xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 9LL+CTERFYNU ETC. CONTRACTAU MEDDIANNAETH

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C1Rhn. 9 wedi ei eithrio (1.12.2022) gan 2004 c. 34, a. 33(c) (fel y mewnosodwyd gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/1166), rhlau. 1(1), 28(2)(c))

PENNOD 3LL+CTERFYNU POB CONTRACT MEDDIANNAETH (HAWLIAD MEDDIANT GAN LANDLORD)

Seiliau rheoli ystadLL+C

160Seiliau rheoli ystadLL+C

(1)Caiff y landlord o dan gontract meddiannaeth wneud hawliad meddiant ar un neu ragor o’r seiliau rheoli ystad.

(2)Mae’r seiliau rheoli ystad wedi eu dynodi yn Rhan 1 o Atodlen 8 (mae paragraff 10 o’r Atodlen honno yn darparu bod Rhan 1 o’r Atodlen honno yn ddarpariaeth sylfaenol sy’n gymwys i bob contract meddiannaeth).

(3)Mae adran 210 yn darparu na chaiff y llys wneud gorchymyn adennill meddiant ar sail rheoli ystad oni bai—

(a)ei fod yn ystyried ei bod yn rhesymol gwneud hynny (ac mae rhesymoldeb i’w benderfynu yn unol ag Atodlen 10), a

(b)ei fod yn fodlon bod llety arall addas (mae’r hyn sy’n addas i’w benderfynu yn unol ag Atodlen 11) ar gael i ddeiliad y contract (neu y bydd ar gael i ddeiliad y contract pan fydd y gorchymyn yn cael effaith).

(4)Os yw’r llys yn gwneud gorchymyn adennill meddiant ar sail rheoli ystad (ac nid ar unrhyw sail arall), rhaid i’r landlord dalu i ddeiliad y contract swm cyfwerth â’r treuliau rhesymol y mae deiliad y contract yn debygol o fynd iddynt wrth symud o’r annedd.

(5)Nid yw is-adran (4) yn gymwys os yw’r llys yn gwneud gorchymyn adennill meddiant ar Sail A neu B (y seiliau ailddatblygu) o’r seiliau rheoli ystad (ac nid ar unrhyw sail arall).

(6)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 160 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2A. 160 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

161Cyfyngiadau ar adran 160LL+C

(1)Cyn gwneud hawliad meddiant ar sail rheoli ystad, rhaid i’r landlord roi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract sy’n pennu’r sail honno.

(2)Ni chaiff y landlord wneud yr hawliad—

(a)cyn diwedd y cyfnod o fis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi’r hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract, na

(b)ar ôl diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod hwnnw.

(3)Os yw cynllun ailddatblygu yn cael ei gymeradwyo o dan Ran 2 o Atodlen 8 yn ddarostyngedig i amodau, caiff y landlord roi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract sy’n pennu Sail B o’r seiliau rheoli ystad cyn bod yr amodau wedi eu bodloni.

(4)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract sy’n pennu Sail G o’r seiliau rheoli ystad (dim angen y llety ar olynydd)—

(a)cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth y landlord (neu yn achos cyd-landlordiaid, unrhyw un ohonynt) i wybod am farwolaeth y deiliad contract blaenorol, neu

(b)ar ôl diwedd y cyfnod o ddeuddeg mis sy’n dechrau â’r diwrnod hwnnw.

(5)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad adennill meddiant sy’n pennu sail rheoli ystad H (cyd-ddeiliad contract yn gadael) i ddeiliad y contract ar ôl diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth hawliau a rhwymedigaethau cyd-ddeiliad y contract i ben o dan y contract.

(6)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 161 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I4A. 161 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

162Seiliau rheoli ystad: cynlluniau ailddatblyguLL+C

Mae Rhan 2 o Atodlen 8 (cymeradwyo cynlluniau ailddatblygu) yn gwneud darpariaeth sy’n ategu Sail B o’r seiliau rheoli ystad.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 162 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I6A. 162 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2