RHAN 3DARPARIAETHAU SY’N GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH
PENNOD 2DARPARU GWYBODAETH
Datganiad ysgrifenedig o’r contract
I931Datganiad ysgrifenedig
1
Rhaid i’r landlord o dan gontract meddiannaeth roi datganiad ysgrifenedig o’r contract i ddeiliad y contract cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r dyddiad meddiannu.
2
Os yw deiliad y contract o dan gontract meddiannaeth yn newid, rhaid i’r landlord roi datganiad ysgrifenedig o’r contract i ddeiliad newydd y contract cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau—
a
â’r diwrnod y mae deiliad y contract yn newid, neu
b
os yw’n hwyrach, â’r diwrnod y daw’r landlord (neu yn achos cyd-landlordiaid, unrhyw un ohonynt) i wybod bod deiliad y contract wedi newid.
3
Ni chaiff y landlord godi ffi am ddarparu datganiad ysgrifenedig o dan is-adran (1) neu (2).
4
Caiff deiliad y contract ofyn am ddatganiad ysgrifenedig pellach o’r contract unrhyw bryd.
5
Caiff y landlord godi ffi resymol am ddarparu datganiad ysgrifenedig pellach.
6
Rhaid i’r landlord roi’r datganiad ysgrifenedig pellach i ddeiliad y contract cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau—
a
â’r diwrnod y gwneir y cais, neu
b
os yw’r landlord yn codi ffi, â’r diwrnod y mae deiliad y contract yn talu’r ffi.
7
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.
I732Yr hyn y mae datganiad ysgrifenedig i’w gynnwys
1
Rhaid i ddatganiad ysgrifenedig o gontract meddiannaeth nodi enwau’r partïon i’r contract.
2
Rhaid iddo hefyd nodi—
a
telerau’r contract sy’n ymdrin â materion allweddol mewn perthynas â’r contract,
b
telerau sylfaenol y contract,
c
telerau atodol y contract, a
d
unrhyw delerau ychwanegol.
3
Rhaid iddo nodi—
a
unrhyw ddarpariaeth sylfaenol sy’n gymwys i’r contract nad yw wedi ei hymgorffori fel un o delerau’r contract oherwydd adran 20(1) neu 21(2), a
b
unrhyw ddarpariaeth atodol sy’n gymwys i’r contract nad yw wedi ei hymgorffori fel un o delerau’r contract oherwydd adran 21(2), 24(1) neu 25(2).
I34
Rhaid iddo gynnwys gwybodaeth esboniadol am unrhyw faterion a ragnodir.
I533Newidiadau golygyddol
1
Caiff y datganiad ysgrifenedig nodi telerau sylfaenol a thelerau atodol y contract meddiannaeth ynghyd â newidiadau golygyddol iddynt.
2
Newidiadau i eiriad teler sylfaenol neu deler atodol yw newidiadau golygyddol, nad ydynt yn newid sylwedd y teler hwnnw mewn unrhyw ffordd...F2
I834Methu â darparu datganiad ysgrifenedig etc.
1
Os yw’r landlord o dan gontract meddiannaeth wedi methu â chydymffurfio â gofyniad i ddarparu datganiad ysgrifenedig o dan adran 31, caiff deiliad y contract wneud cais i’r llys am ddatganiad llys ynghylch telerau’r contract.
2
Pan wneir cais o dan is-adran (1) mae pob darpariaeth sylfaenol ac atodol sy’n gymwys i’r contract i’w thrin fel pe bai wedi ei hymgorffori fel un o delerau’r contract heb ei haddasu, oni bai bod deiliad y contract yn honni nad oedd wedi ei hymgorffori neu’n honni ei bod wedi ei hymgorffori ynghyd ag addasiadau iddi.
3
Os yw deiliad y contract yn gwneud honiad o fath a grybwyllir yn is-adran (2), rhaid i’r llys ddyfarnu ar yr honiad hwnnw.
4
Nid yw is-adran (3) yn gymwys os gellir priodoli methiant y landlord i gydymffurfio ag adran 31 i weithred neu anwaith ar ran deiliad y contract.
5
Caiff y llys—
a
cysylltu datganiad o’r contract meddiannaeth i’w ddatganiad, neu
b
gorchymyn i’r landlord roi datganiad ysgrifenedig o’r contract i ddeiliad y contract.
F36
Mae paragraffau 1 a 2 o Atodlen 9A yn gwneud darpariaeth yn ymwneud â chontractau safonol cyfnodol, a chontractau safonol cyfnod penodol sy’n ymgorffori adran 186 neu sy’n cynnwys cymal terfynu’r landlord, sy’n atal landlord rhag rhoi hysbysiad (o dan adran 173 neu 186 neu o dan gymal terfynu’r landlord) sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad contract ildio meddiant, os nad yw’r landlord wedi darparu datganiad ysgrifenedig o’r contract o dan adran 31(1) neu (2).
I635Methu â darparu datganiad: digolledu
1
Os yw’r landlord o dan gontract meddiannaeth wedi methu â chydymffurfio â gofyniad i ddarparu datganiad ysgrifenedig o dan adran 31, mae’r landlord yn atebol i dalu tâl digolledu i ddeiliad y contract o dan adran 87.
