RHAN 9TERFYNU ETC. CONTRACTAU MEDDIANNAETH
PENNOD 1TROSOLWG A DARPARIAETHAU RHAGARWEINIOL
Trosolwg
I1147Trosolwg o’r Rhan
Mae’r tabl a ganlyn yn darparu trosolwg o’r Rhan hon—
PENNOD | CONTRACTAU MEDDIANNAETH Y MAE’N BERTHNASOL IDDYNT | CYNNWYS Y BENNOD |
---|---|---|
1 | Pob contract meddiannaeth (ac eithrio adran 151, nad yw ond yn gymwys i gontractau safonol rhagarweiniol a chontractau safonol ymddygiad gwaharddedig) |
|
2 | Pob contract meddiannaeth | Amgylchiadau penodol pryd y gall contractau meddiannaeth derfynu heb hawliad meddiant. |
3 | Pob contract meddiannaeth | Hawliadau meddiant gan landlordiaid—
|
4 | Contractau diogel | Hawl deiliad y contract i derfynu’r contract. |
5 | Contractau safonol cyfnodol |
|
6 a 7 | Contractau safonol cyfnod penodol |
|
8 | Contractau safonol rhagarweiniol a chontractau safonol ymddygiad gwaharddedig | Adolygiad gan landlord, pan fo’n ofynnol gan ddeiliad y contract, o benderfyniad y landlord i roi hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol ildio meddiant ar seiliau penodol. |
9 a 10 | Pob contract meddiannaeth |
|
11 | Contractau diogel | Pwerau a dyletswyddau’r llys mewn perthynas â hawliadau meddiant sy’n ymwneud â hysbysiad deiliad y contract. |
12 | Contractau safonol | Pwerau a dyletswyddau’r llys mewn perthynas â hawliadau meddiant sy’n ymwneud â seiliau meddiant absoliwt. |
13 i 15 | Pob contract meddiannaeth |
|
Terfynu a ganiateir, hawliadau meddiant a hysbysiadau yn ei gwneud yn ofynnol ildio meddiant
I2148Terfynu a ganiateir etc.
1
Ni chaniateir terfynu contract meddiannaeth ond yn unol ag—
a
telerau sylfaenol y contract sy’n ymgorffori darpariaethau sylfaenol a ddynodir yn y Rhan hon neu delerau eraill a gynhwysir yn y contract yn unol â’r Rhan hon, neu
b
deddfiad.
2
Nid oes dim yn yr adran hon yn effeithio ar—
a
unrhyw hawl sydd gan y landlord neu ddeiliad y contract i ddad-wneud y contract, na
b
gweithrediad cyfraith llesteirio.
3
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth; mae adran 20 yn darparu—
a
bod rhaid ymgorffori’r adran hon, a
b
na chaniateir ymgorffori’r adran hon ynghyd ag addasiadau iddi.
I3149Hawliadau meddiant
1
Ni chaiff y landlord o dan gontract meddiannaeth wneud hawliad i’r llys i adennill meddiant o’r annedd oddi wrth ddeiliad y contract (“hawliad meddiant”) ond yn yr amgylchiadau a amlinellir ym Mhenodau 3 i 5 a 7.
2
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth; mae adran 20 yn darparu—
a
bod rhaid ymgorffori’r adran hon, a
b
na chaniateir ymgorffori’r adran hon ynghyd ag addasiadau iddi.
I4150Hysbysiadau adennill meddiant
1
Mae’r adran hon yn gymwys mewn perthynas â hysbysiad adennill meddiant y mae’n ofynnol i landlord ei roi i ddeiliad contract F2o dan unrhyw un o’r adrannau a ganlyn cyn gwneud hawliad meddiant F3—
a
adran 159 (mewn perthynas â thor contract gan ddeiliad contract);
b
adran 161 (mewn perthynas â seiliau rheoli ystad);
c
adran 166, 171 neu 192 (mewn perthynas â hysbysiad deiliad y contract);
d
adran 182 neu 188 (mewn perthynas ag ôl-ddyledion rhent difrifol o dan gontract safonol).
2
Rhaid i’r hysbysiad (yn ogystal â nodi’r sail ar gyfer gwneud yr hawliad)—
a
datgan bwriad y landlord i wneud hawliad meddiant,
b
rhoi manylion y sail, ac
c
datgan ar ôl pa ddyddiad y gall y landlord wneud hawliad meddiant.
3
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.
Hysbysiadau yn ei gwneud yn ofynnol ildio meddiant: contractau safonol rhagarweiniol a chontractau safonol ymddygiad gwaharddedig
I5151Contractau safonol rhagarweiniol a chontractau safonol ymddygiad gwaharddedig: hysbysiadau o dan adrannau 173 a 181
1
Mae is-adran (2) yn gymwys i—
a
hysbysiad a roddir yn unol ag adran 173 (hysbysiad gan landlord) mewn perthynas â chontract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig;
b
hysbysiad adennill meddiant a roddir yn unol ag adran 181 (ôl-ddyledion rhent difrifol) mewn perthynas â chontract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig.
2
Rhaid i’r hysbysiad (yn ogystal â chydymffurfio gydag unrhyw ofynion eraill o dan y Ddeddf hon) hysbysu deiliad y contract am yr hawl i wneud cais am adolygiad o dan adran 202 (adolygiad gan landlord), a’i hysbysu erbyn pryd y mae’n rhaid gwneud y cais.
3
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol rhagarweiniol a phob contract safonol ymddygiad gwaharddedig.
PENNOD 2TERFYNU ETC. HEB HAWLIAD MEDDIANT
(MAE’R BENNOD HON YN GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH)
I6152Deiliad y contract yn terfynu’n fuan
1
Caiff deiliad y contract derfynu’r contract meddiannaeth unrhyw bryd cyn y cynharaf o’r canlynol—
a
y landlord yn rhoi datganiad ysgrifenedig o’r contract o dan adran 31(1) i ddeiliad y contract, neu
b
y dyddiad meddiannu.
2
Er mwyn terfynu’r contract o dan is-adran (1), rhaid i ddeiliad y contract roi hysbysiad i’r landlord yn datgan ei fod yn terfynu’r contract.
3
Pan fydd yn rhoi’r hysbysiad i’r landlord, bydd deiliad y contract—
a
yn peidio â bod ag unrhyw atebolrwydd o dan y contract, a
b
yn dod â’r hawl i gael unrhyw flaendal, rhent neu gydnabyddiaeth arall a roddwyd i’r landlord yn unol â’r contract wedi’i ddychwelyd iddo.
4
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.
I7153Terfynu drwy gytundeb
1
Os yw’r landlord a deiliad y contract o dan gontract meddiannaeth yn cytuno i derfynu’r contract, daw’r contract i ben—
a
pan fydd deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd yn unol â’r cytundeb, neu
b
os nad yw’n ildio meddiant ac y gwneir contract meddiannaeth newydd i gymryd lle’r un gwreiddiol, yn union cyn dyddiad meddiannu’r contract meddiannaeth newydd.
2
Mae contract meddiannaeth yn gontract meddiannaeth newydd sy’n cymryd lle’r un gwreiddiol—
a
os yw’n cael ei wneud mewn perthynas â’r un annedd (neu’r un annedd i raddau helaeth) â’r contract gwreiddiol, a
b
os oedd deiliad contract oddi tano hefyd yn ddeiliad contract o dan y contract gwreiddiol.
3
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.
I8154Tor contract ymwrthodol ar ran y landlord
1
Os yw’r landlord o dan gontract meddiannaeth yn cyflawni tor contract ymwrthodol, a bod deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd oherwydd y tor contract hwnnw, daw’r contract i ben pan fydd deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd.
2
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.
I9155Marwolaeth unig ddeiliad contract
1
Os yw unig ddeiliad y contract o dan gontract meddiannaeth yn marw, daw’r contract i ben—
a
mis ar ôl marwolaeth deiliad y contract, neu
b
os yw’n gynharach, pan fydd y personau awdurdodedig yn hysbysu’r landlord am y farwolaeth.
2
Y personau awdurdodedig yw—
a
cynrychiolwyr personol deiliad y contract, neu
b
y rheini sydd â chaniatâd i feddiannu’r annedd sy’n 18 oed a hŷn (os oes rhai) yn gweithredu gyda’i gilydd.
3
Ni ddaw’r contract i ben os oes un neu ragor o bersonau yn gymwys i olynu deiliad y contract o dan adran 74.
4
Ni ddaw’r contract i ben os, ar farwolaeth deiliad y contract, oes gorchymyn eiddo teuluol yn effeithiol sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y contract drosglwyddo’r contract i berson arall.
5
Os, ar ôl marwolaeth deiliad y contract, yw’r gorchymyn eiddo teuluol yn peidio â chael effaith ac os nad oes unrhyw berson yn gymwys i olynu deiliad y contract, daw’r contract i ben—
a
pan fydd y gorchymyn yn peidio â chael effaith, neu
b
os yw’n hwyrach, pan fyddai’r contract yn dod i ben o dan is-adran (1).
6
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth, ac eithrio contractau safonol cyfnod penodol sy’n cynnwys y ddarpariaeth a grybwyllir yn adran 139(1) (trosglwyddo ar farwolaeth unig ddeiliad contract); mae adran 20 yn darparu—
a
bod rhaid ymgorffori’r adran hon, a
b
na chaniateir ymgorffori’r adran hon ynghyd ag addasiadau iddi.
I10156Marwolaeth landlord pan fo’r contract meddiannaeth yn drwydded
Mae contract meddiannaeth sy’n drwydded yn dod i ben pan fydd y landlord yn marw.
PENNOD 3TERFYNU POB CONTRACT MEDDIANNAETH (HAWLIAD MEDDIANT GAN LANDLORD)
Tor contract
I11157Tor contract
1
Os yw deiliad y contract o dan gontract meddiannaeth yn cyflawni tor contract, caiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno.
2
Mae adran 209 yn darparu na chaiff y llys wneud gorchymyn adennill meddiant ar y sail honno oni bai ei fod yn ystyried ei bod yn rhesymol gwneud hynny (ac mae rhesymoldeb i’w benderfynu gan roi sylw i Atodlen 10).
3
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.
I12158Datganiad ffug sy’n darbwyllo’r landlord i wneud contract i’w drin fel tor contract
1
Os yw’r landlord o dan gontract meddiannaeth yn cael ei ddarbwyllo i wneud y contract drwy ddatganiad ffug perthnasol—
a
mae deiliad y contract i’w drin fel pe bai wedi torri’r contract meddiannaeth, a
b
caiff y landlord, felly, wneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 157 (tor contract).
2
Mae datganiad ffug yn berthnasol os caiff ei wneud yn fwriadol neu’n fyrbwyll gan—
a
deiliad y contract, neu
b
person arall sy’n gweithredu ar symbyliad deiliad y contract.
3
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth; mae adran 20 yn darparu—
a
bod rhaid ymgorffori’r adran hon, a
b
na chaniateir ymgorffori’r adran hon ynghyd ag addasiadau iddi.
I13159Cyfyngiadau ar adran 157
1
Cyn gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 157, rhaid i’r landlord roi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract sy’n pennu’r sail honno.
