xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 8LL+CCONTRACTAU SAFONOL Â CHYMORTH

143Contract safonol â chymorth a llety â chymorthLL+C

(1)Yn y Ddeddf hon, ystyr “contract safonol â chymorth” yw contract safonol sy’n perthyn i lety â chymorth.

(2)At ddibenion y Ddeddf hon mae llety yn “llety â chymorth”—

(a)os yw’n cael ei ddarparu gan landlord cymunedol neu elusen gofrestredig,

(b)os yw’r landlord neu’r elusen (neu berson sy’n gweithredu ar ran y landlord neu’r elusen) yn darparu gwasanaethau cymorth i berson sydd â hawl i feddiannu’r llety, ac

(c)os oes cysylltiad rhwng darparu’r llety a darparu’r gwasanaethau cymorth.

(3)Nid yw llety mewn sefydliad gofal (o fewn ystyr paragraff 4 o Atodlen 2) yn llety â chymorth.

(4)Mae “gwasanaethau cymorth” yn cynnwys—

(a)cymorth i reoli neu oresgyn dibyniaeth,

(b)cymorth i ddod o hyd i gyflogaeth neu lety arall, ac

(c)rhoi cymorth i rywun sy’n ei chael hi’n anodd byw yn annibynnol oherwydd oed, afiechyd, anabledd neu unrhyw reswm arall.

(5)Mae “cymorth” yn cynnwys darparu cyngor, hyfforddiant, arweiniad a chwnsela.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 143 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2A. 143 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

144SymudeddLL+C

(1)Caiff contract safonol â chymorth ddarparu mai’r annedd sy’n ddarostyngedig i’r contract yw’r annedd, o fewn adeilad a bennir yn y contract, a bennir gan y landlord o bryd i’w gilydd.

(2)Os yw’n gwneud hynny, yna mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at yr annedd sy’n ddarostyngedig i’r contract meddiannaeth i’w darllen fel cyfeiriadau at yr annedd sydd wedi ei phennu gan y landlord ar y pryd.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 144 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I4A. 144 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

145Gwahardd dros droLL+C

(1)Os yw’r landlord o dan gontract safonol â chymorth yn credu’n rhesymol bod deiliad contract wedi gwneud unrhyw beth o fewn is-adran (2), caiff y landlord ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y contract—

(a)gadael yr annedd, a

(b)peidio â dychwelyd i’r annedd am gyfnod penodedig.

(2)Y gweithredoedd yw—

(a)defnyddio trais yn erbyn unrhyw berson yn yr annedd,

(b)gwneud rhywbeth yn yr annedd sy’n creu risg o niwed sylweddol i unrhyw berson, ac

(c)ymddwyn yn yr annedd mewn ffordd sy’n amharu’n ddifrifol ar allu preswylydd arall mewn llety â chymorth a ddarperir gan y landlord i fanteisio ar y cymorth a ddarperir mewn cysylltiad â’r llety hwnnw.

(3)Ni chaiff y cyfnod a bennir o dan is-adran (1)(b) fod yn hwy na 48 awr.

(4)Rhaid i’r landlord roi hysbysiad i ddeiliad contract y mae’n ofynnol iddo adael yr annedd o dan yr adran hon sy’n rhoi’r rhesymau pam y mae’n ofynnol iddo adael, a rhaid iddo wneud hynny—

(a)wrth ei gwneud yn ofynnol iddo adael, neu

(b)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedi hynny.

(5)Ni chaiff y landlord ddefnyddio’r pŵer a roddir gan yr adran hon, mewn perthynas â deiliad contract penodol, fwy na thair gwaith mewn unrhyw gyfnod o chwe mis.

(6)Yn yr adran hon (ac eithrio yn is-adran (2)(c) a’r is-adran hon), mae cyfeiriadau at “y landlord” yn cynnwys cyfeiriadau at unrhyw berson a ddynodir gan y landlord fel rhywun sydd â hawl i arfer y pŵer o dan yr adran hon mewn perthynas â’r annedd.

(7)Yn yr adran hon mae “annedd” yn cynnwys unrhyw rannau cyffredin.

(8)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol â chymorth.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 145 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I6A. 145 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

146Gwahardd dros dro: canllawiauLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau ynghylch arfer swyddogaethau o dan adran 145 gan landlordiaid.

(2)Wrth arfer y swyddogaethau hynny, rhaid i landlordiaid roi sylw i ganllawiau a ddyroddir o dan is-adran (1).

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 146 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I8A. 146(1) mewn grym ar 5.8.2016 at ddibenion penodedig gan O.S. 2016/813, ergl. 2(b), Atod. Rhn. 2

I9A. 146(1) mewn grym ar 1.12.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2022/906, ergl. 2

I10A. 146(2) mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2