Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

Valid from 01/12/2022

PENNOD 5LL+CMATERION ALLWEDDOL A THELERAU YCHWANEGOL CONTRACTAU MEDDIANNAETH

26Materion allweddol mewn perthynas â phob contract meddiannaethLL+C

Mae’r canlynol yn faterion allweddol mewn perthynas â phob contract meddiannaeth—

(a)yr annedd,

(b)y dyddiad meddiannu,

(c)swm y rhent neu gydnabyddiaeth arall, a

(d)y cyfnodau rhentu.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 26 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

27Materion allweddol pellach mewn perthynas â chontractau safonolLL+C

Mae’r canlynol yn faterion allweddol mewn perthynas â chontractau safonol (yn ychwanegol at y rheini a nodir yn adran 26)—

(a)pa un a yw’r contract yn un cyfnodol neu wedi ei wneud am gyfnod penodol,

(b)y cyfnod dan sylw, os yw wedi ei wneud am gyfnod penodol, ac

(c)os oes cyfnodau pan nad oes gan ddeiliad y contract hawl i feddiannu’r annedd fel cartref, y cyfnodau dan sylw (gweler adrannau 121 a 133).

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 27 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

28Telerau ychwanegolLL+C

(1)Telerau ychwanegol contract meddiannaeth yw unrhyw un neu ragor o delerau datganedig y contract ac eithrio—

(a)telerau sy’n ymdrin â’r materion allweddol mewn perthynas â’r contract,

(b)telerau sylfaenol y contract, ac

(c)telerau atodol y contract.

(2)Nid oes unrhyw effaith i un o delerau ychwanegol contract meddiannaeth sy’n anghydnaws ag unrhyw un neu ragor o’r telerau a grybwyllir ym mharagraffau (a) i (c) o is-adran (1).

(3)Yn y Ddeddf hon mae i “telerau ychwanegol” yr ystyr a roddir gan is-adran (1).

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 28 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)