2
Caiff y landlord wneud hawliad meddiant gan ddibynnu ar dorri adran 55 (ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall) ar neu ar ôl y diwrnod y mae’r landlord yn rhoi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract sy’n nodi bod yr adran honno wedi ei thorri.
3
Ni chaiff y landlord wneud hawliad meddiant gan ddibynnu ar dorri unrhyw deler arall yn y contract cyn diwedd y cyfnod o fis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract sy’n nodi bod y teler hwnnw wedi ei dorri.
4
Yn y naill achos a’r llall, ni chaiff y landlord wneud hawliad meddiant ar ôl diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi’r hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract.
5
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.
Seiliau rheoli ystad
I14160Seiliau rheoli ystad
1
Caiff y landlord o dan gontract meddiannaeth wneud hawliad meddiant ar un neu ragor o’r seiliau rheoli ystad.
2
Mae’r seiliau rheoli ystad wedi eu dynodi yn Rhan 1 o Atodlen 8 (mae paragraff 10 o’r Atodlen honno yn darparu bod Rhan 1 o’r Atodlen honno yn ddarpariaeth sylfaenol sy’n gymwys i bob contract meddiannaeth).
3
Mae adran 210 yn darparu na chaiff y llys wneud gorchymyn adennill meddiant ar sail rheoli ystad oni bai—
a
ei fod yn ystyried ei bod yn rhesymol gwneud hynny (ac mae rhesymoldeb i’w benderfynu yn unol ag Atodlen 10), a
b
ei fod yn fodlon bod llety arall addas (mae’r hyn sy’n addas i’w benderfynu yn unol ag Atodlen 11) ar gael i ddeiliad y contract (neu y bydd ar gael i ddeiliad y contract pan fydd y gorchymyn yn cael effaith).
4
Os yw’r llys yn gwneud gorchymyn adennill meddiant ar sail rheoli ystad (ac nid ar unrhyw sail arall), rhaid i’r landlord dalu i ddeiliad y contract swm cyfwerth â’r treuliau rhesymol y mae deiliad y contract yn debygol o fynd iddynt wrth symud o’r annedd.
5
Nid yw is-adran (4) yn gymwys os yw’r llys yn gwneud gorchymyn adennill meddiant ar Sail A neu B (y seiliau ailddatblygu) o’r seiliau rheoli ystad (ac nid ar unrhyw sail arall).
6
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.
I15161Cyfyngiadau ar adran 160
1
Cyn gwneud hawliad meddiant ar sail rheoli ystad, rhaid i’r landlord roi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract sy’n pennu’r sail honno.
2
Ni chaiff y landlord wneud yr hawliad—
a
cyn diwedd y cyfnod o fis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi’r hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract, na
b
ar ôl diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod hwnnw.
3
Os yw cynllun ailddatblygu yn cael ei gymeradwyo o dan Ran 2 o Atodlen 8 yn ddarostyngedig i amodau, caiff y landlord roi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract sy’n pennu Sail B o’r seiliau rheoli ystad cyn bod yr amodau wedi eu bodloni.
4
Ni chaiff y landlord roi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract sy’n pennu Sail G o’r seiliau rheoli ystad (dim angen y llety ar olynydd)—
a
cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth y landlord (neu yn achos cyd-landlordiaid, unrhyw un ohonynt) i wybod am farwolaeth y deiliad contract blaenorol, neu
b
ar ôl diwedd y cyfnod o ddeuddeg mis sy’n dechrau â’r diwrnod hwnnw.
5
Ni chaiff y landlord roi hysbysiad adennill meddiant sy’n pennu sail rheoli ystad H (cyd-ddeiliad contract yn gadael) i ddeiliad y contract ar ôl diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth hawliau a rhwymedigaethau cyd-ddeiliad y contract i ben o dan y contract.
6
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.
I16162Seiliau rheoli ystad: cynlluniau ailddatblygu
Mae Rhan 2 o Atodlen 8 (cymeradwyo cynlluniau ailddatblygu) yn gwneud darpariaeth sy’n ategu Sail B o’r seiliau rheoli ystad.
PENNOD 4TERFYNU CONTRACTAU DIOGEL (HYSBYSIAD DEILIAD Y CONTRACT)
I17163Hysbysiad deiliad y contract
1
Caiff deiliad y contract o dan gontract diogel derfynu’r contract drwy roi hysbysiad i’r landlord y bydd yn ildio meddiant o’r annedd ar ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad.
2
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract F7diogel.
I18164Y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir
1
Ni chaiff y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan adran 163 fod yn llai na phedair wythnos ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i’r landlord.
2
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel.
I19165Adennill meddiant
1
Os yw deiliad y contract yn methu ag ildio meddiant o’r annedd ar y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan adran 163, caiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno.
2
Mae adran 212 yn darparu bod rhaid i’r llys, os yw’n fodlon bod y sail wedi ei phrofi, wneud gorchymyn adennill meddiant o’r annedd (yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract).
3
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract F8diogel.
I20166Cyfyngiadau ar adran 165
1
Cyn gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 165 rhaid i’r landlord roi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract sy’n pennu’r sail honno.
2
Caiff y landlord wneud yr hawliad meddiant ar neu ar ôl y diwrnod y mae’r landlord yn rhoi’r hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract.
3
Ond ni chaiff y landlord wneud yr hawliad meddiant ar ôl diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod hwnnw.
4
Ni chaiff y landlord roi hysbysiad adennill meddiant sy’n pennu’r sail yn adran 165 i ddeiliad y contract ar ôl diwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad o dan adran 163 fel y dyddiad y byddai deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd.
5
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel.
I21167Terfynu contract yn dilyn hysbysiad deiliad y contract
1
Os yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan adran 163, neu cyn hynny, daw’r contract i ben ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.
2
Os yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar ôl y dyddiad hwnnw ond mewn cysylltiad â’r hysbysiad, daw’r contract i ben—
a
ar y diwrnod y mae deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd, neu
b
os gwneir gorchymyn adennill meddiant, ar y dyddiad a bennir yn unol ag adran 206.
3
Mae’r hysbysiad yn peidio â chael effaith os, cyn i’r contract ddod i ben—
a
yw deiliad y contract yn tynnu’r hysbysiad yn ôl drwy roi hysbysiad pellach i’r landlord, a
b
nad yw’r landlord yn gwrthwynebu mewn ysgrifen i’r tynnu’n ôl cyn diwedd cyfnod rhesymol.
4
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel.
PENNOD 5TERFYNU CONTRACTAU SAFONOL CYFNODOL
Terfynu gan ddeiliad contract: hysbysiad deiliad contract
I22168Hysbysiad deiliad contract
1
Caiff deiliad y contract o dan gontract safonol cyfnodol derfynu’r contract drwy roi hysbysiad i’r landlord y bydd yn ildio meddiant o’r annedd ar ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad.
2
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol.
I23169Y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir
1
Ni chaiff y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan adran 168 fod yn llai na phedair wythnos ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i’r landlord.
2
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol.
I24170Adennill meddiant
1
Os yw deiliad y contract yn methu ag ildio meddiant o’r annedd ar y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan adran 168, caiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno.
2
Mae adran 215 yn darparu bod yn rhaid i’r llys, os yw’n fodlon bod y sail wedi ei phrofi, wneud gorchymyn adennill meddiant o’r annedd (yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract).
3
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol.
I25171Cyfyngiadau ar adran 170
1
Cyn gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 170 rhaid i’r landlord roi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract sy’n pennu’r sail honno.
2
Caiff y landlord wneud yr hawliad meddiant ar neu ar ôl y diwrnod y mae’r landlord yn rhoi’r hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract.
3
Ond ni chaiff y landlord wneud yr hawliad meddiant ar ôl diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod hwnnw.
4
Ni chaiff y landlord roi hysbysiad adennill meddiant sy’n pennu’r sail yn adran 170 i ddeiliad y contract ar ôl diwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad o dan adran 168 fel y dyddiad y byddai deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd.
5
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol.
I26172Terfynu contract yn dilyn hysbysiad deiliad y contract
1
Os yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan adran 168, neu cyn hynny, daw’r contract i ben ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.
2
Os yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar ôl y dyddiad hwnnw ond mewn cysylltiad â’r hysbysiad, daw’r contract i ben—
a
ar y diwrnod y mae deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd, neu
b
os gwneir gorchymyn adennill meddiant, ar y diwrnod a bennir yn unol ag adran 206.
3
Mae’r hysbysiad yn peidio â chael effaith os, cyn i’r contract ddod i ben—
a
yw deiliad y contract yn tynnu’r hysbysiad yn ôl drwy roi hysbysiad pellach i’r landlord, a
b
nad yw’r landlord yn gwrthwynebu mewn ysgrifen i’r tynnu’n ôl cyn diwedd cyfnod rhesymol.
4
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol.
Terfynu gan landlord: hysbysiad y landlord
I27173Hysbysiad y landlord
1
Caiff y landlord o dan gontract safonol cyfnodol derfynu’r contract drwy roi hysbysiad i ddeiliad y contract fod rhaid iddo ildio meddiant o’r annedd ar ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad.
2
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol.
F43
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
I28174Y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir
1
Ni chaiff y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan adran 173 fod yn llai na F5chwe mis ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract.
F62
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol, ac eithrio contractau safonol cyfnodol—
a
nad ydynt yn ymgorffori adran 173 fel un o delerau’r contract, neu
b
sydd o fewn Atodlen 8A (pa un a ydynt yn ymgorffori adran 173 fel un o delerau’r contract ai peidio).
174AF43Y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir: contractau safonol cyfnodol o fewn Atodlen 8A
1
Os yw contract safonol cyfnodol o fewn Atodlen 8A, ni chaiff y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan adran 173 fod yn llai na dau fis ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract.
2
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol sydd—
a
yn ymgorffori adran 173 fel un o delerau’r contract, a
b
o fewn Atodlen 8A.
I29175F40Cyfyngiad ar adran 173: ni chaniateir rhoi hysbysiad tan ar ôl chwe mis cyntaf meddiannaeth
1
Ni chaiff y landlord roi hysbysiad o dan adran 173 cyn diwedd y cyfnod o F9chwe mis sy’n dechrau â diwrnod meddiannu’r contract.
2
Os yw’r contract yn gontract meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall, ni chaiff y landlord roi hysbysiad o dan adran 173 cyn diwedd y cyfnod o F10chwe mis sy’n dechrau â dyddiad meddiannu’r contract gwreiddiol.
3
At ddibenion is-adran (2)—
a
mae contract meddiannaeth yn gontract meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall—
i
os yw dyddiad meddiannu’r contract yn dod yn union ar ôl diwedd contract meddiannaeth blaenorol,
ii
os oedd, yn union cyn dyddiad meddiannu’r contract, ddeiliad contract o dan y contract yn ddeiliad contract o dan y contract blaenorol a landlord o dan y contract yn landlord o dan y contract blaenorol, a
iii
os yw’r contract yn ymwneud â’r un annedd (neu’r un annedd i raddau helaeth) â’r contract blaenorol, a
b
ystyr “contract gwreiddiol” yw—
i
pan fo dyddiad meddiannu’r contract meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall yn dod yn union ar ôl diwedd contract nad yw’n gontract meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall, y contract meddiannaeth sy’n rhagflaenu’r contract meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall;
ii
pan fo cyfres o gontractau olynol yn gontractau meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall, y contract meddiannaeth a oedd yn rhagflaenu’r cyntaf o’r contractau meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall.
