RHAN 6DARPARIAETHAU NAD YDYNT OND YN GYMWYS I GONTRACTAU SAFONOL CYFNODOL
PENNOD 1TROSOLWG
I3I11120Trosolwg o’r Rhan
Nid yw’r Rhan hon ond yn gymwys i gontractau safonol cyfnodol, ac mae’n ymwneud ag—
a
gwahardd deiliad y contract o’r annedd am gyfnodau penodedig,
b
amrywio contractau safonol cyfnodol, ac
c
cyd-ddeiliaid contract yn tynnu’n ôl.
PENNOD 2GWAHARDD AM GYFNODAU PENODEDIG
I24I1121Gwahardd deiliad contract o annedd am gyfnodau penodedig
1
Caiff contract safonol cyfnodol ddarparu nad oes hawl gan ddeiliad y contract i feddiannu’r annedd fel cartref yn ystod y cyfryw gyfnodau a bennir yn y contract.
2
Caiff y contract bennu cyfnodau at ddibenion is-adran (1) drwy gyfeirio at unrhyw faterion y mae’n rhesymol i ddeiliad y contract eu canfod (yn ogystal â thrwy gyfeirio at ddyddiadau penodedig).
F53
Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r Ddeddf hon drwy reoliadau at ddibenion—
a
darparu nad yw is-adran (1) yn gymwys mewn perthynas â chontractau safonol cyfnodol o ddisgrifiad penodol;
b
darparu nad yw is-adran (1) ond yn gymwys mewn perthynas â chontractau safonol cyfnodol o ddisgrifiad penodol;
c
newid yr hyn y caniateir darparu ar ei gyfer neu ei bennu mewn contract safonol cyfnodol o dan is-adran (1) neu (2) (naill ai’n gyffredinol neu mewn perthynas â chontractau safonol cyfnodol o ddisgrifiad penodol), neu osod cyfyngiadau ar hynny;
d
pennu o dan ba amgylchiadau y caniateir i gontract safonol cyfnodol gynnwys darpariaeth o dan is-adran (1), neu o dan ba amgylchiadau na chaniateir i gontract o’r fath gynnwys darpariaeth o dan is-adran (1), a hynny naill ai’n gyffredinol neu mewn perthynas â chontractau safonol cyfnodol o ddisgrifiad penodol;
e
gosod gofynion ar landlord mewn perthynas â chynnwys darpariaeth o dan is-adran (1) mewn contract safonol cyfnodol.
C1PENNOD 3AMRYWIO CONTRACTAU
I17I12122Amrywio
1
Ni chaniateir amrywio contract safonol cyfnodol ac eithrio—
a
yn unol ag adrannau 123 i F7125, neu
b
drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad.
2
Rhaid i unrhyw amrywiad a wneir i gontract safonol cyfnodol (ac eithrio drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad) fod yn unol ag adran 127.
3
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol; mae adran 20 yn darparu—
a
bod rhaid ymgorffori is-adrannau (1)(b) a (2) o’r adran hon, a
b
na chaniateir ymgorffori is-adrannau (1)(b) a (2) o’r adran hon ynghyd ag addasiadau iddynt.
I10I23123Amrywio’r rhent
1
Caiff y landlord amrywio’r rhent sy’n daladwy o dan gontract safonol cyfnodol drwy roi hysbysiad i ddeiliad y contract yn nodi rhent newydd sydd i gael effaith ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.
2
Ni chaiff y cyfnod rhwng y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract a’r dyddiad a bennir fod yn llai na dau fis.
3
Yn ddarostyngedig i hynny—
a
caiff yr hysbysiad cyntaf bennu unrhyw ddyddiad, a
b
ni chaiff hysbysiadau diweddarach bennu dyddiad sy’n gynharach na blwyddyn ar ôl y dyddiad pan gafodd rhent newydd effaith ddiwethaf.
4
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol y mae rhent yn daladwy oddi tano F3, ac eithrio contract safonol cyfnodol sy’n denantiaeth cymdeithas dai.
I19I4124Amrywio cydnabyddiaeth arall
1
Pan fo cydnabyddiaeth heblaw rhent yn daladwy o dan gontract safonol cyfnodol, caniateir amrywio swm y gydnabyddiaeth—
a
drwy gytundeb rhwng y landlord a deiliad y contract, neu
b
gan y landlord yn unol ag is-adrannau (2) i (4).
2
Caiff y landlord roi hysbysiad i ddeiliad y contract sy’n nodi swm newydd o gydnabyddiaeth sydd i gael effaith ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.
3
Ni chaiff y cyfnod rhwng y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract a’r dyddiad a bennir fod yn llai na dau fis.
