(1)Ni chaniateir amrywio contract diogel ac eithrio—
(a)yn unol ag adrannau 104 i 107, neu
(b)drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad.
(2)Rhaid i unrhyw amrywiad a wneir i gontract diogel (ac eithrio drwy neu o ganlyniad i unrhyw ddeddfiad) fod yn unol ag adran 108.
(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel; mae adran 20 yn darparu—
(a)bod rhaid ymgorffori is-adrannau (1)(b) a (2) o’r adran hon, a
(b)na chaniateir ymgorffori is-adrannau (1)(b) a (2) o’r adran hon ynghyd ag addasiadau iddynt.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 103 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I2A. 103 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2
(1)Caiff y landlord amrywio’r rhent sy’n daladwy o dan gontract diogel drwy roi hysbysiad i ddeiliad y contract yn nodi rhent newydd sydd i gael effaith ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.
(2)Ni chaiff y cyfnod rhwng y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract a’r dyddiad a bennir fod yn llai na dau fis.
(3)Yn ddarostyngedig i hynny—
(a)caiff yr hysbysiad cyntaf bennu unrhyw ddyddiad, a
(b)ni chaiff hysbysiadau diweddarach bennu dyddiad sy’n gynharach na blwyddyn ar ôl y dyddiad pan gafodd rhent newydd effaith ddiwethaf.
(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel y mae rhent yn daladwy oddi tano [F1, ac eithrio contract diogel sy’n denantiaeth cymdeithas dai].
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 104(4) wedi eu mewnosod (1.12.2022) gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Tenantiaethau Cymdeithas Dai: Darpariaethau Sylfaenol) 2022 (O.S. 2022/799), rhlau. 1, 5(2) (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2022/906, erglau. 1(2), 14)
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 104 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I4A. 104 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2
(1)Pan fo cydnabyddiaeth heblaw rhent yn daladwy o dan gontract diogel, caniateir amrywio swm y gydnabyddiaeth—
(a)drwy gytundeb rhwng y landlord a deiliad y contract, neu
(b)gan y landlord yn unol ag is-adrannau (2) i (4).
(2)Caiff y landlord roi hysbysiad i ddeiliad y contract sy’n nodi swm newydd o gydnabyddiaeth sydd i gael effaith ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.
(3)Ni chaiff y cyfnod rhwng y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract a’r dyddiad a bennir fod yn llai na dau fis.
(4)Yn ddarostyngedig i hynny—
(a)caiff yr hysbysiad cyntaf bennu unrhyw ddyddiad, a
(b)ni chaiff hysbysiadau diweddarach bennu dyddiad sy’n gynharach na blwyddyn ar ôl y dyddiad pan gafodd swm newydd o gydnabyddiaeth effaith ddiwethaf.
(5)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel y mae cydnabyddiaeth heblaw rhent yn daladwy oddi tano.
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 105 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I6A. 105 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2
(1)Caniateir amrywio unrhyw un o delerau sylfaenol contract diogel drwy gytundeb rhwng y landlord a deiliad y contract (yn ddarostyngedig i adran 108).
(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel.
Gwybodaeth Cychwyn
I7A. 106 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I8A. 106 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2
(1)Caniateir amrywio unrhyw un o delerau atodol neu delerau ychwanegol contract diogel (yn ddarostyngedig i adran 108)—
(a)drwy gytundeb rhwng y landlord a deiliad y contract, neu
(b)wrth i’r landlord roi hysbysiad amrywio i ddeiliad y contract.
(2)Cyn rhoi hysbysiad amrywio rhaid i’r landlord roi hysbysiad rhagarweiniol i ddeiliad y contract—
(a)yn hysbysu deiliad y contract fod y landlord yn bwriadu rhoi hysbysiad amrywio,
(b)yn nodi’r amrywiad arfaethedig ac yn hysbysu deiliad y contract o’i natur a’i effaith, ac
(c)yn gwahodd deiliad y contract i roi sylwadau ar yr amrywiad arfaethedig o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad.
(3)Rhaid i’r cyfnod a bennir roi cyfle rhesymol i ddeiliad y contract wneud sylwadau.
(4)Rhaid i’r hysbysiad amrywio bennu’r amrywiad y mae’n rhoi effaith iddo a’r dyddiad y mae’r amrywiad yn cael effaith.
(5)Ni chaiff y cyfnod rhwng y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad amrywio i ddeiliad y contract a’r dyddiad y mae’r amrywiad yn cael effaith fod yn llai na mis.
(6)Wrth roi hysbysiad amrywio rhaid i’r landlord hefyd roi i ddeiliad y contract unrhyw wybodaeth y mae’r landlord yn ei hystyried yn angenrheidiol er mwyn hysbysu deiliad y contract o natur ac effaith yr amrywiad.
(7)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel.
Gwybodaeth Cychwyn
I9A. 107 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I10A. 107 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2
(1)Ni chaniateir amrywio unrhyw un o delerau sylfaenol contract diogel sy’n ymgorffori unrhyw un o’r darpariaethau sylfaenol y mae is-adran (2) yn gymwys iddynt (ac eithrio drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad).
(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys i’r darpariaethau sylfaenol a ganlyn—
(a)adran 103(1)(b) a (2) a’r adran hon,
(b)adran 45 (gofyniad i ddefnyddio cynllun blaendal),
(c)adran 52 (cyd-ddeiliad contract yn peidio â bod yn barti i’r contract meddiannaeth),
(d)adran 55 (ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall),
(e)adran 148 (terfynu a ganiateir),
(f)adran 149 (hawliadau meddiant),
(g)adran 155 (marwolaeth unig ddeiliad contract), ac
(h)adran 158 (sicrhau contract drwy ddatganiad ffug).