4
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol, ac eithrio contractau safonol cyfnodol—
a
nad ydynt yn ymgorffori adran 173 fel un o delerau’r contract, neu
b
sydd o fewn Atodlen 9 (pa un a ydynt yn ymgorffori adran 173 fel un o delerau’r contract ai peidio),
F11...
176I30F12Cyfyngiadau ar roi hysbysiad o dan adran 173: torri rhwymedigaethau statudol
Mae Atodlen 9A yn gosod cyfyngiadau ar roi hysbysiad o dan adran 173, sy’n ymwneud â thorri rhwymedigaethau statudol penodol.
I31177F13Cyfyngiadau ar roi hysbysiadau pellach o dan adran 173
1
Mae is-adrannau (2) a (3) yn gymwys pan fo—
a
landlord wedi rhoi hysbysiad i ddeiliad contract o dan adran 173 (“yr hysbysiad cyntaf”), a
b
y landlord wedi tynnu’r hysbysiad yn ôl wedi hynny (gweler adran 180(3)).
2
Ni chaiff y landlord roi hysbysiad arall o dan adran 173 i ddeiliad y contract cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y cafodd yr hysbysiad cyntaf ei dynnu’n ôl, ac eithrio yn unol ag is-adran (3).
3
Caiff y landlord roi un hysbysiad arall o dan adran 173 i ddeiliad y contract yn ystod y cyfnod o 28 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad cyntaf.
4
Mae is-adran (5) yn gymwys pan fo—
a
landlord wedi rhoi hysbysiad i ddeiliad contract o dan adran 173, a
b
y cyfnod ar gyfer gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 178 wedi dod i ben heb i’r landlord fod wedi gwneud hawliad.
5
Ni chaiff y landlord roi hysbysiad arall o dan adran 173 i ddeiliad y contract cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â diwrnod olaf y cyfnod y gallai’r landlord fod wedi gwneud yr hawliad cyn iddo ddod i ben (gweler adran 179(1)(b)).
6
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol sy’n ymgorffori adran 173 fel un o delerau’r contract.
177AF44Cyfyngiad ar roi hysbysiad o dan adran 173 yn dilyn hawliad meddiant dialgar
1
Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo—
a
landlord (ar ôl rhoi hysbysiad i ddeiliad contract o dan adran 173) wedi gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 178, a
b
y llys wedi gwrthod gwneud gorchymyn adennill meddiant gan ei fod o’r farn bod yr hawliad yn hawliad dialgar (gweler adran 217).
2
Ni chaiff y landlord roi hysbysiad arall o dan adran 173 i ddeiliad y contract cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y gwrthododd y llys wneud gorchymyn adennill meddiant.
3
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol sy’n ymgorffori adran 173 fel un o delerau’r contract.
I32178Adennill meddiant
1
Os yw’r landlord yn rhoi hysbysiad i ddeiliad y contract o dan adran 173, caiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno.
2
Mae adran 215 yn darparu bod yn rhaid i’r llys, os yw wedi ei fodloni bod y sail wedi ei phrofi, wneud gorchymyn adennill meddiant o’r annedd, oni bai bod adran 217 (troi allan dialgar: contractau safonol) yn gymwys (ac yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract).
3
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol.
I33179Cyfyngiad ar adran 178
1
Ni chaiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 178—
a
cyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad y rhoddodd y landlord i ddeiliad y contract o dan adran 173, na
b
ar ôl diwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r dyddiad hwnnw.
2
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol.
I34180Terfynu contract yn dilyn hysbysiad y landlord
1
Os yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan adran 173, neu cyn hynny, daw’r contract i ben ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.
2
Os yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar ôl y dyddiad hwnnw ond mewn cysylltiad â’r hysbysiad, daw’r contract i ben—
a
ar y diwrnod y mae deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd, neu
b
os gwneir gorchymyn adennill meddiant, ar y dyddiad a bennir yn unol ag adran 206.
3
Mae’r hysbysiad yn peidio â chael effaith osF14—
a
yw’r landlord, cyn i’r contract ddod i ben, ac yn ystod y cyfnod o 28 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad, yn tynnu’r hysbysiad yn ôl drwy roi hysbysiad pellach i ddeiliad y contract, neu
b
cyn i’r contract ddod i ben, ac ar ôl y cyfnod o 28 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad—
i
yw’r landlord yn tynnu’r hysbysiad yn ôl drwy roi hysbysiad pellach i ddeiliad y contract, a
ii
nad yw deiliad y contract yn gwrthwynebu mewn ysgrifen i’r tynnu’n ôl cyn diwedd cyfnod rhesymol.
4
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol.
Terfynu gan landlord: ôl-ddyledion rhent difrifol
I35181Ôl-ddyledion rhent difrifol
1
Os oes gan ddeiliad y contract o dan gontract safonol cyfnodol ôl-ddyledion rhent difrifol, caiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno.
2
Mae gan ddeiliad y contract ôl-ddyledion rhent difrifol—
a
pan fo’r cyfnod rhentu yn wythnos, yn bythefnos neu’n bedair wythnos, os oes o leiaf wyth wythnos o rent heb ei dalu;
b
pan fo’r cyfnod rhentu yn fis, os oes o leiaf ddau fis o rent heb ei dalu;
c
pan fo’r cyfnod rhentu yn chwarter, os oes rhent o leiaf un chwarter dros dri mis yn hwyr;
d
pan fo’r cyfnod rhentu yn flwyddyn, os oes o leiaf 25% o’r rhent dros dri mis yn hwyr.
3
Mae adran 216 yn darparu bod rhaid i’r llys (yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract) wneud gorchymyn adennill meddiant o’r annedd os yw’n fodlon bod gan ddeiliad y contract—
a
ôl-ddyledion rhent difrifol ar y diwrnod y rhoddodd y landlord yr hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract, a
b
ôl-ddyledion rhent difrifol ar y diwrnod y mae’r llys yn gwrando’r achos ar yr hawliad meddiant.
4
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol.
I36182Cyfyngiadau ar adran 181
1
Cyn gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 181, rhaid i’r landlord roi hysbysiad adennill meddiant sy’n pennu’r sail honno i ddeiliad y contract.
2
Ni chaiff landlord o dan gontract safonol cyfnodol nad yw’n gontract safonol rhagarweiniol neu’n gontract safonol ymddygiad gwaharddedig wneud yr hawliad—
a
cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi’r hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract, na
b
ar ôl diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod hwnnw.
3
Ni chaiff y landlord o dan gontract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig wneud yr hawliad—
a
cyn diwedd y cyfnod o fis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi’r hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract, na
b
ar ôl diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod hwnnw.
4
Mae is-adran (1) yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol, ac
a
mae is-adran (2) yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol nad yw’n gontract safonol rhagarweiniol neu’n gontract safonol ymddygiad gwaharddedig;
b
mae is-adran (3) yn ddarpariaeth sylfaenol nad yw ond wedi ei hymgorffori fel un o delerau contractau safonol rhagarweiniol a chontractau safonol ymddygiad gwaharddedig.
Terfynu contractau safonol cyfnodol a oedd yn gontractau safonol cyfnod penodol
I37183Perthnasedd digwyddiadau o dan gontract safonol cyfnod penodol
1
Caiff y landlord o dan gontract safonol cyfnodol sy’n bodoli yn sgil adran 184(2) (contractau safonol cyfnodol sy’n bodoli yn sgil diwedd cyfnod penodol) wneud hawliad meddiant gan ddibynnu ar—
a
hysbysiad adennill meddiant, F15...
b
hysbysiad o dan adran 186,F16neu
c
hysbysiad o dan gymal terfynu’r landlord,
y rhoddodd y landlord i ddeiliad y contract cyn diwedd y contract cyfnod penodol.
F172
Mae adrannau 179 a 180—
a
yn gymwys i hysbysiad o dan adran 186(1) fel y maent yn gymwys i hysbysiad o dan adran 173, a
b
yn gymwys i hawliad meddiant a wneir ar y sail yn adran 186(5) gan ddibynnu ar hysbysiad o’r fath fel y maent yn gymwys i hawliad meddiant a wneir ar y sail yn adran 178 gan ddibynnu ar hysbysiad o dan adran 173.
3
Mewn unrhyw hysbysiad adennill meddiant y mae’r landlord yn ei roi i ddeiliad y contract, caiff y landlord ddibynnu ar ddigwyddiadau a ddigwyddodd cyn diwedd y contract safonol cyfnod penodol.
4
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau contractau safonol cyfnodol sy’n bodoli yn sgil adran 184(2).
PENNOD 6CONTRACTAU SAFONOL CYFNOD PENODOL: DIWEDD Y CYFNOD PENODOL
I38184Diwedd y cyfnod penodol
1
Mae contract safonol cyfnod penodol yn dod i ben ar ddiwedd y cyfnod y’i gwneir ar ei gyfer.
2
Os yw deiliad y contract yn dal i feddiannu’r annedd ar ôl diwedd y cyfnod, mae’r landlord a deiliad y contract i’w trin fel pe baent wedi gwneud contract safonol cyfnodol newydd mewn perthynas â’r annedd.
3
Mae gan y contract newydd—
a
dyddiad meddiannu sy’n dod yn union ar ôl diwedd y cyfnod penodol, a
b
cyfnodau rhentu sydd yr un fath â’r rheini yr oedd rhent yn daladwy ar eu cyfer ddiwethaf o dan y contract cyfnod penodol.
4
Mae’r darpariaethau sylfaenol ac atodol sy’n gymwys i gontractau safonol cyfnodol wedi eu hymgorffori fel telerau’r contract newydd heb eu haddasu.
5
Yn ddarostyngedig i is-adrannau (3) a (4), mae i’r contract newydd yr un telerau â’r contract cyfnod penodol yn union cyn iddo ddod i ben.
6
Nid yw contract meddiannaeth newydd yn dod i fodolaeth fel y disgrifir yn is-adran (2) os yw’r landlord a deiliad y contract wedi gwneud contract meddiannaeth newydd mewn perthynas â’r un annedd (neu’r un annedd i raddau helaeth) sydd â dyddiad meddiannu yn union ar ôl i’r contract cyfnod penodol ddod i ben.
7
Os, cyn neu ar ddyddiad meddiannu contract meddiannaeth newydd sy’n dod i fodolaeth fel y disgrifir yn is-adran (2) neu (6)—
a
yw deiliad y contract yn ymrwymo i rwymedigaeth i gyflawni gweithred a fydd yn peri i’r contract newydd ddod i ben, neu
b
yw deiliad y contract yn rhoi unrhyw hysbysiad neu ddogfen arall a fyddai, oni bai am yr is-adran hon, yn peri i’r contract newydd ddod i ben,
ni ellir gorfodi’r rhwymedigaeth neu (yn ôl y digwydd) nid oes unrhyw effaith i’r hysbysiad neu’r ddogfen.