2
Mae’r tâl digolledu yn daladwy ar gyfer y dyddiad perthnasol a phob diwrnod ar ôl y dyddiad perthnasol—
a
hyd y diwrnod y mae’r landlord yn rhoi datganiad ysgrifenedig o’r contract i ddeiliad y contract, neu
b
os yw hynny’n gynharach, hyd ddiwrnod olaf y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r dyddiad perthnasol.
3
Mae llog yn daladwy ar y tâl digolledu os yw’r landlord wedi methu â rhoi datganiad ysgrifenedig o’r contract i ddeiliad y contract ar y diwrnod y cyfeirir ato yn is-adran (2)(b) neu cyn hynny.
4
Mae’r llog yn dechrau cronni ar y diwrnod y cyfeirir ato yn is-adran (2)(b), ar y raddfa sy’n bodoli o dan adran 6 o Ddeddf Talu Dyledion Masnachol yn Hwyr (Llog) 1998 (p. 20) ar ddiwedd y diwrnod hwnnw.
5
Nid yw’r adran hon yn gymwys os gellir priodoli methiant y landlord i gydymffurfio ag adran 31 i weithred neu anwaith ar ran deiliad y contract.
6
Y dyddiad perthnasol yw diwrnod cyntaf y cyfnod yr oedd yn ofynnol i’r landlord roi’r datganiad ysgrifenedig cyn i’r cyfnod hwnnw ddod i ben.
I436Datganiad ysgrifenedig anghyflawn
1
Os yw’r landlord o dan gontract meddiannaeth yn darparu datganiad ysgrifenedig anghyflawn o’r contract, caiff deiliad y contract wneud cais i’r llys am ddatganiad llys ynghylch telerau’r contract.
2
Mae datganiad ysgrifenedig yn anghyflawn os nad yw’n cynnwys popeth y mae’n ofynnol iddo ei gynnwys o dan adran 32.
3
Ni chaiff deiliad y contract wneud cais i’r llys o dan is-adran (1) cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau—
a
os oedd yn ofynnol i’r landlord roi datganiad ysgrifenedig o dan adran 31(1), â’r dyddiad meddiannu;
b
os oedd yn ofynnol i’r landlord roi datganiad ysgrifenedig o dan adran 31(2), â’r diwrnod y rhoddodd y landlord y datganiad ysgrifenedig i ddeiliad newydd y contract;
c
os oedd yn ofynnol i’r landlord roi datganiad ysgrifenedig pellach o dan adran 31(4) i (6), â diwrnod cyntaf y cyfnod a grybwyllir yn adran 31(6).
4
Mae is-adran (5) yn gymwys os nad yw’r datganiad ysgrifenedig—
a
yn nodi darpariaeth sylfaenol sy’n gymwys i’r contract ac os nad yw’n cynnwys datganiad nad yw’r ddarpariaeth wedi ei hymgorffori oherwydd adran 20(1) neu 21(2), neu
b
yn nodi darpariaeth atodol sy’n gymwys i’r contract ac os nad yw’n cynnwys datganiad nad yw’r ddarpariaeth wedi ei hymgorffori oherwydd adran 21(2), 24(1) neu 25(2).
5
Mae’r ddarpariaeth honno i’w thrin fel pe bai wedi ei hymgorffori fel un o delerau’r contract heb ei haddasu oni bai—
a
bod adran 21 neu 25 yn gymwys mewn perthynas â hi, neu
b
bod deiliad y contract yn honni nad oedd wedi ei hymgorffori neu’n honni ei bod wedi ei hymgorffori ynghyd ag addasiadau iddi.
6
Os yw deiliad y contract yn gwneud honiad o’r fath a grybwyllir yn is-adran (5)(b), rhaid i’r llys ddyfarnu ar yr honiad hwnnw.
7
Nid yw is-adran (6) yn gymwys os gellir priodoli hepgor y ddarpariaeth neu’r datganiad ysgrifenedig i weithred neu anwaith ar ran deiliad y contract.
8
Caiff y llys—
a
cysylltu datganiad ysgrifenedig o’r contract meddiannaeth i’w ddatganiad, neu
b
gorchymyn i’r landlord roi datganiad ysgrifenedig cyflawn o’r contract i ddeiliad y contract.
9
Os yw’r llys wedi ei fodloni bod y datganiad ysgrifenedig yn anghyflawn oherwydd diffyg bwriadol ar ran y landlord, caiff orchymyn i’r landlord dalu tâl digolledu i ddeiliad y contract o dan adran 87.
10
Mae’r tâl digolledu yn daladwy ar gyfer y cyfnod, heb fod yn hwy na dau fis, a bennir gan y llys; a chaiff y llys orchymyn i’r landlord dalu llog ar unrhyw raddfa ac wedi’i gyfrifo mewn unrhyw fodd sy’n briodol yn ei farn.