(3)Nid yw amrywiad i unrhyw deler sylfaenol arall (ac eithrio drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad) yn cael unrhyw effaith—
(a)oni bai, o ganlyniad i’r amrywiad—
(i)y byddai’r ddarpariaeth sylfaenol y mae’r teler yn ei hymgorffori wedi ei hymgorffori heb ei haddasu, neu
(ii)na fyddai’r ddarpariaeth sylfaenol y mae’r teler yn ei hymgorffori wedi ei hymgorffori neu y byddai wedi ei hymgorffori ynghyd ag addasiadau iddi, ond F2... effaith hyn fyddai bod sefyllfa deiliad y contract yn gwella;
(b)pe byddai’r amrywiad (boed o fewn paragraff (a) ai peidio) yn golygu bod y teler sylfaenol yn anghydnaws â theler sylfaenol sy’n ymgorffori darpariaeth sylfaenol y mae is-adran (2) yn gymwys iddi.
(4)Nid yw amrywiad i un o delerau contract diogel yn cael unrhyw effaith pe byddai’n golygu bod un neu ragor o delerau’r contract yn anghydnaws â theler sylfaenol (oni bai yr amrywir y teler sylfaenol hwnnw hefyd yn unol â’r adran hon mewn ffordd a fyddai’n osgoi‘r anghydnawsedd).
(5)Nid yw is-adran (4) yn gymwys i amrywiad a wneir drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad.
(6)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel; mae adran 20 yn darparu—
(a)bod rhaid ymgorffori’r adran hon, a
(b)na chaniateir ymgorffori’r adran hon ynghyd ag addasiadau iddi.
Diwygiadau Testunol
F2Geiriau yn a. 108(3)(a)(ii) wedi eu hepgor (7.6.2021) yn rhinwedd Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 5 para. 2(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I11A. 108 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I12A. 108 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2
(1)Os yw contract diogel yn cael ei amrywio yn unol â’r contract neu drwy neu o ganlyniad i unrhyw ddeddfiad, rhaid i’r landlord, cyn diwedd y cyfnod perthnasol, roi i ddeiliad y contract—
(a)datganiad ysgrifenedig o’r teler neu’r telerau sy’n cael ei amrywio neu eu hamrywio, neu
(b)datganiad ysgrifenedig o’r contract meddiannaeth fel y’i hamrywiwyd,
oni bai bod y landlord wedi rhoi hysbysiad o’r amrywiad yn unol ag adran 104, 105(2) i (4) neu 107(1)(b) a (2) i (6).
(2)Y cyfnod perthnasol yw’r cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod yr amrywir y contract.
(3)Ni chaiff y landlord godi ffi am ddarparu datganiad ysgrifenedig o dan is-adran (1).
(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel.
Gwybodaeth Cychwyn
I13A. 109 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I14A. 109 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2
(1)Os yw’r landlord wedi methu â chydymffurfio â gofyniad o dan adran 109 mae’r landlord yn atebol i dalu tâl digolledu i ddeiliad y contract o dan adran 87.
(2)Mae’r tâl digolledu yn daladwy mewn perthynas â’r dyddiad perthnasol a phob diwrnod ar ôl y dyddiad perthnasol—
(a)hyd y diwrnod y mae’r landlord yn rhoi datganiad ysgrifenedig o’r teler neu’r telerau a amrywiwyd, neu o’r contract fel y’i hamrywiwyd, i ddeiliad y contract, neu
(b)os yw hynny’n gynharach, hyd ddiwrnod olaf y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r dyddiad perthnasol.
(3)Mae llog yn daladwy ar y tâl digolledu os yw’r landlord wedi methu â rhoi datganiad ysgrifenedig i ddeiliad y contract ar y diwrnod y cyfeirir ato yn is-adran (2)(b) neu cyn hynny.
(4)Mae’r llog yn dechrau cronni ar y diwrnod y cyfeirir ato yn is-adran (2)(b), ar y raddfa sy’n bodoli o dan adran 6 o Ddeddf Talu Dyledion Masnachol yn Hwyr (Llog) 1998 (p. 20) ar ddiwedd y diwrnod hwnnw.
(5)Y dyddiad perthnasol yw’r dyddiad yr amrywiwyd y contract.
(6)Nid yw is-adrannau (1) i (5) yn gymwys os gellir priodoli methiant y landlord i gydymffurfio â’r gofyniad i weithred neu anwaith ar ran deiliad y contract.
(7)Os, o dan adran 109, yw’r landlord yn rhoi datganiad ysgrifenedig o’r contract fel y’i hamrywiwyd i ddeiliad y contract, mae adrannau 36 a 37 (datganiadau anghyflawn ac anghywir) yn gymwys i’r datganiad fel pe bai[F3, yn is-adran (3) o’r adrannau hynny, y geiriau “dechrau â’r diwrnod yr amrywiwyd y contract” wedi eu rhoi yn lle’r geiriau o “dechrau” hyd at y diwedd”].
Diwygiadau Testunol
F3Geiriau yn a. 110(7) wedi eu hamnewid (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 5 para. 4(a)
Gwybodaeth Cychwyn
I15A. 110 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I16A. 110 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2