8
Nid yw’r gofyniad yn adran 39(1) (rhaid i landlord roi cyfeiriad cyswllt i ddeiliad contract ar ddechrau contract) yn gymwys mewn perthynas â chontract safonol cyfnodol sy’n codi o dan is-adran (2).
I39185Caniatáu i ddatganiad ysgrifenedig ymdrin â chontract safonol cyfnodol sy’n codi o dan adran 184(2)
1
Caiff datganiad ysgrifenedig o gontract safonol cyfnod penodol, o ran y contract safonol cyfnodol a allai godi o dan adran 184(2) (“y contract posibl”), nodi beth fyddai telerau’r contract hwnnw o dan adran 184(3) i (5) drwy—
a
pennu telerau’r contract safonol cyfnod penodol na fyddant yn delerau’r contract posibl, a nodi’r telerau a fydd yn gymwys i’r contract posibl yn unig, neu
b
nodi holl delerau’r contract posibl ar wahân.
2
Pan fo datganiad ysgrifenedig o gontract safonol cyfnod penodol yn ymdrin â’r contract posibl yn unol ag is-adran (1)—
a
nid yw’r datganiad ysgrifenedig yn anghywir (gweler adran 37) ond am ei fod yn ymdrin â’r contract posibl;
b
mae’r landlord i’w drin fel pe bai wedi cydymffurfio â’r gofyniad yn adran 31(1) (darparu datganiad ysgrifenedig) mewn perthynas â’r contract posibl, ac
c
ni chaniateir gorfodi telerau’r contract posibl yn erbyn deiliad y contract cyn dyddiad meddiannu’r contract hwnnw (ac, o ganlyniad, nid yw adran 42 yn gymwys).
PENNOD 7TERFYNU CONTRACTAU SAFONOL CYFNOD PENODOL
Diwedd cyfnod penodol: hysbysiad y landlord
I40186Hysbysiad y landlord mewn cysylltiad â diwedd cyfnod penodol F41contract sydd o fewn Atodlen 9B
1
Caiff y landlord o dan gontract safonol cyfnod penodol F18sydd o fewn Atodlen 9B, cyn neu ar ddiwrnod olaf y cyfnod y gwnaed y contract ar ei gyfer, roi hysbysiad i ddeiliad y contract fod rhaid iddo ildio meddiant o’r annedd ar ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad.
F192
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
3
F20O ran y dyddiad a bennir—
a
ni chaiff fod cyn diwrnod olaf y cyfnod y gwnaed y contract ar ei gyfer, a
b
ni chaiff fod yn llai na dau fis ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract.
F214
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
5
Os yw’r landlord yn rhoi hysbysiad i ddeiliad y contract o dan is-adran (1), caiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno.
6
Mae adran 215 yn darparu bod yn rhaid i’r llys, os yw wedi ei fodloni bod y sail wedi ei phrofi, wneud gorchymyn adennill meddiant o’r annedd (yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract).
7
Ni chaiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno cyn diwedd y contract safonol cyfnod penodol.
8
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol F22sydd o fewn Atodlen 9B.
186AF46Cyfyngiadau ar roi hysbysiad o dan adran 186: torri rhwymedigaethau statudol
Mae Atodlen 9A yn gosod cyfyngiadau ar roi hysbysiad o dan adran 186, sy’n ymwneud â thorri rhwymedigaethau statudol penodol.
Terfynu gan y landlord: ôl-ddyledion rhent difrifol
I41187Ôl-ddyledion rhent difrifol
1
Os oes gan ddeiliad y contract o dan gontract safonol cyfnod penodol ôl-ddyledion rhent difrifol, caiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno.
2
Mae gan ddeiliad y contract ôl-ddyledion rhent difrifol—
a
pan fo’r cyfnod rhentu yn wythnos, yn bythefnos neu’n bedair wythnos, os oes o leiaf wyth wythnos o rent heb ei dalu;
b
pan fo’r cyfnod rhentu yn fis, os oes o leiaf ddau fis o rent heb ei dalu;
c
pan fo’r cyfnod rhentu yn chwarter, os oes rhent o leiaf un chwarter dros dri mis yn hwyr;
d
pan fo’r cyfnod rhentu yn flwyddyn, os oes o leiaf 25% o’r rhent dros dri mis yn hwyr.
3
Mae adran 216 yn darparu bod rhaid i’r llys (yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract) wneud gorchymyn adennill meddiant o’r annedd os yw’n fodlon bod gan ddeiliad y contract—
a
ôl-ddyledion rhent difrifol ar y diwrnod y rhoddodd y landlord yr hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract, a
b
ôl-ddyledion rhent difrifol ar y diwrnod y mae’r llys yn gwrando’r achos ar yr hawliad meddiant.
4
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol.
I42188Cyfyngiadau ar adran 187
1
Cyn gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 187, rhaid i’r landlord roi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract sy’n pennu’r sail honno.
2
Ni chaiff y landlord wneud yr hawliad—
a
cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi’r hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract, na
b
ar ôl diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod hwnnw.
3
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol.
Cymal terfynu deiliad y contract
I43189Cymal terfynu deiliad contract
1
Caiff contract safonol cyfnod penodol gynnwys teler sy’n galluogi deiliad y contract i derfynu’r contract cyn diwedd y cyfnod penodol drwy roi hysbysiad i’r landlord y bydd yn ildio meddiant o’r annedd ar ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad.
2
Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at gymal terfynu deiliad y contract, mewn perthynas â chontract safonol cyfnod penodol, yn gyfeiriadau at y teler a grybwyllir yn is-adran (1).
I44190Y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir
1
Ni chaiff y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan gymal terfynu deiliad y contract fod yn llai na phedair wythnos ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i’r landlord.
2
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sydd â chymal terfynu deiliad y contract.
I45191Adennill meddiant
1
Os yw deiliad contract yn methu ag ildio meddiant o’r annedd ar y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan gymal terfynu deiliad y contract, caiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno.
2
Mae adran 215 yn darparu bod yn rhaid i’r llys, os yw’n fodlon bod y sail wedi ei phrofi, wneud gorchymyn adennill meddiant o’r annedd (yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract).
3
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sydd â chymal terfynu deiliad y contract.
I46192Cyfyngiadau ar adran 191
1
Cyn gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 191 rhaid i’r landlord roi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract sy’n pennu’r sail honno.
2
Caiff y landlord wneud yr hawliad meddiant ar neu ar ôl y diwrnod y mae’r landlord yn rhoi’r hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract.
3
Ond ni chaiff y landlord wneud yr hawliad meddiant ar ôl diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod hwnnw.
4
Ni chaiff y landlord roi hysbysiad adennill meddiant sy’n pennu’r sail yn adran 191 i ddeiliad y contract ar ôl diwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad o dan gymal terfynu deiliad y contract fel y dyddiad y byddai deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd.
5
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sydd â chymal terfynu deiliad y contract.
I47193Terfynu contract o dan gymal terfynu deiliad y contract
1
Os yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan gymal terfynu deiliad y contract, neu cyn hynny, daw’r contract i ben ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.
2
Os yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar ôl y dyddiad hwnnw ond mewn cysylltiad â’r hysbysiad, daw’r contract i ben—
a
ar y diwrnod y mae deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd, neu
b
os gwneir gorchymyn adennill meddiant, ar y dyddiad a bennir yn unol ag adran 206.
3
Mae’r hysbysiad yn peidio â chael effaith os, cyn i’r contract ddod i ben—
a
yw deiliad y contract yn tynnu’r hysbysiad yn ôl drwy roi hysbysiad pellach i’r landlord, a
b
nad yw’r landlord yn gwrthwynebu mewn ysgrifen i’r tynnu’n ôl cyn diwedd cyfnod rhesymol.
4
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sydd â chymal terfynu deiliad y contract.
Cymal terfynu’r landlord
I48194Cymal terfynu’r landlord
1
Caiff contract safonol cyfnod penodol F23sydd o fewn is-adran (1A) gynnwys teler sy’n galluogi’r landlord i derfynu’r contract cyn diwedd y cyfnod penodol drwy roi hysbysiad i ddeiliad y contract y bydd yn rhaid iddo ildio meddiant o’r annedd ar ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad.
F241A
Mae contract safonol cyfnod penodol o fewn yr is-adran hon—
a
os yw wedi ei wneud am gyfnod o ddwy flynedd neu ragor, neu
b
os yw o fewn Atodlen 9C (pa un a yw wedi ei wneud am gyfnod o ddwy flynedd neu ragor ai peidio).
2
Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at gymal terfynu’r landlord, mewn perthynas â chontract safonol cyfnod penodol, yn gyfeiriadau at y teler a grybwyllir yn is-adran (1).
I49195Y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir
1
Ni chaiff y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan gymal terfynu’r landlord fod yn llai na F25chwe mis ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract.
F262
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol, ac eithrio contractau safonol cyfnod penodol—
a
nad ydynt yn cynnwys cymal terfynu’r landlord, neu
b
sydd o fewn Atodlen 8A (pa un a ydynt yn cynnwys cymal terfynu’r landlord ai peidio).
195AF45Y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir: contractau safonol cyfnod penodol sydd o fewn Atodlen 8A
1
Os yw contract safonol cyfnod penodol o fewn Atodlen 8A, ni chaiff y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan gymal terfynu’r landlord fod yn llai na dau fis ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract.
2
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sydd—
a
yn cynnwys cymal terfynu’r landlord, a
b
o fewn Atodlen 8A.
I50196F42Cyfyngiad ar ddefnyddio cymal terfynu’r landlord tan ar ôl 18 mis cyntaf meddiannaeth
1
Ni chaiff y landlord roi hysbysiad o dan gymal terfynu’r landlord cyn diwedd y cyfnod o F2718 mis sy’n dechrau â diwrnod meddiannu’r contract.
F282
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F293
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
4
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol, ac eithrio contractau safonol cyfnod penodol—
a
nad ydynt yn cynnwys cymal terfynu’r landlord, neu
b
sydd o fewn Atodlen 9 (pa un a ydynt yn cynnwys cymal terfynu’r landlord ai peidio),
F30...
I51197F31Cyfyngiadau ar y defnydd o gymal terfynu’r landlord: torri rhwymedigaethau statudol
Mae Atodlen 9A yn gosod cyfyngiadau ar roi hysbysiad o dan gymal terfynu’r landlord, sy’n ymwneud â thorri rhwymedigaethau statudol penodol.
I52198F32Cyfyngiad ar y defnydd o gymal terfynu’r landlord yn dilyn hawliad meddiant dialgar
1
Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo—
a
landlord (ar ôl rhoi hysbysiad i ddeiliad contract o dan gymal terfynu’r landlord) wedi gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 199, a
b
y llys wedi gwrthod gwneud gorchymyn adennill meddiant gan ei fod o’r farn bod yr hawliad yn hawliad dialgar (gweler adran 217).
2
Ni chaiff y landlord roi hysbysiad arall o dan gymal terfynu’r landlord i ddeiliad y contract cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y gwrthododd y llys wneud gorchymyn adennill meddiant.
3
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sydd â chymal terfynu’r landlord.
I53199Adennill meddiant
1
Os yw’r landlord yn rhoi hysbysiad i ddeiliad y contract o dan gymal terfynu’r landlord, caiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno.