4
Yn ddarostyngedig i hynny—
a
caiff yr hysbysiad cyntaf bennu unrhyw ddyddiad, a
b
ni chaiff hysbysiadau diweddarach bennu dyddiad sy’n gynharach na blwyddyn ar ôl y dyddiad pan gafodd swm newydd o gydnabyddiaeth effaith ddiwethaf.
5
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol y mae cydnabyddiaeth heblaw rhent yn daladwy oddi tano.
I14I9125Amrywio telerau eraill
1
Caniateir amrywio telerau sylfaenol, telerau atodol a thelerau ychwanegol contract safonol cyfnodol (yn ddarostyngedig i adran F8127) drwy gytundeb rhwng y landlord a deiliad y contract.
F6a
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F2b
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
2
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodolF14....
F11I25I16126Amrywio telerau eraill gan y landlord: y weithdrefn hysbysu
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
I21I13127Cyfyngiad ar amrywio
1
Ni chaniateir amrywio unrhyw un o delerau sylfaenol contract safonol cyfnodol sy’n ymgorffori unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau sylfaenol y mae is-adran (2) yn gymwys iddynt (ac eithrio drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad).
2
Mae’r is-adran hon yn gymwys i’r darpariaethau sylfaenol a ganlyn—
a
adran 122(1)(b) a (2) a’r adran hon,
b
adran 45 (gofyniad i ddefnyddio cynllun blaendal) F10...,
c
adran 52 (cyd-ddeiliad contract yn peidio â bod yn barti i’r contract meddiannaeth),
d
adran 55 (ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall),
e
adran 148 (terfynu a ganiateir),
f
adran 149 (hawliadau meddiant),
g
adran 155 (marwolaeth unig ddeiliad contract),
h
adran 158 (sicrhau contract drwy ddatganiad ffug),
F4i
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
j
paragraff 7 o Atodlen 4 (amrywio contract diogel yr ymdrinnir ag ef mewn datganiad ysgrifenedig o gontract safonol rhagarweiniol) F9, a
k
Rhan 1 o Atodlen 9A (cyfyngiadau ar roi hysbysiad y landlord o dan adran 173: torri rhwymedigaethau statudol)
3
Nid yw amrywiad i unrhyw deler sylfaenol arall (ac eithrio drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad) yn cael unrhyw effaith—
a
oni bai, o ganlyniad i’r amrywiad—
i
y byddai’r ddarpariaeth sylfaenol y mae’r teler yn ei hymgorffori wedi ei hymgorffori heb ei haddasu, neu
ii
na fyddai’r ddarpariaeth sylfaenol y mae’r teler yn ei hymgorffori wedi ei hymgorffori neu y byddai wedi ei hymgorffori ynghyd ag addasiadau iddi, ond F12... effaith hyn fyddai bod sefyllfa deiliad y contract yn gwella;
b
pe byddai’r amrywiad (boed o fewn paragraff (a) ai peidio) yn golygu bod y teler sylfaenol yn anghydnaws â theler sylfaenol sy’n ymgorffori darpariaeth sylfaenol y mae is-adran (2) yn gymwys iddi.
4
Nid yw amrywiad i un o delerau contract safonol cyfnodol yn cael unrhyw effaith pe byddai’n golygu bod un neu ragor o delerau’r contract yn anghydnaws â theler sylfaenol (oni bai yr amrywir y teler sylfaenol hwnnw hefyd yn unol â’r adran hon mewn ffordd a fyddai’n osgoi‘r anghydnawsedd).
5
Nid yw is-adran (4) yn gymwys i amrywiad a wneir drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad.
6
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol; mae adran 20 yn darparu—
a
bod rhaid ymgorffori’r adran hon, a
b
na chaniateir ymgorffori’r adran hon ynghyd ag addasiadau iddi.
I22I18128Datganiad ysgrifenedig yn cofnodi amrywiad
1
Os yw contract safonol cyfnodol yn cael ei amrywio yn unol â’r contract neu drwy neu o ganlyniad i unrhyw ddeddfiad rhaid i’r landlord, cyn diwedd y cyfnod perthnasol, roi i ddeiliad y contract—
a
datganiad ysgrifenedig o’r teler neu’r telerau sy’n cael ei amrywio neu eu hamrywio, neu
b
datganiad ysgrifenedig o’r contract fel y’i hamrywiwyd,
oni bai bod y landlord wedi rhoi hysbysiad o’r amrywiad yn unol ag adran 123 F1neu 124(2) i (4).
2
Y cyfnod perthnasol yw’r cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod yr amrywir y contract.
3
Ni chaiff y landlord godi ffi am ddarparu datganiad ysgrifenedig o dan is-adran (1).
4
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol.
