xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Valid from 01/12/2022
Nid yw’r Rhan hon ond yn gymwys i gontractau safonol cyfnod penodol, ac mae’n ymwneud ag—
(a)gwahardd deiliad y contract o’r annedd am gyfnodau penodedig,
(b)amrywio contractau safonol cyfnod penodol,
(c)cyd-ddeiliaid contract yn tynnu’n ôl o gontractau safonol cyfnod penodol penodedig, a
(d)delio (hynny yw, trosglwyddiadau).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 132 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
(1)Caiff contract safonol cyfnod penodol ddarparu nad oes hawl gan ddeiliad y contract i feddiannu’r annedd fel cartref yn ystod y cyfryw gyfnodau a bennir yn y contract.
(2)Caiff y contract bennu cyfnodau at ddibenion is-adran (1) drwy gyfeirio at unrhyw faterion y mae’n rhesymol i ddeiliad y contract eu canfod (yn ogystal â thrwy gyfeirio at ddyddiadau penodedig).
[F1(3)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r Ddeddf hon drwy reoliadau at ddibenion—
(a)darparu nad yw is-adran (1) yn gymwys mewn perthynas â chontractau safonol cyfnod penodol o ddisgrifiad penodol;
(b)darparu nad yw is-adran (1) ond yn gymwys mewn perthynas â chontractau safonol cyfnod penodol o ddisgrifiad penodol;
(c)newid yr hyn y caniateir darparu ar ei gyfer neu ei bennu mewn contract safonol cyfnod penodol o dan is-adran (1) neu (2) (naill ai’n gyffredinol neu mewn perthynas â chontractau safonol cyfnod penodol o ddisgrifiad penodol), neu osod cyfyngiadau ar hynny;
(d)pennu o dan ba amgylchiadau y caniateir i gontract safonol cyfnod penodol gynnwys darpariaeth o dan is-adran (1), neu o dan ba amgylchiadau na chaniateir i gontract o’r fath gynnwys darpariaeth o dan is-adran (1), a hynny naill ai’n gyffredinol neu mewn perthynas â chontractau safonol cyfnod penodol o ddisgrifiad penodol;
(e)gosod gofynion ar landlord mewn perthynas â chynnwys darpariaeth o dan is-adran (1) mewn contract safonol cyfnod penodol.]
Diwygiadau Testunol
F1A. 133(3) wedi ei fewnosod (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), aau. 13(3), 19(3)
Gwybodaeth Cychwyn
I2A. 133 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rhn. 7 Pnd. 3: rhoddir pŵer i ddiwygio (1.9.2019) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 (anaw 2), a. 30(2), Atod. 1 para. 11 (ynghyd ag a. 29); O.S. 2019/1150, ergl. 2(c)
(1)Ni chaniateir amrywio contract safonol cyfnod penodol ac eithrio—
(a)drwy gytundeb rhwng y landlord a deiliad y contract, neu
(b)drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad.
(2)Rhaid i unrhyw amrywiad a wneir i gontract safonol cyfnod penodol (ac eithrio drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad) fod yn unol ag adran 135.
(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol; mae adran 20 yn darparu—
(a)bod rhaid ymgorffori is-adrannau (1)(b) a (2) o’r adran hon, a
(b)na chaniateir ymgorffori is-adrannau (1)(b) a (2) o’r adran hon ynghyd ag addasiadau iddynt.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 134 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
(1)Ni chaniateir amrywio unrhyw un o delerau sylfaenol contract safonol cyfnod penodol sy’n ymgorffori unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau sylfaenol y mae is-adran (2) yn gymwys iddynt (ac eithrio drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad).
(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys i’r darpariaethau sylfaenol a ganlyn—
(a)adran 134(1)(b) a (2) a’r adran hon,
(b)adran 45 (gofyniad i ddefnyddio cynllun blaendal),
(c)adran 52 (cyd-ddeiliad contract yn peidio â bod yn barti i’r contract meddiannaeth),
(d)adran 55 (ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall),
(e)adran 148 (terfynu a ganiateir),
(f)adran 149 (hawliadau meddiant),
(g)adran 155 (marwolaeth unig ddeiliad contract),
(h)adran 158 (sicrhau contract drwy ddatganiad ffug),
F2(i). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(j)F2...a
[F3(k)Rhan 1 o Atodlen 9A (cyfyngiadau ar roi hysbysiad o dan adran 186 ac o dan gymal terfynu’r landlord: torri rhwymedigaethau statudol).]