2
Mae adran 215 yn darparu bod yn rhaid i’r llys, os yw wedi ei fodloni bod y sail wedi ei phrofi, wneud gorchymyn adennill meddiant o’r annedd, oni bai bod adran 217 (troi allan dialgar) yn gymwys (ac yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract).
3
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sydd â chymal terfynu’r landlord.
I54200Cyfyngiad ar adran 199
1
Ni chaiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 199—
a
cyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad y rhoddodd y landlord i ddeiliad y contract o dan gymal terfynu’r landlord, na
b
ar ôl diwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r dyddiad hwnnw.
2
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sydd â chymal terfynu’r landlord.
I55201Terfynu contract o dan gymal terfynu’r landlord
1
Os yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan gymal terfynu’r landlord, neu cyn hynny, daw’r contract i ben ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.
2
Os yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar ôl y dyddiad hwnnw ond mewn cysylltiad â’r hysbysiad, daw’r contract i ben—
a
ar y diwrnod y mae deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd, neu
b
os gwneir gorchymyn adennill meddiant, ar y dyddiad a bennir yn unol ag adran 206.
3
Mae’r hysbysiad yn peidio â chael effaith os F33—
a
yw’r landlord, cyn i’r contract ddod i ben, ac yn ystod y cyfnod o 28 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad, yn tynnu’r hysbysiad yn ôl drwy roi hysbysiad pellach i ddeiliad y contract, neu
b
cyn i’r contract ddod i ben, ac ar ôl y cyfnod o 28 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad—
i
yw’r landlord yn tynnu’r hysbysiad yn ôl drwy roi hysbysiad pellach i ddeiliad y contract, a
ii
nad yw deiliad y contract yn gwrthwynebu mewn ysgrifen i’r tynnu’n ôl cyn diwedd cyfnod rhesymol.
4
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sydd â chymal terfynu’r landlord.
PENNOD 8ADOLYGIAD GAN LANDLORD O BENDERFYNIAD I ROI HYSBYSIAD YN EI GWNEUD YN OFYNNOL ILDIO MEDDIANT
(NID YW’R BENNOD HON OND YN GYMWYS I GONTRACTAU SAFONOL RHAGARWEINIOL A CHONTRACTAU SAFONOL YMDDYGIAD GWAHARDDEDIG)
I56202Adolygiad o benderfyniad i derfynu contract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig
1
Nid yw’r adran hon yn gymwys ond mewn perthynas â chontractau safonol rhagarweiniol a chontractau safonol ymddygiad gwaharddedig.
2
Os yw’r landlord yn penderfynu rhoi hysbysiad i ddeiliad contract o dan adran 173 (hysbysiad y landlord) neu i roi hysbysiad adennill meddiant sy’n pennu’r sail yn adran 181 (ôl-ddyledion rhent difrifol), caiff deiliad y contract ofyn i’r landlord gynnal adolygiad o’r penderfyniad hwnnw.
3
Rhaid gwneud cais am adolygiad i’r landlord cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod (neu unrhyw gyfnod hwy a ganiateir mewn ysgrifen gan y landlord) sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi’r hysbysiad i ddeiliad y contract.
I57203Adolygiad y landlord o benderfyniad i roi hysbysiad
1
Os yw deiliad y contract, yn unol ag adran 202, yn gofyn am adolygiad o benderfyniad y landlord i roi hysbysiad, rhaid i’r landlord gynnal yr adolygiad.
2
Yn dilyn adolygiad, caiff y landlord—
a
cadarnhau’r penderfyniad i roi’r hysbysiad, neu
b
gwrthdroi’r penderfyniad.
3
Rhaid i’r landlord hysbysu deiliad y contract o ganlyniad yr adolygiad cyn y dyddiad y gall y landlord wneud hawliad meddiant ar ei ôl.
4
Os yw’r landlord yn cadarnhau’r penderfyniad, rhaid i’r hysbysiad nodi’r rhesymau dros y cadarnhad.
I875
Caiff Gweinidogion Cymru ragnodi’r weithdrefn sydd i’w dilyn mewn cysylltiad ag adolygiad o dan yr adran hon.
I876
Caiff rheoliadau o dan is-adran (5), ymysg pethau eraill—
a
ei gwneud yn ofynnol i’r adolygiad gael ei gynnal gan berson o safle uwch priodol nad yw wedi bod yn ymwneud â’r penderfyniad, a
b
dynodi amgylchiadau pan fo hawl gan ddeiliad y contract i wrandawiad llafar, a dynodi a ganiateir iddo gael ei gynrychioli mewn gwrandawiad o’r fath, a chan bwy.
PENNOD 9HAWLIADAU MEDDIANT: PWERAU’R LLYS
(MAE’R BENNOD HON YN GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH)
I58204Hawliadau meddiant
1
Ni chaiff y llys wrando hawliad meddiant a wneir gan y landlord o dan gontract meddiannaeth—
a
os yw’r landlord wedi methu â gweithredu yn unol â pha un bynnag o’r darpariaethau a ganlyn sy’n gymwys—
F37i
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
ii
adran 159 (cyfyngiadau ar wneud hawliad meddiant yn dilyn tor contract);
iii
adran 161 (cyfyngiadau ar wneud hawliad meddiant ar seiliau rheoli ystad);
iv
adran 166 (cyfyngiadau ar wneud hawliad meddiant yn dilyn hysbysiad deiliad y contract: contractau diogel);
v
adran 171 (cyfyngiadau ar wneud hawliad meddiant yn dilyn hysbysiad deiliad y contract: contractau safonol cyfnodol);
vi
adran 175 (cyfyngiad ar roi hysbysiad y landlord o dan gontract safonol cyfnodol F38tan ar ôl chwe mis cyntaf meddiannaeth);
vii
adrannau F34177, 177A a 179 (cyfyngiadau yn ymwneud â hysbysiad y landlord: contractau safonol cyfnodol);
viii
adran 182 (cyfyngiadau ar wneud hawliad meddiant yn dilyn ôl-ddyledion rhent difrifol: contractau safonol cyfnodol);
ix
adran 186 (cyfyngiad yn ymwneud â hysbysiad mewn cysylltiad â diwedd cyfnod penodol);
x
adran 188 (cyfyngiadau ar wneud hawliad meddiant yn dilyn ôl-ddyledion rhent difrifol: contractau safonol cyfnod penodol);
xi
adran 192 (cyfyngiadau ar wneud hawliad meddiant ar ôl defnyddio cymal terfynu deiliad contract mewn contract safonol cyfnod penodol);
xii
adran 196 (cyfyngiad ar ddefnyddio cymal terfynu’r landlord mewn contract safonol cyfnod penodol F39tan ar ôl 18 mis cyntaf meddiannaeth);
xiii
adrannau F36...198 a 200 (cyfyngiadau yn ymwneud â chymal terfynu’r landlord mewn contract safonol cyfnod penodol);
xiv
adran 203 (adolygiad o benderfyniad i roi hysbysiad yn ceisio meddiant: contractau safonol rhagarweiniol a chontractau safonol ymddygiad gwaharddedig),
F35xv
Atodlen 9A (cyfyngiadau ar roi hysbysiad o dan adrannau 173 a 186 ac o dan gymal terfynu’r landlord: torri rhwymedigaethau statudol), neu
b
os oedd yn ofynnol i’r landlord roi hysbysiad adennill meddiant a’i fod wedi methu â chydymffurfio ag adran 150 neu (mewn perthynas â chontract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig) adran 151.
2
Nid yw is-adran (1) yn gymwys os yw’r llys yn ystyried ei bod yn rhesymol hepgor y gofynion a grybwyllir yn yr is-adran honno.
3
Nid yw is-adran (1) yn gymwys i gais am orchymyn adennill meddiant yn erbyn isddeiliad o dan adran 65(2) (gorchymyn adennill meddiant estynedig).
I59205Gorchmynion adennill meddiant
1
Ni chaiff y llys wneud gorchymyn yn ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y contract o dan gontract meddiannaeth ildio meddiant o’r annedd ond ar un neu ragor o’r seiliau yn—
a
adran 157 (tor contract);
b
adran 160 (rheoli ystad);
c
adran 165 (hysbysiad deiliad y contract: contractau diogel);
d
adran 170 (hysbysiad deiliad y contract: contractau safonol cyfnodol);
e
adran 178 (hysbysiad y landlord: contractau safonol cyfnodol);
f
adran 181 (ôl-ddyledion rhent difrifol: contractau safonol cyfnodol);
g
adran 186 (hysbysiad y landlord mewn cysylltiad â diwedd cyfnod penodol);
h
adran 187 (ôl-ddyledion rhent difrifol: contractau safonol cyfnod penodol);
i
adran 191 (hysbysiad deiliad y contract: contractau safonol cyfnod penodol);
j
adran 199 (hysbysiad y landlord: contractau safonol cyfnod penodol).
2
Pan fo’n ofynnol i’r landlord roi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract, ni chaiff y llys wneud gorchymyn adennill meddiant ar sail nad yw wedi ei phennu yn hysbysiad adennill meddiant y landlord.
3
Ond caiff y llys ganiatáu addasu neu ychwanegu at y sail (neu’r seiliau) a bennir yn yr hysbysiad adennill meddiant ar unrhyw adeg cyn i’r llys wneud gorchymyn adennill meddiant.
I60206Effaith gorchymyn adennill meddiant
1
Os yw’r llys yn gwneud gorchymyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y contract o dan gontract meddiannaeth ildio meddiant o’r annedd ar ddyddiad a bennir yn y gorchymyn, daw’r contract i ben—
a
os yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar y dyddiad hwnnw, neu cyn hynny, ar y dyddiad hwnnw,
b
os yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar ôl y dyddiad hwnnw ond cyn gweithredu’r gorchymyn adennill meddiant, ar y diwrnod y mae’n ildio meddiant o’r annedd, neu
c
os nad yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd cyn gweithredu’r gorchymyn adennill meddiant, pan weithredir y gorchymyn adennill meddiant.
2
Mae is-adran (3) yn gymwys—
a
os yw’n amod o’r gorchymyn fod yn rhaid i’r landlord gynnig contract meddiannaeth newydd mewn perthynas â’r un annedd i un neu ragor o’r cyd-ddeiliaid contract (ond nid pob un ohonynt), a
b
os yw’r cyd-ddeiliad contract hwnnw (neu’r cyd-ddeiliaid contract hynny) yn parhau i feddiannu’r annedd ar ddiwrnod meddiannu’r contract newydd ac ar ôl hynny.
3
Daw’r contract meddiannaeth y gwnaed y gorchymyn adennill meddiant mewn perthynas ag ef i ben yn union cyn dyddiad meddiannu’r contract newydd.
4
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.
I61207Cymryd rhan mewn achos
1
Mae hawl gan berson sy’n meddiannu annedd sy’n ddarostyngedig i gontract meddiannaeth, ac sydd â hawliau cartref, cyhyd ag y bo’r person yn parhau i’w meddiannu—
a
i fod yn barti i unrhyw achos ar hawliad meddiant sy’n ymwneud â’r annedd, neu mewn cysylltiad â gorchymyn adennill meddiant o’r annedd, neu
b
i geisio gohiriad, ataliad neu oediad o dan adran 211, 214 neu 219.
