RHAN 5DARPARIAETHAU NAD YDYNT OND YN GYMWYS I GONTRACTAU DIOGEL
PENNOD 1TROSOLWG
I15I4102Trosolwg o’r Rhan
1
Nid yw Penodau 1 i 5 o’r Rhan hon ond yn gymwys i gontractau diogel, ac maent yn ymwneud ag—
a
amrywio contractau diogel,
b
cyd-ddeiliaid contract yn tynnu’n ôl,
c
delio (hynny yw, cymryd lletywr a throsglwyddo’r contract), a
d
arddodi contractau safonol ymddygiad gwaharddedig (pan fo’r landlord yn landlord cymunedol neu’n elusen gofrestredig).
2
Mae Pennod 6 yn cynnwys darpariaeth sylfaenol ynghylch trosglwyddo contract diogel i berson sy’n ddeiliad contract o dan gontract diogel arall; mae’r ddarpariaeth sylfaenol hon yn gymwys i gontractau diogel y mae’r landlord oddi tanynt yn landlord cymunedol.
PENNOD 2AMRYWIO CONTRACTAU
I9I29103Amrywio
1
Ni chaniateir amrywio contract diogel ac eithrio—
a
yn unol ag adrannau 104 i 107, neu
b
drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad.
2
Rhaid i unrhyw amrywiad a wneir i gontract diogel (ac eithrio drwy neu o ganlyniad i unrhyw ddeddfiad) fod yn unol ag adran 108.
3
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel; mae adran 20 yn darparu—
a
bod rhaid ymgorffori is-adrannau (1)(b) a (2) o’r adran hon, a
b
na chaniateir ymgorffori is-adrannau (1)(b) a (2) o’r adran hon ynghyd ag addasiadau iddynt.
I16I13104Amrywio’r rhent
1
Caiff y landlord amrywio’r rhent sy’n daladwy o dan gontract diogel drwy roi hysbysiad i ddeiliad y contract yn nodi rhent newydd sydd i gael effaith ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.
2
Ni chaiff y cyfnod rhwng y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract a’r dyddiad a bennir fod yn llai na dau fis.
3
Yn ddarostyngedig i hynny—
a
caiff yr hysbysiad cyntaf bennu unrhyw ddyddiad, a
b
ni chaiff hysbysiadau diweddarach bennu dyddiad sy’n gynharach na blwyddyn ar ôl y dyddiad pan gafodd rhent newydd effaith ddiwethaf.
4
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel y mae rhent yn daladwy oddi tano F1, ac eithrio contract diogel sy’n denantiaeth cymdeithas dai.
I30I20105Amrywio cydnabyddiaeth arall
1
Pan fo cydnabyddiaeth heblaw rhent yn daladwy o dan gontract diogel, caniateir amrywio swm y gydnabyddiaeth—
a
drwy gytundeb rhwng y landlord a deiliad y contract, neu
b
gan y landlord yn unol ag is-adrannau (2) i (4).
2
Caiff y landlord roi hysbysiad i ddeiliad y contract sy’n nodi swm newydd o gydnabyddiaeth sydd i gael effaith ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.
3
Ni chaiff y cyfnod rhwng y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract a’r dyddiad a bennir fod yn llai na dau fis.
4
Yn ddarostyngedig i hynny—
a
caiff yr hysbysiad cyntaf bennu unrhyw ddyddiad, a
b
ni chaiff hysbysiadau diweddarach bennu dyddiad sy’n gynharach na blwyddyn ar ôl y dyddiad pan gafodd swm newydd o gydnabyddiaeth effaith ddiwethaf.
5
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel y mae cydnabyddiaeth heblaw rhent yn daladwy oddi tano.
I7I1106Amrywio telerau sylfaenol
1
Caniateir amrywio unrhyw un o delerau sylfaenol contract diogel drwy gytundeb rhwng y landlord a deiliad y contract (yn ddarostyngedig i adran 108).
2
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel.