I137Datganiad anghywir: cais deiliad y contract i’r llys
1
Caiff deiliad y contract o dan gontract meddiannaeth wneud cais i’r llys am ddatganiad bod datganiad ysgrifenedig o’r contract—
a
yn nodi un neu ragor o delerau’r contract yn anghywir neu’n nodi teler nad oes iddo unrhyw effaith,
b
yn datgan yn anghywir nad yw darpariaeth sylfaenol sy’n gymwys i’r contract wedi ei hymgorffori fel un o delerau’r contract oherwydd adran 20(1) neu 21(2),
c
yn datgan yn anghywir nad yw darpariaeth atodol sy’n gymwys i’r contract wedi ei hymgorffori fel un o delerau’r contract oherwydd adran 21(2), 24(1) neu 25(2), neu
d
yn nodi teler nad yw’n un o delerau’r contract.
2
Ond nid yw datganiad ysgrifenedig yn anghywir ond am nad yw’n nodi teler a amrywiwyd yn unol â’r contract neu drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad, os rhoddwyd—
a
datganiad ysgrifenedig o’r teler a amrywiwyd yn unol ag adran 109, 128 neu 136, neu
b
hysbysiad o’r amrywiad yn unol ag adran 104, 105(2) i (4) neu 107(1)(b) a (2) i (6) (amrywio contractau diogel) neu adran 123 F1neu 124(2) i (4) (amrywio contractau safonol cyfnodol),
oni bai bod y datganiad wedi ei roi o dan adran 31(2) neu (4) ar ôl i unrhyw amrywiad o’r fath i deler gael effaith.
3
Ni chaiff deiliad y contract wneud cais i’r llys o dan is-adran (1) cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau—
a
os oedd yn ofynnol i’r landlord roi datganiad ysgrifenedig o dan adran 31(1), â’r dyddiad meddiannu;
b
os oedd yn ofynnol i’r landlord roi datganiad ysgrifenedig o dan adran 31(2), â’r diwrnod y rhoddodd y landlord y datganiad ysgrifenedig i ddeiliad newydd y contract;
c
os oedd yn ofynnol i’r landlord roi datganiad ysgrifenedig pellach o dan adran 31(4) i (6), â diwrnod cyntaf y cyfnod a grybwyllir yn adran 31(6).
4
Os yw’r llys yn fodlon bod y sail yn is-adran (1)(a), (1)(b) neu (1)(c) wedi ei phrofi, caiff wneud datganiad sy’n nodi’r teler cywir.
5
Os yw’r llys yn fodlon bod y sail yn is-adran (1)(d) wedi ei phrofi, caiff wneud datganiad nad yw’r teler yn un o delerau’r contract.
6
Caiff y llys—
a
cysylltu datganiad ysgrifenedig o’r contract meddiannaeth i’w ddatganiad, neu
b
gorchymyn i’r landlord roi datganiad ysgrifenedig wedi ei gywiro o’r contract i ddeiliad y contract.
7
Os yw’r llys yn fodlon bod y datganiad ysgrifenedig yn anghywir fel y disgrifir yn is-adran (1) oherwydd diffyg bwriadol ar ran y landlord, caiff orchymyn i’r landlord dalu tâl digolledu i ddeiliad y contract o dan adran 87.
8
Mae’r tâl digolledu yn daladwy ar gyfer y cyfnod, heb fod yn hwy na dau fis, a bennir gan y llys; a chaiff y llys orchymyn i’r landlord dalu llog ar unrhyw raddfa ac wedi ei gyfrifo mewn unrhyw fodd sy’n briodol yn ei farn.
I238Datganiad anghywir: cais landlord i’r llys am ddatganiad bod contract yn gontract safonol
1
Mae’r adran hon yn gymwys os yw’r landlord o dan gontract meddiannaeth yn landlord cymunedol, ac os yw wedi rhoi i ddeiliad y contract—
a
hysbysiad o dan adran 13 (hysbysiad o gontract safonol), ond
b
datganiad ysgrifenedig o’r contract sy’n gyson â chontract diogel.
2
Caiff y landlord wneud cais i’r llys am ddatganiad bod y contract yn gontract safonol.
3
Ni chaiff y llys wneud y datganiad os yw’n fodlon mai bwriad y landlord, ar yr adeg y rhoddodd y datganiad ysgrifenedig i ddeiliad y contract, oedd y dylai’r contract fod yn gontract diogel.
4
Os yw’r llys yn gwneud y datganiad mae pob darpariaeth sylfaenol ac atodol sy’n gymwys i’r contract wedi ei hymgorffori fel un o delerau’r contract heb ei haddasu, oni bai bod deiliad y contract yn honni nad oedd wedi ei hymgorffori neu ei bod wedi ei hymgorffori ynghyd ag addasiadau iddi.
5
Os yw deiliad y contract yn gwneud honiad o fath a grybwyllir yn is-adran (4), rhaid i’r llys ddyfarnu ar yr honiad hwnnw.
6
Caiff y llys—
a
cysylltu datganiad ysgrifenedig o’r contract meddiannaeth i’w ddatganiad, neu
b
gorchymyn i’r landlord roi datganiad ysgrifenedig wedi ei gywiro o’r contract i ddeiliad y contract.