2
Mae i “hawliau cartref” yr un ystyr ag a roddir i “home rights” yn adran 30(2) o Ddeddf Cyfraith Teulu 1996 (p. 27).
I62208Camliwio neu gelu ffeithiau i gael gorchymyn adennill meddiant
1
Mae’r adran hon yn gymwys os yw’r llys, ar ôl i’r landlord o dan gontract meddiannaeth gael gorchymyn adennill meddiant yn erbyn deiliad y contract, yn fodlon bod y gorchymyn wedi ei gael drwy gamliwio neu gelu ffeithiau perthnasol.
2
Caiff y llys orchymyn i’r landlord dalu i ddeiliad y contract unrhyw swm sy’n ymddangos yn ddigollediad digonol am niwed neu golled a gafodd deiliad y contract o ganlyniad i’r gorchymyn.
PENNOD 10HAWLIADAU MEDDIANT: PWERAU’R LLYS MEWN PERTHYNAS Â SEILIAU YN ÔL DISGRESIWN
(MAE’R BENNOD HON YN GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH)
I63209Sail tor contract
1
Mae’r adran hon yn gymwys os yw’r landlord o dan gontract meddiannaeth yn gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 157 (tor contract).
2
Ni chaiff y llys wneud gorchymyn adennill meddiant ar y sail honno oni bai ei fod yn ystyried ei bod yn rhesymol gwneud hynny.
3
Nid yw’r llys wedi ei atal rhag gwneud gorchymyn adennill meddiant ar y sail honno ond am fod deiliad y contract wedi rhoi’r gorau i gyflawni’r tor contract cyn i’r landlord wneud yr hawliad meddiant.
4
Mae Atodlen 10 yn gwneud darpariaeth ynghylch rhesymoldeb gwneud gorchymyn adennill meddiant.
I64210Seiliau rheoli ystad
1
Mae’r adran hon yn gymwys os yw’r landlord o dan gontract meddiannaeth yn gwneud hawliad meddiant o dan adran 160 ar un neu ragor o’r seiliau rheoli ystad.
2
Ni chaiff y llys wneud gorchymyn adennill meddiant ar y sail honno (neu ar y seiliau hynny) oni bai—
a
ei fod yn ystyried ei bod yn rhesymol gwneud hynny, a
b
ei fod yn fodlon bod llety arall addas ar gael i ddeiliad y contract (neu y bydd ar gael i ddeiliad y contract pan fydd y gorchymyn yn cael effaith).
3
Mae Atodlen 10 yn gwneud darpariaeth ynghylch rhesymoldeb gwneud gorchymyn am feddiant.
4
Penderfynir a oes llety arall addas ar gael i ddeiliad y contract neu a fydd ar gael gan roi sylw i Atodlen 11.
5
Os yw’r landlord yn gwneud hawliad meddiant ar Sail B o’r seiliau rheoli ystad a bod y cynllun ailddatblygu yn cael ei gymeradwyo o dan Ran 2 o Atodlen 8 yn ddarostyngedig i amodau, ni chaiff y llys wneud gorchymyn adennill meddiant oni bai ei fod yn fodlon bod yr amodau wedi eu bodloni, neu y cânt eu bodloni.
6
Os yw’r llys yn gwneud gorchymyn adennill meddiant a’i bod yn ofynnol i’r landlord dalu swm i ddeiliad y contract o dan adran 160(4), o ran y swm sy’n daladwy—
a
os nad yw wedi ei gytuno rhwng y landlord a deiliad y contract, mae i’w ddyfarnu gan y llys, a
b
gellir ei adennill oddi wrth y landlord fel dyled sifil.
I65211Pwerau i ohirio achosion ac i ohirio ildio meddiant
1
Os yw hawliad meddiant a wneir gan landlord yn dibynnu ar y sail yn adran 157 (tor contract) neu ar un neu ragor o’r seiliau rheoli ystad, caiff y llys ohirio’r achos ar yr hawliad am unrhyw gyfnod neu gyfnodau sy’n rhesymol yn ei farn.
2
Os yw’r llys yn gwneud gorchymyn adennill meddiant o dan adran 209 neu 210, caiff (wrth wneud y gorchymyn neu ar unrhyw adeg cyn gweithredu’r gorchymyn) ohirio ildio meddiant am unrhyw gyfnod neu gyfnodau sy’n briodol yn ei farn.
3
Gellir gohirio ildio meddiant drwy’r gorchymyn adennill meddiant, neu drwy atal neu oedi cyn gweithredu’r gorchymyn adennill meddiant.
4
Pan geir gohiriad o dan yr adran hon, rhaid i’r llys osod amodau o ran—
a
talu ôl-ddyledion rhent (os oes rhai) gan ddeiliad y contract, a
b
parhau i dalu’r rhent (os oes rhent i’w dalu),
oni bai ei fod o’r farn y byddai gwneud hynny’n achosi caledi eithriadol i ddeiliad y contract neu y byddai’n afresymol fel arall.
5
Caiff y llys osod unrhyw amodau eraill sy’n briodol yn ei farn.
6
Os yw deiliad y contract yn cydymffurfio â’r amodau, caiff y llys ryddhau’r gorchymyn am feddiant.
7
Mae Atodlen 10 yn gwneud darpariaeth ynghylch rhesymoldeb gohiriad.
PENNOD 11HAWLIADAU MEDDIANT: PWERAU’R LLYS MEWN PERTHYNAS Â SEILIAU ABSOLIWT
(NID YW’R BENNOD HON OND YN GYMWYS I GONTRACTAU DIOGEL)
I66212Sail hysbysiad deiliad y contract
1
Mae’r adran hon yn gymwys os—
a
yw’r landlord o dan gontract diogel yn gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 165 (hysbysiad deiliad y contract), a
b
yw’r llys yn fodlon bod y sail wedi ei phrofi.
2
Rhaid i’r llys wneud gorchymyn adennill meddiant o’r annedd (yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract).
3
Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i adran 213 (adolygiad gan y llys sirol).
I67213Adolygiad o hawliad a wneir ar sail absoliwt
1
Mae’r adran hon yn gymwys os yw landlord o dan gontract diogel yn gwneud hawliad meddiant yn y llys sirol ar y sail yn adran 165 (deiliad y contract yn methu ag ildio meddiant yn dilyn hysbysiad deiliad y contract), ac—
a
bod y landlord yn landlord cymunedol, neu
b
bod penderfyniad y landlord i wneud hawliad meddiant ar y sail honno yn ddarostyngedig i adolygiad barnwrol.
2
Caiff deiliad y contract wneud cais yn yr achos adennill meddiant am adolygiad gan y llys sirol o benderfyniad y landlord i wneud yr hawliad.
3
Caiff y llys sirol gadarnhau’r penderfyniad neu ei ddiddymu.
4
Wrth ystyried a ddylai gadarnhau’r penderfyniad neu ei ddiddymu, rhaid i’r llys sirol gymhwyso’r egwyddorion a gymhwysir gan yr Uchel Lys pan wneir cais am adolygiad barnwrol.
5
Os yw’r llys sirol yn diddymu’r penderfyniad caiff—
a
rhoi’r hysbysiad adennill meddiant o’r neilltu a gwrthod yr achos adennill meddiant;
b
gwneud unrhyw orchymyn y gallai’r Uchel Lys ei wneud wrth wneud gorchymyn diddymu ar gais am adolygiad barnwrol.
6
Ni chaiff deiliad y contract wneud cais o dan is-adran (2) ar ôl i orchymyn adennill meddiant gael ei wneud mewn perthynas â’r annedd.
I68214Pwerau i ohirio ildio meddiant
1
Mae’r adran hon yn gymwys os yw’r llys yn gwneud gorchymyn adennill meddiant o annedd o dan adran 212.
2
Ni chaiff y llys ohirio ildio meddiant hyd ddyddiad diweddarach na 14 diwrnod ar ôl gwneud y gorchymyn, oni bai ei bod yn ymddangos i’r llys y câi caledi eithriadol ei achosi pe na byddai ildio meddiant yn cael ei ohirio hyd ddyddiad diweddarach.
3
Ni chaniateir gohirio ildio meddiant hyd ddyddiad diweddarach na chwe wythnos ar ôl gwneud y gorchymyn mewn unrhyw achos.
4
Caniateir gohirio ildio meddiant drwy’r gorchymyn adennill meddiant, neu drwy atal neu oedi cyn gweithredu’r gorchymyn adennill meddiant.
PENNOD 12HAWLIADAU MEDDIANT: PWERAU’R LLYS MEWN PERTHYNAS Â SEILIAU ABSOLIWT
(NID YW’R BENNOD HON OND YN GYMWYS I GONTRACTAU SAFONOL)
Seiliau meddiant absoliwt mewn perthynas â chontractau safonol
I69215Seiliau rhoi hysbysiad
1
Mae is-adran (2) yn gymwys os—
a
yw’r landlord o dan gontract safonol yn gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 170 neu 191 (hysbysiad deiliad y contract) neu adran 186 (hysbysiad y landlord mewn cysylltiad â diwedd cyfnod penodol), a
b
yw’r llys yn fodlon bod y sail wedi ei phrofi.
2
Rhaid i’r llys wneud gorchymyn adennill meddiant o’r annedd (yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract).
3
Mae is-adran (4) yn gymwys os—
a
yw’r landlord o dan gontract safonol yn gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 178 neu 199 (hysbysiad y landlord), a
b
yw’r llys yn fodlon bod y sail wedi ei phrofi.
4
Rhaid i’r llys wneud gorchymyn adennill meddiant o’r annedd oni bai bod adran 217 (troi allan dialgar) yn gymwys (ac yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract).
5
Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i adran 218 (adolygiad gan y llys sirol).
I70216Seiliau ôl-ddyledion rhent difrifol
1
Mae’r adran hon yn gymwys os yw’r landlord o dan gontract safonol yn gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 181 neu 187 (ôl-ddyledion rhent difrifol).
2
Os yw’r llys yn fodlon bod gan ddeiliad y contract—
a
ôl-ddyledion rhent difrifol ar y diwrnod y rhoddodd y landlord hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract, a
b
ôl-ddyledion rhent difrifol ar y diwrnod y mae’r llys yn gwrando’r achos ar yr hawliad meddiant,
rhaid iddo wneud gorchymyn adennill meddiant o’r annedd (yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract).
3
Mae adran 181(2) neu (yn ôl y digwydd) adran 187(2) yn gymwys er mwyn penderfynu a oes gan ddeiliad contract ôl-ddyledion rhent difrifol.
4
Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i adran 218 (adolygiad gan y llys sirol).
Troi allan dialgar: sail absoliwt sy’n dod yn sail yn ôl disgresiwn
I71217Hawliadau meddiant dialgar er mwyn osgoi rhwymedigaethau i atgyweirio etc.
1
Mae’r adran hon yn gymwys—
a
os yw landlord o dan gontract safonol yn gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 178 neu adran 199 (hysbysiad y landlord), a
b
os yw’r llys o’r farn bod yr hawliad yn hawliad dialgar.
2
Caiff y llys wrthod gwneud gorchymyn adennill meddiant.