I22I17107Amrywio telerau atodol a thelerau ychwanegol
1
Caniateir amrywio unrhyw un o delerau atodol neu delerau ychwanegol contract diogel (yn ddarostyngedig i adran 108)—
a
drwy gytundeb rhwng y landlord a deiliad y contract, neu
b
wrth i’r landlord roi hysbysiad amrywio i ddeiliad y contract.
2
Cyn rhoi hysbysiad amrywio rhaid i’r landlord roi hysbysiad rhagarweiniol i ddeiliad y contract—
a
yn hysbysu deiliad y contract fod y landlord yn bwriadu rhoi hysbysiad amrywio,
b
yn nodi’r amrywiad arfaethedig ac yn hysbysu deiliad y contract o’i natur a’i effaith, ac
c
yn gwahodd deiliad y contract i roi sylwadau ar yr amrywiad arfaethedig o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad.
3
Rhaid i’r cyfnod a bennir roi cyfle rhesymol i ddeiliad y contract wneud sylwadau.
4
Rhaid i’r hysbysiad amrywio bennu’r amrywiad y mae’n rhoi effaith iddo a’r dyddiad y mae’r amrywiad yn cael effaith.
5
Ni chaiff y cyfnod rhwng y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad amrywio i ddeiliad y contract a’r dyddiad y mae’r amrywiad yn cael effaith fod yn llai na mis.
6
Wrth roi hysbysiad amrywio rhaid i’r landlord hefyd roi i ddeiliad y contract unrhyw wybodaeth y mae’r landlord yn ei hystyried yn angenrheidiol er mwyn hysbysu deiliad y contract o natur ac effaith yr amrywiad.
7
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel.
I27I26108Cyfyngiad ar amrywio
1
Ni chaniateir amrywio unrhyw un o delerau sylfaenol contract diogel sy’n ymgorffori unrhyw un o’r darpariaethau sylfaenol y mae is-adran (2) yn gymwys iddynt (ac eithrio drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad).
2
Mae’r is-adran hon yn gymwys i’r darpariaethau sylfaenol a ganlyn—
a
adran 103(1)(b) a (2) a’r adran hon,
b
adran 45 (gofyniad i ddefnyddio cynllun blaendal),
c
adran 52 (cyd-ddeiliad contract yn peidio â bod yn barti i’r contract meddiannaeth),
d
adran 55 (ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall),
e
adran 148 (terfynu a ganiateir),
f
adran 149 (hawliadau meddiant),
g
adran 155 (marwolaeth unig ddeiliad contract), ac
h
adran 158 (sicrhau contract drwy ddatganiad ffug).
3
Nid yw amrywiad i unrhyw deler sylfaenol arall (ac eithrio drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad) yn cael unrhyw effaith—
a
oni bai, o ganlyniad i’r amrywiad—
i
y byddai’r ddarpariaeth sylfaenol y mae’r teler yn ei hymgorffori wedi ei hymgorffori heb ei haddasu, neu
ii
na fyddai’r ddarpariaeth sylfaenol y mae’r teler yn ei hymgorffori wedi ei hymgorffori neu y byddai wedi ei hymgorffori ynghyd ag addasiadau iddi, ond F2... effaith hyn fyddai bod sefyllfa deiliad y contract yn gwella;
b
pe byddai’r amrywiad (boed o fewn paragraff (a) ai peidio) yn golygu bod y teler sylfaenol yn anghydnaws â theler sylfaenol sy’n ymgorffori darpariaeth sylfaenol y mae is-adran (2) yn gymwys iddi.
4
Nid yw amrywiad i un o delerau contract diogel yn cael unrhyw effaith pe byddai’n golygu bod un neu ragor o delerau’r contract yn anghydnaws â theler sylfaenol (oni bai yr amrywir y teler sylfaenol hwnnw hefyd yn unol â’r adran hon mewn ffordd a fyddai’n osgoi‘r anghydnawsedd).
5
Nid yw is-adran (4) yn gymwys i amrywiad a wneir drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad.
