xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Valid from 01/12/2022
(1)Caiff deiliad y contract o dan gontract safonol cyfnodol derfynu’r contract drwy roi hysbysiad i’r landlord y bydd yn ildio meddiant o’r annedd ar ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad.
(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 168 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
(1)Ni chaiff y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan adran 168 fod yn llai na phedair wythnos ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i’r landlord.
(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I2A. 169 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
(1)Os yw deiliad y contract yn methu ag ildio meddiant o’r annedd ar y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan adran 168, caiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno.
(2)Mae adran 215 yn darparu bod yn rhaid i’r llys, os yw’n fodlon bod y sail wedi ei phrofi, wneud gorchymyn adennill meddiant o’r annedd (yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract).
(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 170 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
(1)Cyn gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 170 rhaid i’r landlord roi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract sy’n pennu’r sail honno.
(2)Caiff y landlord wneud yr hawliad meddiant ar neu ar ôl y diwrnod y mae’r landlord yn rhoi’r hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract.
(3)Ond ni chaiff y landlord wneud yr hawliad meddiant ar ôl diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod hwnnw.
(4)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad adennill meddiant sy’n pennu’r sail yn adran 170 i ddeiliad y contract ar ôl diwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad o dan adran 168 fel y dyddiad y byddai deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd.
(5)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I4A. 171 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
(1)Os yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan adran 168, neu cyn hynny, daw’r contract i ben ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.
(2)Os yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar ôl y dyddiad hwnnw ond mewn cysylltiad â’r hysbysiad, daw’r contract i ben—
(a)ar y diwrnod y mae deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd, neu
(b)os gwneir gorchymyn adennill meddiant, ar y diwrnod a bennir yn unol ag adran 206.
(3)Mae’r hysbysiad yn peidio â chael effaith os, cyn i’r contract ddod i ben—
(a)yw deiliad y contract yn tynnu’r hysbysiad yn ôl drwy roi hysbysiad pellach i’r landlord, a
(b)nad yw’r landlord yn gwrthwynebu mewn ysgrifen i’r tynnu’n ôl cyn diwedd cyfnod rhesymol.
(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 172 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
Valid from 01/12/2022
(1)Caiff y landlord o dan gontract safonol cyfnodol derfynu’r contract drwy roi hysbysiad i ddeiliad y contract fod rhaid iddo ildio meddiant o’r annedd ar ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad.
(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol.
F1(3). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F1A. 173(3) wedi ei hepgor (7.6.2021) yn rhinwedd Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), aau. 12(4), 19(3)
Gwybodaeth Cychwyn
I6A. 173 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
Valid from 01/12/2022
(1)Ni chaiff y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan adran 173 fod yn llai na [F2chwe mis] ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract.
[F3(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol, ac eithrio contractau safonol cyfnodol—
(a)nad ydynt yn ymgorffori adran 173 fel un o delerau’r contract, neu
(b)sydd o fewn Atodlen 8A (pa un a ydynt yn ymgorffori adran 173 fel un o delerau’r contract ai peidio).]
Diwygiadau Testunol
F2Geiriau yn a. 174(1) wedi eu hamnewid (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), aau. 1(2)(a), 19(3)
F3A. 174(2) wedi ei amnewid (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), aau. 1(2)(b), 19(3)
Gwybodaeth Cychwyn
I7A. 174 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
(1)Os yw contract safonol cyfnodol o fewn Atodlen 8A, ni chaiff y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan adran 173 fod yn llai na dau fis ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract.
(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol sydd—
(a)yn ymgorffori adran 173 fel un o delerau’r contract, a
(b)o fewn Atodlen 8A.]
Diwygiadau Testunol
F4A. 174A wedi ei fewnosod (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), aau. 1(3), 19(3)
Valid from 01/12/2022
(1)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad o dan adran 173 cyn diwedd y cyfnod o [F6chwe mis] sy’n dechrau â diwrnod meddiannu’r contract.
(2)Os yw’r contract yn gontract meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall, ni chaiff y landlord roi hysbysiad o dan adran 173 cyn diwedd y cyfnod o [F7chwe mis] sy’n dechrau â dyddiad meddiannu’r contract gwreiddiol.
(3)At ddibenion is-adran (2)—
(a)mae contract meddiannaeth yn gontract meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall—
(i)os yw dyddiad meddiannu’r contract yn dod yn union ar ôl diwedd contract meddiannaeth blaenorol,
(ii)os oedd, yn union cyn dyddiad meddiannu’r contract, ddeiliad contract o dan y contract yn ddeiliad contract o dan y contract blaenorol a landlord o dan y contract yn landlord o dan y contract blaenorol, a
(iii)os yw’r contract yn ymwneud â’r un annedd (neu’r un annedd i raddau helaeth) â’r contract blaenorol, a
(b)ystyr “contract gwreiddiol” yw—
(i)pan fo dyddiad meddiannu’r contract meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall yn dod yn union ar ôl diwedd contract nad yw’n gontract meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall, y contract meddiannaeth sy’n rhagflaenu’r contract meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall;
(ii)pan fo cyfres o gontractau olynol yn gontractau meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall, y contract meddiannaeth a oedd yn rhagflaenu’r cyntaf o’r contractau meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall.