3
Mae hawliad meddiant yn hawliad dialgar—
a
os yw deiliad y contract wedi gorfodi rhwymedigaethau’r landlord o dan adran 91 neu 92 neu wedi dibynnu arnynt, a
b
os yw’r llys yn fodlon bod y landlord wedi gwneud yr hawliad meddiant er mwyn osgoi cydymffurfio â’r rhwymedigaethau hynny.
4
Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r adran hon drwy reoliadau at ddiben darparu ar gyfer disgrifiadau pellach o hawliad dialgar.
Adolygiad a gohirio
I72218Adolygiad o hawliad a wneir ar sail absoliwt
1
Mae’r adran hon yn gymwys os yw landlord o dan gontract safonol yn gwneud hawliad meddiant yn y llys sirol ar sail mewn adran y mae is-adran (2) yn gymwys iddi, a—
a
bod y landlord yn landlord cymunedol, neu
b
bod penderfyniad y landlord i wneud hawliad meddiant ar y sail honno yn ddarostyngedig i adolygiad barnwrol.
2
Mae’r is-adran hon yn gymwys i’r adrannau a ganlyn—
a
adran 170 (hysbysiad deiliad y contract: contractau safonol cyfnodol),
b
adran 178 (hysbysiad y landlord: contractau safonol cyfnodol),
c
adran 181 (ôl-ddyledion rhent difrifol: contractau safonol cyfnodol),
d
adran 186 (hysbysiad y landlord mewn cysylltiad â diwedd cyfnod penodol),
e
adran 187 (ôl-ddyledion rhent difrifol: contractau safonol cyfnod penodol),
f
adran 191 (hysbysiad deiliad y contract: contractau safonol cyfnod penodol), ac
g
adran 199 (hysbysiad y landlord: contractau safonol cyfnod penodol).
3
Caiff deiliad y contract wneud cais yn ystod yr achos adennill meddiant am adolygiad gan y llys sirol o benderfyniad y landlord i wneud yr hawliad.
4
Caiff deiliad y contract wneud cais o dan yr adran hon ni waeth a ofynnodd am adolygiad gan y landlord o dan adran 202 (contractau safonol rhagarweiniol a chontractau safonol ymddygiad gwaharddedig) ai peidio.
5
Ond ni chaiff deiliad y contract wneud cais o dan yr adran hon ar y sail fod yr hawliad meddiant yn hawliad dialgar (o fewn ystyr adran 217).
6
Caiff y llys sirol gadarnhau’r penderfyniad i wneud yr hawliad neu ei ddiddymu.
7
Wrth ystyried a ddylai gadarnhau’r penderfyniad neu ei ddiddymu, rhaid i’r llys sirol gymhwyso’r egwyddorion a gymhwysir gan yr Uchel Lys pan wneir cais am adolygiad barnwrol.
8
Os yw’r llys sirol yn diddymu’r penderfyniad caiff—
a
rhoi’r hysbysiad adennill meddiant neu (yn ôl y digwydd) hysbysiad y landlord o’r neilltu a gwrthod yr achos adennill meddiant;
b
gwneud unrhyw orchymyn y gallai’r Uchel Lys ei wneud wrth wneud gorchymyn diddymu ar gais am adolygiad barnwrol.
9
Ni chaiff deiliad y contract wneud cais o dan is-adran (3) ar ôl i orchymyn adennill meddiant gael ei wneud mewn perthynas â’r annedd.
I73219Pwerau i ohirio ildio meddiant
1
Mae’r adran hon yn gymwys os yw’r llys yn gwneud gorchymyn adennill meddiant o annedd o dan adran 215 neu 216.
2
Ni chaiff y llys ohirio ildio meddiant hyd ddyddiad diweddarach na 14 diwrnod ar ôl gwneud y gorchymyn, oni bai ei bod yn ymddangos i’r llys y câi caledi eithriadol ei achosi pe na byddai ildio meddiant yn cael ei ohirio tan ddyddiad diweddarach.
3
Ni chaniateir gohirio ildio meddiant hyd ddyddiad diweddarach na chwe wythnos ar ôl gwneud y gorchymyn mewn unrhyw achos.
4
Caniateir gohirio ildio meddiant drwy’r gorchymyn adennill meddiant, neu drwy atal neu oedi cyn gweithredu’r gorchymyn adennill meddiant.
PENNOD 13CEFNU
(MAE’R BENNOD HON YN GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH)
I74220Meddiannu anheddau y cefnwyd arnynt
1
Os yw’r landlord o dan gontract meddiannaeth perthnasol yn credu bod deiliad y contract wedi cefnu ar yr annedd, caiff y landlord adennill meddiant o’r annedd yn unol â’r adran hon.
2
Mae contract meddiannaeth yn berthnasol os yw’n un o delerau’r contract (ym mha fodd bynnag y’i mynegir) bod yn rhaid i ddeiliad y contract feddiannu’r annedd fel ei unig gartref neu ei brif gartref.
3
Rhaid i’r landlord roi hysbysiad i ddeiliad y contract—
a
yn datgan bod y landlord yn credu bod deiliad y contract wedi cefnu ar yr annedd,
b
yn ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y contract hysbysu’r landlord mewn ysgrifen cyn diwedd y cyfnod rhybuddio os nad yw deiliad y contract wedi cefnu ar yr annedd, ac
c
yn hysbysu deiliad y contract o fwriad y landlord i derfynu’r contract os yw’r landlord, ar ddiwedd y cyfnod rhybuddio, yn fodlon bod deiliad y contract wedi cefnu ar yr annedd.
4
Yn ystod y cyfnod rhybuddio rhaid i’r landlord wneud unrhyw ymholiadau sy’n angenrheidiol er mwyn bodloni ei hun bod deiliad y contract wedi cefnu ar yr annedd.
5
Ar ddiwedd y cyfnod rhybuddio caiff y landlord, os yw’n fodlon fel y disgrifir yn is-adran (4), derfynu’r contract drwy roi hysbysiad i ddeiliad y contract.
6
Daw’r contract i ben pan roddir yr hysbysiad o dan is-adran (5) i ddeiliad y contract.
7
Os terfynir contract meddiannaeth o dan yr adran hon caiff y landlord adennill meddiant o’r annedd heb achos llys.
8
Y cyfnod rhybuddio yw’r cyfnod o bedair wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir hysbysiad o dan is-adran (3) i ddeiliad y contract.
9
Rhaid i’r landlord roi copi o hysbysiad o dan is-adran (3) a chopi o hysbysiad o dan is-adran (5) i unrhyw letywr neu isddeiliad i ddeiliad y contract.
I75I88221Gwaredu eiddo
1
Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau mewn cysylltiad â diogelu eiddo (ac eithrio eiddo’r landlord) sydd yn yr annedd pan ddaw contract i ben o dan adran 220, a’i draddodi i’w berchennog.
2
Caiff y rheoliadau, ymysg pethau eraill—
a
darparu bod traddodi eiddo yn amodol ar dalu treuliau yr aed iddynt gan y landlord;
b
awdurdodi gwaredu eiddo ar ôl cyfnod rhagnodedig;
c
caniatáu i’r landlord gymhwyso unrhyw enillion o werthi eiddo tuag at dalu’r treuliau yr aed iddynt gan y landlord a’r symiau sy’n ddyledus gan ddeiliad y contract o dan y contract.
I76222Rhwymedïau deiliad y contract
1
Caiff deiliad contract, cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir hysbysiad iddo o dan adran 220(5), wneud cais i’r llys ar un neu ragor o’r seiliau yn is-adran (2) am ddatganiad neu orchymyn o dan is-adran (3).
2
Y seiliau yw—
a
bod y landlord wedi methu â rhoi hysbysiad o dan adran 220(3) neu wedi methu â gwneud yr ymholiadau sy’n ofynnol yn ôl adran 220(4);
b
nad oedd deiliad y contract wedi cefnu ar yr annedd a bod rheswm da dros ei fethiant i ymateb (neu i ymateb yn ddigonol) i’r hysbysiad o dan adran 220(3);
c
nad oedd gan y landlord, pan roddodd yr hysbysiad i ddeiliad y contract o dan adran 220(5), seiliau rhesymol dros fod yn fodlon bod deiliad y contract wedi cefnu ar yr annedd.
3
Os yw’r llys yn canfod bod un neu ragor o’r seiliau wedi ei phrofi neu eu profi, caiff—
a
gwneud datganiad nad oes unrhyw effaith i’r hysbysiad o dan adran 220(5) a bod y contract meddiannaeth yn parhau i gael effaith mewn perthynas â’r annedd,
b
gorchymyn i’r landlord ddarparu llety arall addas i ddeiliad y contract, neu
c
gwneud unrhyw orchymyn arall sy’n briodol yn ei farn.
4
Os yw’r llys yn gwneud y naill neu’r llall o’r pethau a grybwyllir ym mharagraff (a) neu (b) o is-adran (3), caiff wneud unrhyw orchymyn arall y mae’n ei ystyried yn briodol.
5
Mae addasrwydd llety arall i’w benderfynu gan roi sylw i Atodlen 11.
I77223Pŵer i amrywio cyfnodau yn ymwneud â chefnu
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—
a
diwygio adran 220(8) drwy roi cyfnod gwahanol yn lle’r cyfnod y cyfeirir ato ar y pryd;
b
diwygio adran 222(1) drwy roi cyfnod gwahanol yn lle’r cyfnod y cyfeirir ato ar y pryd.
I78224Hawliau mynediad
1
Mae is-adran (2) yn gymwys os yw’r landlord o dan gontract meddiannaeth perthnasol yn credu’n rhesymol bod deiliad y contract wedi cefnu ar yr annedd.
2
Caiff y landlord fynd i’r annedd unrhyw bryd er mwyn ei gwneud yn ddiogel neu i ddiogelu ei chynnwys ac unrhyw osodion neu ffitiadau, a chaiff ddefnyddio grym rhesymol i wneud hynny.
3
Mae contract meddiannaeth yn berthnasol os yw’n un o delerau’r contract (ym mha fodd bynnag y’i mynegir) bod rhaid i ddeiliad y contract feddiannu’r annedd fel ei unig gartref neu ei brif gartref.
PENNOD 14CYD-DDEILIAID CONTRACT: GWAHARDD A THERFYNU
(MAE’R BENNOD HON YN GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH)
Gwahardd cyd-ddeiliaid contract
I79225Anfeddiannaeth: gwahardd gan y landlord
1
Os yw’r landlord o dan gontract meddiannaeth yn credu nad yw cyd-ddeiliad contract y mae’n ofynnol iddo feddiannu’r annedd (“C”)—
a
yn meddiannu’r annedd, na
b
yn bwriadu ei meddiannu,
caiff y landlord derfynu hawliau a rhwymedigaethau C yn unol â’r adran hon.
2
Mae’n ofynnol i gyd-ddeiliad contract feddiannu’r annedd os yw’n un o delerau’r contract (ym mha fodd bynnag y’i mynegir) bod yn rhaid iddo feddiannu’r annedd fel ei unig gartref neu ei brif gartref.