6
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel; mae adran 20 yn darparu—
a
bod rhaid ymgorffori’r adran hon, a
b
na chaniateir ymgorffori’r adran hon ynghyd ag addasiadau iddi.
I6I32109Datganiad ysgrifenedig yn cofnodi amrywiad
1
Os yw contract diogel yn cael ei amrywio yn unol â’r contract neu drwy neu o ganlyniad i unrhyw ddeddfiad, rhaid i’r landlord, cyn diwedd y cyfnod perthnasol, roi i ddeiliad y contract—
a
datganiad ysgrifenedig o’r teler neu’r telerau sy’n cael ei amrywio neu eu hamrywio, neu
b
datganiad ysgrifenedig o’r contract meddiannaeth fel y’i hamrywiwyd,
oni bai bod y landlord wedi rhoi hysbysiad o’r amrywiad yn unol ag adran 104, 105(2) i (4) neu 107(1)(b) a (2) i (6).
2
Y cyfnod perthnasol yw’r cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod yr amrywir y contract.
3
Ni chaiff y landlord godi ffi am ddarparu datganiad ysgrifenedig o dan is-adran (1).
4
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel.
I10I19110Methu â darparu datganiad ysgrifenedig etc.
1
Os yw’r landlord wedi methu â chydymffurfio â gofyniad o dan adran 109 mae’r landlord yn atebol i dalu tâl digolledu i ddeiliad y contract o dan adran 87.
2
Mae’r tâl digolledu yn daladwy mewn perthynas â’r dyddiad perthnasol a phob diwrnod ar ôl y dyddiad perthnasol—
a
hyd y diwrnod y mae’r landlord yn rhoi datganiad ysgrifenedig o’r teler neu’r telerau a amrywiwyd, neu o’r contract fel y’i hamrywiwyd, i ddeiliad y contract, neu
b
os yw hynny’n gynharach, hyd ddiwrnod olaf y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r dyddiad perthnasol.
3
Mae llog yn daladwy ar y tâl digolledu os yw’r landlord wedi methu â rhoi datganiad ysgrifenedig i ddeiliad y contract ar y diwrnod y cyfeirir ato yn is-adran (2)(b) neu cyn hynny.
4
Mae’r llog yn dechrau cronni ar y diwrnod y cyfeirir ato yn is-adran (2)(b), ar y raddfa sy’n bodoli o dan adran 6 o Ddeddf Talu Dyledion Masnachol yn Hwyr (Llog) 1998 (p. 20) ar ddiwedd y diwrnod hwnnw.
5
Y dyddiad perthnasol yw’r dyddiad yr amrywiwyd y contract.
6
Nid yw is-adrannau (1) i (5) yn gymwys os gellir priodoli methiant y landlord i gydymffurfio â’r gofyniad i weithred neu anwaith ar ran deiliad y contract.
7
Os, o dan adran 109, yw’r landlord yn rhoi datganiad ysgrifenedig o’r contract fel y’i hamrywiwyd i ddeiliad y contract, mae adrannau 36 a 37 (datganiadau anghyflawn ac anghywir) yn gymwys i’r datganiad fel pe baiF3, yn is-adran (3) o’r adrannau hynny, y geiriau “dechrau â’r diwrnod yr amrywiwyd y contract” wedi eu rhoi yn lle’r geiriau o “dechrau” hyd at y diwedd”.
PENNOD 3CYD-DDEILIAID CONTRACT: TYNNU’N ÔL
I8I5111Tynnu’n ôl
1
Caniateir i gyd-ddeiliad contract o dan gontract diogel dynnu’n ôl o’r contract drwy roi hysbysiad (“hysbysiad tynnu’n ôl”) i’r landlord.
2
Rhaid i’r hysbysiad tynnu’n ôl bennu’r dyddiad y mae cyd-ddeiliad y contract yn bwriadu peidio â bod yn barti i’r contract (y “dyddiad tynnu’n ôl”).