I8I15129Methu â darparu datganiad ysgrifenedig etc.
1
Os yw’r landlord wedi methu â chydymffurfio â gofyniad o dan adran 128 mae’r landlord yn atebol i dalu tâl digolledu i ddeiliad y contract o dan adran 87.
2
Mae’r tâl digolledu yn daladwy mewn perthynas â’r dyddiad perthnasol a phob diwrnod ar ôl y dyddiad perthnasol—
a
hyd y diwrnod y mae’r landlord yn rhoi datganiad ysgrifenedig o’r teler neu’r telerau a amrywiwyd, neu o’r contract fel y’i hamrywiwyd, i ddeiliad y contract, neu
b
os yw hynny’n gynharach, hyd ddiwrnod olaf y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r dyddiad perthnasol.
3
Mae llog yn daladwy ar y tâl digolledu os yw’r landlord wedi methu â rhoi datganiad ysgrifenedig i ddeiliad y contract ar y diwrnod y cyfeirir ato yn is-adran (2)(b) neu cyn hynny.
4
Mae’r llog yn dechrau cronni ar y diwrnod y cyfeirir ato yn is-adran (2)(b) ar y raddfa sy’n bodoli o dan adran 6 o Ddeddf Talu Dyledion Masnachol yn Hwyr (Llog) 1998 (p. 20) ar ddiwedd y diwrnod hwnnw.
5
Y dyddiad perthnasol yw’r dyddiad yr amrywiwyd y contract.
6
Nid yw is-adrannau (1) i (5) yn gymwys os gellir priodoli methiant y landlord i gydymffurfio â’r gofyniad i weithred neu anwaith ar ran deiliad y contract.
7
Os, o dan adran 128, yw’r landlord yn rhoi datganiad ysgrifenedig o’r contract fel y’i hamrywiwyd i ddeiliad y contract, mae adrannau 36 a 37 (datganiadau anghyflawn ac anghywir) yn gymwys i’r datganiad fel pe bai F13, yn is-adran (3) o’r adrannau hynny, y geiriau “dechrau â’r diwrnod yr amrywiwyd y contract” wedi eu rhoi yn lle’r geiriau o “dechrau” hyd at y diwedd.
PENNOD 4CYD-DDEILIAID CONTRACT: TYNNU’N ÔL
I2I20130Tynnu’n ôl
1
Caniateir i gyd-ddeiliad contract o dan gontract safonol cyfnodol dynnu’n ôl o’r contract drwy roi hysbysiad (“hysbysiad tynnu’n ôl”) i’r landlord.
2
Rhaid i’r hysbysiad tynnu’n ôl bennu’r dyddiad y mae cyd-ddeiliad y contract yn bwriadu peidio â bod yn barti i’r contract (y “dyddiad tynnu’n ôl”).
3
Rhaid i gyd-ddeiliad y contract roi rhybudd ysgrifenedig i gyd-ddeiliaid eraill y contract pan fydd yn rhoi’r hysbysiad tynnu’n ôl i’r landlord; a rhaid atodi copi o’r hysbysiad tynnu’n ôl i’r rhybudd.
4
Rhaid i’r landlord roi rhybudd ysgrifenedig i’r cyd-ddeiliaid contract eraill cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r landlord dderbyn yr hysbysiad tynnu’n ôl; a rhaid atodi copi o’r hysbysiad tynnu’n ôl i’r rhybudd.
5
Mae’r cyd-ddeiliad contract yn peidio â bod yn barti i’r contract ar y dyddiad tynnu’n ôl.
6
Mae hysbysiad a roddir i’r landlord gan un neu ragor (ond nid pob un) o gyd-ddeiliaid y contract sy’n honni ei fod yn hysbysiad o dan adran 168 (hysbysiad gan ddeiliad contract i derfynu contract) i’w drin fel hysbysiad tynnu’n ôl, ac mae’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad i’w drin fel y dyddiad tynnu’n ôl.
7
Nid yw is-adran (3) yn gymwys i hysbysiad sy’n cael ei drin fel hysbysiad tynnu’n ôl oherwydd is-adran (6).
8
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol.
I6I5I7131Tynnu’n ôl: y pŵer i ragnodi terfynau amser
Rhaid i Weinidogion Cymru ragnodi darpariaethau atodol sy’n pennu’r cyfnod byrraf a ganiateir rhwng y dyddiad y rhoddir hysbysiad o dan adran 130 i’r landlord, a’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.
Rhn. 6 Pnd. 3: rhoddir pŵer i ddiwygio (1.9.2019) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 (anaw 2), a. 30(2), Atod. 1 para. 11 (ynghyd ag a. 29); O.S. 2019/1150, ergl. 2(c)