3
Rhaid i’r landlord roi hysbysiad i C—
a
yn datgan bod y landlord yn credu nad yw C yn meddiannu’r annedd, nac yn bwriadu ei meddiannu,
b
yn ei gwneud yn ofynnol i C hysbysu’r landlord mewn ysgrifen cyn diwedd y cyfnod rhybuddio os yw C yn meddiannu neu’n bwriadu meddiannu’r annedd, ac
c
yn hysbysu C o fwriad y landlord i derfynu hawliau a rhwymedigaethau C o dan y contract os yw’r landlord, ar ddiwedd y cyfnod rhybuddio, yn fodlon nad yw C yn meddiannu’r annedd, nac yn bwriadu ei meddiannu.
4
Y cyfnod rhybuddio yw’r cyfnod o bedair wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir hysbysiad o dan is-adran (3) i C.
5
Yn ystod y cyfnod rhybuddio rhaid i’r landlord wneud unrhyw ymholiadau sy’n angenrheidiol er mwyn bodloni ei hun nad yw C yn meddiannu’r annedd nac yn bwriadu ei meddiannu.
6
Ar ddiwedd y cyfnod rhybuddio caiff y landlord, os yw’n fodlon fel y disgrifir yn is-adran (5), derfynu hawliau a rhwymedigaethau C o dan y contract drwy roi hysbysiad iddo.
7
Mae C yn peidio â bod yn barti i’r contract ar ddiwedd y cyfnod o wyth wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir hysbysiad iddo o dan is-adran (6).
8
Rhaid i’r landlord roi copi o hysbysiad o dan is-adran (3) a chopi (os rhoddwyd un i C) o hysbysiad o dan is-adran (6) i bob un o’r cyd-ddeiliaid contract eraill.
I80226Rhwymedïau am wahardd o dan adran 225
1
Caiff C, cyn diwedd y cyfnod o wyth wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir hysbysiad iddo o dan adran 225(6), wneud cais i’r llys ar un neu ragor o’r seiliau yn is-adran (2) am ddatganiad o dan is-adran (3).
2
Y seiliau yw—
a
bod y landlord wedi methu â rhoi hysbysiad o dan adran 225(3) neu wedi methu â gwneud yr ymholiadau sy’n ofynnol yn ôl adran 225(5);
b
bod C yn meddiannu’r annedd, neu’n bwriadu ei meddiannu, a bod rheswm da dros ei fethiant i ymateb (neu i ymateb yn ddigonol) i’r hysbysiad o dan adran 225(3);
c
nad oedd gan y landlord, pan roddodd yr hysbysiad i C o dan adran 225(6), seiliau rhesymol dros fod yn fodlon nad oedd C yn meddiannu’r annedd, nac yn bwriadu ei meddiannu.
3
Os yw’r llys yn canfod bod un neu ragor o’r seiliau wedi ei phrofi neu eu profi, caiff—
a
gwneud datganiad nad oes unrhyw effaith i’r hysbysiad o dan adran 225(6) a bod C yn parhau i fod yn barti i’r contract, a
b
gwneud unrhyw orchymyn pellach y mae’n ei ystyried yn briodol.
I81227Anfeddiannaeth: gwahardd gan gyd-ddeiliad contract
1
Os yw cyd-ddeiliad contract (“A”) yn credu nad yw cyd-ddeiliad contract arall (“C”) y mae’n ofynnol iddo feddiannu’r annedd o dan gontract meddiannaeth—
a
yn meddiannu’r annedd, na
b
yn bwriadu ei meddiannu,
caniateir terfynu hawliau a rhwymedigaethau C o dan y contract yn unol â’r adran hon.
2
Mae’n ofynnol i gyd-ddeiliad contract feddiannu’r annedd os yw’n un o delerau’r contract (ym mha fodd bynnag y’i mynegir) bod yn rhaid iddo feddiannu’r annedd fel ei unig gartref neu ei brif gartref.
3
Rhaid i A roi hysbysiad i C—
a
yn datgan bod A yn credu nad yw C yn meddiannu’r annedd, nac yn bwriadu ei meddiannu,
b
yn ei gwneud yn ofynnol i C hysbysu A mewn ysgrifen cyn diwedd y cyfnod rhybuddio os yw C yn meddiannu neu’n bwriadu meddiannu’r annedd, ac
c
yn hysbysu C y gall hawliau a rhwymedigaethau C o dan y contract gael eu terfynu os yw A yn fodlon, ar ddiwedd y cyfnod rhybuddio, nad yw C yn meddiannu’r annedd nac yn bwriadu ei meddiannu.
4
Rhaid i A roi copi o hysbysiad o dan is-adran (3)—
a
i’r landlord, a
b
os oes cyd-ddeiliaid contract heblaw A ac C, i bob un o’r cyd-ddeiliaid contract eraill hynny.
5
Yn ystod y cyfnod rhybuddio, rhaid i A wneud unrhyw ymholiadau sy’n angenrheidiol er mwyn ei fodloni ei hun nad yw C yn meddiannu’r annedd nac yn bwriadu ei meddiannu.
6
Ar ddiwedd y cyfnod rhybuddio caiff A, os yw’n fodlon fel y disgrifir yn is-adran (5), wneud cais i’r llys am orchymyn sy’n terfynu hawliau a rhwymedigaethau C o dan y contract meddiannaeth.
7
Os yw’r llys yn fodlon nad yw C yn meddiannu’r annedd, nac yn bwriadu ei meddiannu, caiff wneud y gorchymyn y gwneir cais amdano o dan is-adran (6).
8
Ond ni chaiff wneud y gorchymyn os gellir priodoli’r ffaith nad yw C yn meddiannu’r annedd, nac yn bwriadu ei meddiannu, i’r ffaith bod A neu gyd-ddeiliad contract arall wedi methu â chydymffurfio ag adran 55 (ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall).
9
Os yw’r llys yn gwneud y gorchymyn, mae C yn peidio â bod yn barti i’r contract ar y dyddiad a bennir yn y gorchymyn.
10
Y cyfnod rhybuddio yw’r cyfnod o bedair wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir hysbysiad o dan is-adran (3) i C.
I82228Rhwymedïau am wahardd o dan adran 227
1
Mae is-adran (2) yn gymwys os yw’r llys yn gwneud gorchymyn o dan adran 227(7) sy’n terfynu hawliau a rhwymedigaethau C o dan y contract meddiannaeth.
2
Cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y gwneir y gorchymyn, caiff C wneud cais i’r llys ar un neu ragor o’r seiliau yn is-adran (3) am orchymyn a datganiad o dan is-adran (4)(a).
3
Y seiliau yw—
a
bod A wedi methu â rhoi hysbysiad o dan adran 227(3) neu wedi methu â gwneud yr ymholiadau sy’n ofynnol yn ôl adran 227(5);
b
bod C yn meddiannu neu’n bwriadu meddiannu’r annedd a bod rheswm da dros ei fethiant i ymateb (neu i ymateb yn ddigonol) i’r hysbysiad o dan adran 227(3);
c
nad oedd gan A, pan wnaeth gais i’r llys, seiliau rhesymol dros fod yn fodlon nad oedd C yn meddiannu’r annedd, nac yn bwriadu ei meddiannu.
4
Os yw’r llys yn canfod bod un neu ragor o’r seiliau wedi ei phrofi neu eu profi caiff—
a
dadwneud ei orchymyn drwy orchymyn o dan adran 227, a gwneud datganiad bod C yn parhau i fod yn barti i’r contract meddiannaeth, a
b
gwneud unrhyw orchymyn pellach y mae’n ei ystyried yn briodol.
I83229Pŵer i amrywio cyfnodau sy’n ymwneud â gwahardd cyd-ddeiliad contract
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—
a
diwygio adran 225(4) drwy roi cyfnod gwahanol yn lle’r cyfnod y cyfeirir ato ar y pryd;
b
diwygio adran 226(1) drwy roi cyfnod gwahanol yn lle’r cyfnod y cyfeirir ato ar y pryd;
c
diwygio adran 227(10) drwy roi cyfnod gwahanol yn lle’r cyfnod y cyfeirir ato ar y pryd;
d
diwygio adran 228(2) drwy roi cyfnod gwahanol yn lle’r cyfnod y cyfeirir ato ar y pryd.
I84230Ymddygiad gwaharddedig: gwahardd gan y landlord
1
Os yw’r landlord o dan gontract meddiannaeth yn credu bod cyd-ddeiliad contract (“C”) wedi torri adran 55 (ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall), caniateir terfynu hawliau a rhwymedigaethau C o dan y contract yn unol â’r adran hon.
2
Rhaid i’r landlord roi hysbysiad i C—
a
yn datgan bod y landlord yn credu bod C wedi torri adran 55,
b
yn rhoi manylion y toriad, ac
c
yn datgan y bydd y landlord yn gwneud cais i’r llys am orchymyn sy’n terfynu hawliau a rhwymedigaethau C o dan y contract.
3
Rhaid i’r landlord roi hysbysiad i’r cyd-ddeiliaid contract eraill—
a
yn datgan bod y landlord yn credu bod C wedi torri adran 55, a
b
yn datgan y bydd y landlord yn gwneud cais i’r llys am orchymyn sy’n terfynu hawliau a rhwymedigaethau C o dan y contract.
4
Caiff y landlord wneud cais i’r llys am orchymyn sy’n terfynu hawliau a rhwymedigaethau C o dan y contract ar unrhyw adeg cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi’r hysbysiad i C o dan is-adran (2).
5
Caiff y llys wneud gorchymyn o’r fath pe byddai wedi gwneud gorchymyn adennill meddiant yn erbyn C pe byddai’r amgylchiadau wedi bod y rheini a grybwyllir yn is-adran (6).
6
Yr amgylchiadau yw—
a
mai C oedd yr unig ddeiliad contract o dan y contract, a
b
bod y landlord wedi gwneud hawliad meddiant yn erbyn C ar y sail bod C wedi torri adran 55.
7
Os yw’r llys yn gwneud y gorchymyn, mae C yn peidio â bod yn barti i’r contract ar y dyddiad a bennir yn y gorchymyn.
Terfynu
I85231Terfynu contract meddiannaeth sydd â chyd-ddeiliaid contract
1
Os oes cyd-ddeiliaid contract o dan gontract meddiannaeth, ni ellir dod â’r contract i ben drwy weithred gan un neu ragor o gyd-ddeiliaid y contract yn gweithredu heb y cyd-ddeiliad contract arall neu’r cyd-ddeiliaid contract eraill.
2
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.
PENNOD 15FFORFFEDIAD A RHYBUDD I YMADAEL HEB FOD AR GAEL
I86232Fforffediad a rhybuddion i ymadael
1
Ni chaiff landlord o dan gontract meddiannaeth ddibynnu ar—
a
unrhyw ddarpariaeth yn y contract ar gyfer ailfynediad neu fforffediad, na
b
unrhyw ddeddfiad (oni bai am y Ddeddf hon neu ddeddfiad a wneir oddi tani) neu reol gyfreithiol yn ymwneud ag ailfynediad neu fforffediad.
2
Ni chaiff landlord o dan gontract meddiannaeth gyflwyno rhybudd i ymadael.
3
Yn unol â hynny nid oes unrhyw effaith i unrhyw ddarpariaeth mewn contract meddiannaeth ar gyfer ailfynediad neu fforffediad, neu’n ymwneud â rhybudd i ymadael gan y landlord neu’r amgylchiadau y caniateir cyflwyno rhybudd o’r fath.