(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol, ac eithrio contractau safonol cyfnodol—
(a)nad ydynt yn ymgorffori adran 173 fel un o delerau’r contract, neu
(b)sydd o fewn Atodlen 9 (pa un a ydynt yn ymgorffori adran 173 fel un o delerau’r contract ai peidio),
F8...
Diwygiadau Testunol
F5A. 175 pennawd wedi ei amnewid (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), aau. 4(2), 19(3)
F6Geiriau yn a. 175(1) wedi eu hamnewid (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), aau. 4(1)(a), 19(3)
F7Geiriau yn a. 175(2) wedi eu hamnewid (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), aau. 4(1)(b), 19(3)
F8Geiriau yn a. 175(4) wedi eu hepgor (7.6.2021) yn rhinwedd Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 6 para. 15
Gwybodaeth Cychwyn
I8A. 175 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
Valid from 01/12/2022
Mae Atodlen 9A yn gosod cyfyngiadau ar roi hysbysiad o dan adran 173, sy’n ymwneud â thorri rhwymedigaethau statudol penodol.]
Valid from 01/12/2022
(1)Mae is-adrannau (2) a (3) yn gymwys pan fo—
(a)landlord wedi rhoi hysbysiad i ddeiliad contract o dan adran 173 (“yr hysbysiad cyntaf”), a
(b)y landlord wedi tynnu’r hysbysiad yn ôl wedi hynny (gweler adran 180(3)).
(2)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad arall o dan adran 173 i ddeiliad y contract cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y cafodd yr hysbysiad cyntaf ei dynnu’n ôl, ac eithrio yn unol ag is-adran (3).
(3)Caiff y landlord roi un hysbysiad arall o dan adran 173 i ddeiliad y contract yn ystod y cyfnod o 28 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad cyntaf.
(4)Mae is-adran (5) yn gymwys pan fo—
(a)landlord wedi rhoi hysbysiad i ddeiliad contract o dan adran 173, a
(b)y cyfnod ar gyfer gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 178 wedi dod i ben heb i’r landlord fod wedi gwneud hawliad.
(5)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad arall o dan adran 173 i ddeiliad y contract cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â diwrnod olaf y cyfnod y gallai’r landlord fod wedi gwneud yr hawliad cyn iddo ddod i ben (gweler adran 179(1)(b)).
(6)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol sy’n ymgorffori adran 173 fel un o delerau’r contract.]
(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo—
(a)landlord (ar ôl rhoi hysbysiad i ddeiliad contract o dan adran 173) wedi gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 178, a
(b)y llys wedi gwrthod gwneud gorchymyn adennill meddiant gan ei fod o’r farn bod yr hawliad yn hawliad dialgar (gweler adran 217).
(2)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad arall o dan adran 173 i ddeiliad y contract cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y gwrthododd y llys wneud gorchymyn adennill meddiant.
(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol sy’n ymgorffori adran 173 fel un o delerau’r contract.]
Diwygiadau Testunol
F11A. 177A wedi ei fewnosod (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), aau. 9(2), 19(3)
Valid from 01/12/2022
(1)Os yw’r landlord yn rhoi hysbysiad i ddeiliad y contract o dan adran 173, caiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno.
(2)Mae adran 215 yn darparu bod yn rhaid i’r llys, os yw wedi ei fodloni bod y sail wedi ei phrofi, wneud gorchymyn adennill meddiant o’r annedd, oni bai bod adran 217 (troi allan dialgar: contractau safonol) yn gymwys (ac yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract).
(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I11A. 178 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
Valid from 01/12/2022
(1)Ni chaiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 178—
(a)cyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad y rhoddodd y landlord i ddeiliad y contract o dan adran 173, na
(b)ar ôl diwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r dyddiad hwnnw.
(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I12A. 179 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
Valid from 01/12/2022
(1)Os yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan adran 173, neu cyn hynny, daw’r contract i ben ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.
(2)Os yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar ôl y dyddiad hwnnw ond mewn cysylltiad â’r hysbysiad, daw’r contract i ben—
(a)ar y diwrnod y mae deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd, neu
(b)os gwneir gorchymyn adennill meddiant, ar y dyddiad a bennir yn unol ag adran 206.