(3)Nid yw amrywiad i unrhyw deler sylfaenol arall (ac eithrio drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad) yn cael unrhyw effaith—
(a)oni bai o ganlyniad i’r amrywiad—
(i)y byddai’r ddarpariaeth sylfaenol y mae’r teler yn ei hymgorffori wedi ei hymgorffori heb ei haddasu, neu
(ii)na fyddai’r ddarpariaeth sylfaenol y mae’r teler yn ei hymgorffori wedi ei hymgorffori neu y byddai wedi ei hymgorffori ynghyd ag addasiadau iddi, ond F4... effaith hyn fyddai bod sefyllfa deiliad y contract yn gwella;
(b)pe byddai’r amrywiad (boed o fewn paragraff (a) ai peidio) yn golygu bod y teler sylfaenol yn anghydnaws â theler sylfaenol sy’n ymgorffori darpariaeth sylfaenol y mae is-adran (2) yn gymwys iddi.
(4)Nid yw amrywiad i un o delerau contract safonol cyfnod penodol yn cael unrhyw effaith pe byddai’n golygu bod un neu ragor o delerau’r contract yn anghydnaws â theler sylfaenol (oni bai yr amrywir y teler sylfaenol hwnnw hefyd yn unol â’r adran hon mewn ffordd a fyddai’n osgoi‘r anghydnawsedd).
(5)Nid yw is-adran (4) yn gymwys i amrywiad a wneir drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad.
(6)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodolF5...; mae adran 20 yn darparu—
(a)bod rhaid ymgorffori’r adran hon, a
(b)na chaniateir ymgorffori’r adran hon ynghyd ag addasiadau iddi.
Diwygiadau Testunol
F2A. 135(2)(i)(j) wedi ei hepgor (7.6.2021) yn rhinwedd Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 6 para. 12(a)(i)
F3A. 135(2)(k) wedi ei amnewid (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 6 para. 12(a)(ii)
F4Geiriau yn a. 135(3)(a)(ii) wedi eu hepgor (7.6.2021) yn rhinwedd Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 5 para. 2(4)
F5Geiriau yn a. 135(6) wedi eu hepgor (7.6.2021) yn rhinwedd Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 6 para. 12(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I4A. 135 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
(1)Os yw contract safonol cyfnod penodol yn cael ei amrywio yn unol â’r contract neu drwy neu o ganlyniad i unrhyw ddeddfiad rhaid i’r landlord, cyn diwedd y cyfnod perthnasol, roi i ddeiliad y contract—
(a)datganiad ysgrifenedig o’r teler neu’r telerau sy’n cael ei amrywio neu eu hamrywio, neu
(b)datganiad ysgrifenedig o’r contract fel y’i hamrywiwyd.
(2)Y cyfnod perthnasol yw’r cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod yr amrywir y contract.
(3)Ni chaiff y landlord godi ffi am ddarparu datganiad ysgrifenedig o dan is-adran (1).
(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 136 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
(1)Os yw’r landlord o dan gontract safonol cyfnod penodol wedi methu â chydymffurfio â gofyniad o dan adran 136 mae’r landlord yn atebol i dalu tâl digolledu i ddeiliad y contract o dan adran 87.
(2)Mae’r tâl digolledu yn daladwy mewn perthynas â’r dyddiad perthnasol a phob diwrnod ar ôl y dyddiad perthnasol—
(a)hyd y diwrnod y mae’r landlord yn rhoi datganiad ysgrifenedig o’r teler neu’r telerau a amrywiwyd, neu o’r contract fel y’i hamrywiwyd, i ddeiliad y contract, neu
(b)os yw hynny’n gynharach, hyd ddiwrnod olaf y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r dyddiad perthnasol.
(3)Mae llog yn daladwy ar y tâl digolledu os yw’r landlord wedi methu â rhoi datganiad ysgrifenedig i ddeiliad y contract ar y diwrnod y cyfeirir ato yn is-adran (2)(b) neu cyn hynny.
(4)Mae’r llog yn dechrau cronni ar y diwrnod y cyfeirir ato yn is-adran (2)(b), ar y raddfa sy’n bodoli o dan adran 6 o Ddeddf Talu Dyledion Masnachol yn Hwyr (Llog) 1998 (p. 20) ar ddiwedd y diwrnod hwnnw.
(5)Y dyddiad perthnasol yw’r diwrnod yr amrywiwyd y contract.
(6)Nid yw is-adrannau (1) i (5) yn gymwys os gellir priodoli methiant y landlord i gydymffurfio â’r gofyniad i weithred neu anwaith ar ran deiliad y contract.