3
Rhaid i ddeiliad y contract roi rhybudd ysgrifenedig i gyd-ddeiliaid eraill y contract pan fydd yn rhoi’r hysbysiad tynnu’n ôl i’r landlord; a rhaid atodi copi o’r hysbysiad tynnu’n ôl i’r rhybudd.
4
Rhaid i’r landlord roi rhybudd ysgrifenedig i gyd-ddeiliaid eraill y contract cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r landlord dderbyn yr hysbysiad tynnu’n ôl; a rhaid atodi copi o’r hysbysiad tynnu’n ôl i’r rhybudd.
5
Mae’r cyd-ddeiliad contract yn peidio â bod yn barti i’r contract ar y dyddiad tynnu’n ôl.
6
Mae hysbysiad a roddir i’r landlord gan un neu ragor (ond nid pob un) o gyd-ddeiliaid y contract sy’n honni ei fod yn hysbysiad o dan adran 163 (hysbysiad gan ddeiliad contract i derfynu contract) i’w drin fel hysbysiad tynnu’n ôl, ac mae’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad i’w drin fel y dyddiad tynnu’n ôl.
7
Nid yw is-adran (3) yn gymwys i hysbysiad sy’n cael ei drin fel hysbysiad tynnu’n ôl oherwydd is-adran (6).
8
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel.
I23I21I18112Tynnu’n ôl: pŵer i ragnodi terfynau amser
Rhaid i Weinidogion Cymru ragnodi darpariaethau atodol sy’n pennu’r cyfnod byrraf a ganiateir rhwng y dyddiad y rhoddir hysbysiad o dan adran 111 i’r landlord, a’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.
PENNOD 4DELIO
Lletywyr
I34I14113Lletywyr
1
Caiff deiliad y contract o dan gontract diogel ganiatáu i bersonau fyw yn yr annedd fel lletywyr.
2
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel.
Trosglwyddo
I36I31114Trosglwyddo i olynydd posibl
1
Caiff deiliad y contract o dan gontract diogel drosglwyddo’r contract fel y disgrifir yn yr adran hon, ond dim ond os yw’r landlord yn cydsynio.
2
Caiff deiliad y contract drosglwyddo’r contract i—
a
olynydd posibl, neu
b
os oes dau neu ragor o olynwyr posibl, yr holl olynwyr posibl sy’n dymuno cael eu cynnwys yn y trosglwyddiad.
3
Os un deiliad contract yn unig sydd, olynydd posibl yw person a fyddai, o dan adran 74, yn gymwys i olynu deiliad y contract pe byddai deiliad y contract yn marw yn union cyn y trosglwyddiad.
4
Os oes cyd-ddeiliaid contract, olynydd posibl yw person a fyddai, o dan adran 74, yn gymwys i olynu cyd-ddeiliad contract—
a
pe byddai’r cyd-ddeiliad contract yn marw yn union cyn y trosglwyddiad, a
b
ar adeg y farwolaeth, os cyd-ddeiliad y contract oedd unig ddeiliad y contract.
5
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel.
I33I2115Trosglwyddo i olynydd posibl: cydsyniad y landlord
Pan fo landlord yn gwrthod cydsynio neu’n cydsynio yn ddarostyngedig i amodau i drosglwyddiad a ddisgrifir yn adran 114, mae’r hyn sy’n rhesymol at ddibenion adran 84 (cydsyniad y landlord) i’w benderfynu gan roi sylw i Atodlen 6.
PENNOD 5CONTRACTAU SAFONOL YMDDYGIAD GWAHARDDEDIG
I11116Gorchymyn sy’n arddodi contract safonol cyfnodol oherwydd ymddygiad gwaharddedig
I351
Os yw’r landlord o dan gontract diogel yn landlord cymunedol neu’n elusen gofrestredig, caiff y landlord wneud cais i’r llys am orchymyn o dan yr adran hon ar y sail fod deiliad y contract wedi torri adran 55 (ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall).