(3)Mae’r hysbysiad yn peidio â chael effaith os[F12—
(a)yw’r landlord, cyn i’r contract ddod i ben, ac yn ystod y cyfnod o 28 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad, yn tynnu’r hysbysiad yn ôl drwy roi hysbysiad pellach i ddeiliad y contract, neu
(b)cyn i’r contract ddod i ben, ac ar ôl y cyfnod o 28 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad—
(i)yw’r landlord yn tynnu’r hysbysiad yn ôl drwy roi hysbysiad pellach i ddeiliad y contract, a
(ii)nad yw deiliad y contract yn gwrthwynebu mewn ysgrifen i’r tynnu’n ôl cyn diwedd cyfnod rhesymol.]
(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol.
Valid from 01/12/2022
(1)Os oes gan ddeiliad y contract o dan gontract safonol cyfnodol ôl-ddyledion rhent difrifol, caiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno.
(2)Mae gan ddeiliad y contract ôl-ddyledion rhent difrifol—
(a)pan fo’r cyfnod rhentu yn wythnos, yn bythefnos neu’n bedair wythnos, os oes o leiaf wyth wythnos o rent heb ei dalu;
(b)pan fo’r cyfnod rhentu yn fis, os oes o leiaf ddau fis o rent heb ei dalu;
(c)pan fo’r cyfnod rhentu yn chwarter, os oes rhent o leiaf un chwarter dros dri mis yn hwyr;
(d)pan fo’r cyfnod rhentu yn flwyddyn, os oes o leiaf 25% o’r rhent dros dri mis yn hwyr.
(3)Mae adran 216 yn darparu bod rhaid i’r llys (yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract) wneud gorchymyn adennill meddiant o’r annedd os yw’n fodlon bod gan ddeiliad y contract—
(a)ôl-ddyledion rhent difrifol ar y diwrnod y rhoddodd y landlord yr hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract, a
(b)ôl-ddyledion rhent difrifol ar y diwrnod y mae’r llys yn gwrando’r achos ar yr hawliad meddiant.
(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I14A. 181 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
(1)Cyn gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 181, rhaid i’r landlord roi hysbysiad adennill meddiant sy’n pennu’r sail honno i ddeiliad y contract.
(2)Ni chaiff landlord o dan gontract safonol cyfnodol nad yw’n gontract safonol rhagarweiniol neu’n gontract safonol ymddygiad gwaharddedig wneud yr hawliad—
(a)cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi’r hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract, na
(b)ar ôl diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod hwnnw.
(3)Ni chaiff y landlord o dan gontract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig wneud yr hawliad—
(a)cyn diwedd y cyfnod o fis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi’r hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract, na
(b)ar ôl diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod hwnnw.
(4)Mae is-adran (1) yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol, ac
(a)mae is-adran (2) yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol nad yw’n gontract safonol rhagarweiniol neu’n gontract safonol ymddygiad gwaharddedig;
(b)mae is-adran (3) yn ddarpariaeth sylfaenol nad yw ond wedi ei hymgorffori fel un o delerau contractau safonol rhagarweiniol a chontractau safonol ymddygiad gwaharddedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I15A. 182 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
Valid from 01/12/2022
(1)Caiff y landlord o dan gontract safonol cyfnodol sy’n bodoli yn sgil adran 184(2) (contractau safonol cyfnodol sy’n bodoli yn sgil diwedd cyfnod penodol) wneud hawliad meddiant gan ddibynnu ar—
(a)hysbysiad adennill meddiant, F13...
(b)hysbysiad o dan adran 186,[F14neu
(c)hysbysiad o dan gymal terfynu’r landlord,]
y rhoddodd y landlord i ddeiliad y contract cyn diwedd y contract cyfnod penodol.
[F15(2)Mae adrannau 179 a 180—
(a)yn gymwys i hysbysiad o dan adran 186(1) fel y maent yn gymwys i hysbysiad o dan adran 173, a
(b)yn gymwys i hawliad meddiant a wneir ar y sail yn adran 186(5) gan ddibynnu ar hysbysiad o’r fath fel y maent yn gymwys i hawliad meddiant a wneir ar y sail yn adran 178 gan ddibynnu ar hysbysiad o dan adran 173.]
(3)Mewn unrhyw hysbysiad adennill meddiant y mae’r landlord yn ei roi i ddeiliad y contract, caiff y landlord ddibynnu ar ddigwyddiadau a ddigwyddodd cyn diwedd y contract safonol cyfnod penodol.
(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau contractau safonol cyfnodol sy’n bodoli yn sgil adran 184(2).
Diwygiadau Testunol
F13Gair yn a. 183(1) wedi ei hepgor (7.6.2021) yn rhinwedd Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 6 para. 17(a)(i)
F14A. 183(1)(c) ac gair wedi ei fewnosod (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 6 para. 17(a)(ii)
F15A. 183(2) wedi ei amnewid (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 6 para. 17(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I16A. 183 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)