pan fo darpariaeth atodol wedi ei hymgorffori fel un o delerau’r contract ynghyd ag addasiadau iddi oherwydd cytundeb o dan adran 24(2).

(2)Os, o ganlyniad, yw’n angenrheidiol nad yw darpariaeth atodol arall yn cael ei hymgorffori, nid yw’r ddarpariaeth arall wedi ei hymgorffori.

(3)Os, o ganlyniad, yw’n angenrheidiol ymgorffori darpariaeth atodol arall ynghyd ag addasiadau iddi, mae’r ddarpariaeth arall wedi ei hymgorffori ynghyd â’r addasiadau angenrheidiol hynny (yn ogystal ag unrhyw addasiadau a wneir oherwydd cytundeb o dan adran 24(2)).