(7)Os, o dan adran 136, yw’r landlord yn rhoi datganiad ysgrifenedig o’r contract fel y’i hamrywiwyd i ddeiliad y contract, mae adrannau 36 a 37 (datganiadau anghyflawn ac anghywir) yn gymwys i’r datganiad fel pe bai [F6, yn is-adran (3) o’r adrannau hynny, y geiriau “dechrau â’r diwrnod yr amrywiwyd y contract” wedi eu rhoi yn lle’r geiriau o “dechrau” hyd at y diwedd].
Diwygiadau Testunol
F6Geiriau yn a. 137(7) wedi eu hamnewid (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 5 para. 4(c)
Gwybodaeth Cychwyn
I6A. 137 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
(1)Os yw contract safonol cyfnod penodol yn cynnwys cymal terfynu deiliad contract, caiff ddarparu, os oes cyd-ddeiliaid contract, bod hysbysiad a roddir i’r landlord gan un neu ragor (ond nid pob un) ohonynt sy’n honni ei fod yn hysbysiad o dan y cymal terfynu i’w drin fel hysbysiad fod y cyd-ddeiliad hwnnw i’r contract (neu’r cyd-ddeiliaid hynny i’r contract) yn bwriadu tynnu’n ôl o’r contract (“hysbysiad tynnu’n ôl”).
(2)Os yw’n gwneud hynny, rhaid iddo hefyd wneud darpariaeth sy’n cyfateb i is-adrannau (4) a (5) o adrannau 111 a 130.
Gwybodaeth Cychwyn
I7A. 138 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
(1)Caiff contract safonol cyfnod penodol ddarparu y gellir trosglwyddo contract ar farwolaeth unig ddeiliad contract wrth weinyddu ystad deiliad y contract.
(2)Nid yw adran 73 (yr hawl i olynu) yn gymwys i gontract safonol cyfnod penodol sy’n cynnwys darpariaeth o’r fath.
(3)Nid yw adran 155 (terfynu contract yn dilyn marwolaeth) wedi ei hymgorffori fel un o delerau contract safonol cyfnod penodol sy’n cynnwys darpariaeth o’r fath.
Gwybodaeth Cychwyn
I8A. 139 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
(1)Caiff contract safonol cyfnod penodol ddarparu y caiff un cyd-ddeiliad contract neu ragor ohonynt (os oes rhai) ei gwneud yn ofynnol i’r cyd-ddeiliad contract arall neu’r cyd-ddeiliaid contract eraill ymuno mewn trosglwyddiad o’r contract yn unol â’r contract.
(2)Os yw’r contract yn cynnwys darpariaeth o’r fath, caiff y cyd-ddeiliad neu’r cyd-ddeiliaid contract sy’n dymuno trosglwyddo’r contract meddiannaeth wneud cais i’r llys am orchymyn fod y cyd-ddeiliad contract arall neu’r cyd-ddeiliaid contract eraill yn ymuno yn y trosglwyddiad.
(3)Caiff y llys wneud y gorchymyn y gwnaed cais amdano os yw o’r farn bod hynny’n briodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I9A. 140 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw contract safonol cyfnod penodol yn darparu y caiff cyd-ddeiliad contract drosglwyddo ei hawliau a’i rwymedigaethau o dan y contract.
(2)Rhaid i’r contract hefyd ddarparu na chaniateir trosglwyddo oni bai bod y trosglwyddwr yn rhoi hysbysiad i’r cyd-ddeiliaid contract eraill y gwneir trosglwyddiad.
(3)Rhaid i’r contract hefyd ddarparu nad oes gan y trosglwyddai hawl i feddiannu’r annedd heb gydsyniad y cyd-ddeiliaid contract eraill.
Gwybodaeth Cychwyn
I10A. 141 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw contract safonol cyfnod penodol yn darparu y caniateir, ar farwolaeth cyd-ddeiliad contract, trosglwyddo ei hawliau a’i rwymedigaethau o dan y contract wrth weinyddu ei ystad.
(2)Rhaid i’r contract hefyd ddarparu na chaniateir gwneud trosglwyddiad oni bai bod cyd-ddeiliad y contract yn rhoi hysbysiad i’r cyd-ddeiliaid contract eraill, cyn ei farwolaeth, y gwneir trosglwyddiad o’r fath.
(3)Rhaid i’r contract hefyd ddarparu nad oes gan y trosglwyddai hawl i feddiannu’r annedd heb gydsyniad y cyd-ddeiliaid contract eraill.
Gwybodaeth Cychwyn
I11A. 142 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)