I352
Effaith gorchymyn o dan yr adran hon yw—
a
terfynu’r contract diogel o ddyddiad a bennir yn y gorchymyn, a
b
os yw deiliad y contract yn parhau i feddiannu ar ôl y dyddiad penodedig, creu contract safonol cyfnodol y mae ei ddyddiad meddiannu ar y dyddiad a bennir yn y gorchymyn (ac sy’n gontract safonol cyfnodol hyd ddiwedd y cyfnod prawf).
I353
Ni chaiff y llys wneud gorchymyn o dan yr adran hon onid yw’n fodlon—
a
bod deiliad y contract wedi torri adran 55,
b
y byddai wedi gwneud gorchymyn adennill meddiant ar y sail yn adran 157 (tor contract) ar sail yr achos hwnnw o dor contract yn unig,
c
y bydd y landlord yn sicrhau bod rhaglen o gymorth cymdeithasol ar gael i ddeiliad y contract, sydd â’r nod o atal ymddygiad gwaharddedig, a
d
ei bod yn rhesymol gwneud y gorchymyn.
I28I34
Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau ynglŷn â’r gweithgareddau a’r gwasanaethau (gan gynnwys gwasanaethau cymorth, cyngor a chwnsela) y caniateir eu cynnwys mewn rhaglen o gymorth cymdeithasol at ddibenion is-adran (3).
I355
Mae Atodlen 7 yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfnodau prawf, ynghylch y weithdrefn ar gyfer cael gorchymyn o dan yr adran hon, ac ynghylch telerau contract safonol cyfnodol sy’n cael ei greu o dan yr adran hon.
I356
Yn y Ddeddf hon, ystyr “contract safonol ymddygiad gwaharddedig” yw contract sy’n gontract safonol cyfnodol sy’n cael ei greu yn sgil gorchymyn o dan yr adran hon, ac nad yw ei gyfnod prawf wedi dod i ben eto.
I12I39117Trosi i gontract diogel
1
Mae contract safonol cyfnodol a ddaeth i fodolaeth yn sgil gorchymyn o dan adran 116 ac sy’n bodoli ar ddiwedd y cyfnod prawf—
a
yn dod i ben ar ddiwedd y cyfnod prawf, a
b
yn cael ei ddisodli gan gontract diogel sydd â dyddiad meddiannu sy’n dod yn union ar ôl i’r cyfnod hwnnw ddod i ben.
2
Ond nid yw is-adran (1) yn gymwys os yw’r cyfnod prawf yn dod i ben oherwydd paragraff 3(9) o Atodlen 7.
3
Mae Atodlen 7 yn gwneud darpariaeth ynghylch telerau contract diogel sy’n bodoli yn sgil diwedd cyfnod prawf.
PENNOD 6DARPARIAETHAU NAD YDYNT OND YN GYMWYS I GONTRACTAU DIOGEL GYDA LANDLORDIAID CYMUNEDOL
I37I25118Trosglwyddo i ddeiliad contract diogel arall
1
Caiff deiliad y contract o dan gontract diogel y mae’r landlord oddi tano yn landlord cymunedol drosglwyddo’r contract fel y disgrifir yn yr adran hon, ond dim ond os yw’r landlord yn cydsynio.
2
Caiff deiliad y contract drosglwyddo’r contract i berson—
a
sydd, cyn y trosglwyddiad, yn ddeiliad contract o dan gontract diogel y mae’r landlord oddi tano yn landlord cymunedol, a
b
a fydd, yn union cyn y trosglwyddiad, yn peidio â bod yn ddeiliad y contract o dan y contract a grybwyllir ym mharagraff (a).
3
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel y mae’r landlord oddi tano yn landlord cymunedol.
I24I38119Trosglwyddo i ddeiliad contract diogel arall: cydsyniad y landlord
Pan fo landlord yn gwrthod cydsynio neu’n cydsynio yn ddarostyngedig i amodau i drosglwyddiad a ddisgrifir yn adran 118, mae’r hyn sy’n rhesymol at ddibenion adran 84 (cydsyniad y landlord) i’w benderfynu gan roi sylw i Atodlen 6.