C1RHAN 9TERFYNU ETC. CONTRACTAU MEDDIANNAETH
C1PENNOD 6CONTRACTAU SAFONOL CYFNOD PENODOL: DIWEDD Y CYFNOD PENODOL
I4I1C1184C1Diwedd y cyfnod penodol
1
Mae contract safonol cyfnod penodol yn dod i ben ar ddiwedd y cyfnod y’i gwneir ar ei gyfer.
2
Os yw deiliad y contract yn dal i feddiannu’r annedd ar ôl diwedd y cyfnod, mae’r landlord a deiliad y contract i’w trin fel pe baent wedi gwneud contract safonol cyfnodol newydd mewn perthynas â’r annedd.
3
Mae gan y contract newydd—
a
dyddiad meddiannu sy’n dod yn union ar ôl diwedd y cyfnod penodol, a
b
cyfnodau rhentu sydd yr un fath â’r rheini yr oedd rhent yn daladwy ar eu cyfer ddiwethaf o dan y contract cyfnod penodol.
4
Mae’r darpariaethau sylfaenol ac atodol sy’n gymwys i gontractau safonol cyfnodol wedi eu hymgorffori fel telerau’r contract newydd heb eu haddasu.
5
Yn ddarostyngedig i is-adrannau (3) a (4), mae i’r contract newydd yr un telerau â’r contract cyfnod penodol yn union cyn iddo ddod i ben.
6
Nid yw contract meddiannaeth newydd yn dod i fodolaeth fel y disgrifir yn is-adran (2) os yw’r landlord a deiliad y contract wedi gwneud contract meddiannaeth newydd mewn perthynas â’r un annedd (neu’r un annedd i raddau helaeth) sydd â dyddiad meddiannu yn union ar ôl i’r contract cyfnod penodol ddod i ben.
7
Os, cyn neu ar ddyddiad meddiannu contract meddiannaeth newydd sy’n dod i fodolaeth fel y disgrifir yn is-adran (2) neu (6)—
a
yw deiliad y contract yn ymrwymo i rwymedigaeth i gyflawni gweithred a fydd yn peri i’r contract newydd ddod i ben, neu
b
yw deiliad y contract yn rhoi unrhyw hysbysiad neu ddogfen arall a fyddai, oni bai am yr is-adran hon, yn peri i’r contract newydd ddod i ben,
ni ellir gorfodi’r rhwymedigaeth neu (yn ôl y digwydd) nid oes unrhyw effaith i’r hysbysiad neu’r ddogfen.
8
Nid yw’r gofyniad yn adran 39(1) (rhaid i landlord roi cyfeiriad cyswllt i ddeiliad contract ar ddechrau contract) yn gymwys mewn perthynas â chontract safonol cyfnodol sy’n codi o dan is-adran (2).
I2I3C1185C1Caniatáu i ddatganiad ysgrifenedig ymdrin â chontract safonol cyfnodol sy’n codi o dan adran 184(2)
1
Caiff datganiad ysgrifenedig o gontract safonol cyfnod penodol, o ran y contract safonol cyfnodol a allai godi o dan adran 184(2) (“y contract posibl”), nodi beth fyddai telerau’r contract hwnnw o dan adran 184(3) i (5) drwy—
a
pennu telerau’r contract safonol cyfnod penodol na fyddant yn delerau’r contract posibl, a nodi’r telerau a fydd yn gymwys i’r contract posibl yn unig, neu
b
nodi holl delerau’r contract posibl ar wahân.
2
Pan fo datganiad ysgrifenedig o gontract safonol cyfnod penodol yn ymdrin â’r contract posibl yn unol ag is-adran (1)—
a
nid yw’r datganiad ysgrifenedig yn anghywir (gweler adran 37) ond am ei fod yn ymdrin â’r contract posibl;
b
mae’r landlord i’w drin fel pe bai wedi cydymffurfio â’r gofyniad yn adran 31(1) (darparu datganiad ysgrifenedig) mewn perthynas â’r contract posibl, ac
c
ni chaniateir gorfodi telerau’r contract posibl yn erbyn deiliad y contract cyn dyddiad meddiannu’r contract hwnnw (ac, o ganlyniad, nid yw adran 42 yn gymwys).
Rhn. 9 wedi ei eithrio (1.12.2022) gan 2004 c. 34, a. 33(c) (fel y mewnosodwyd gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/1166), rhlau. 1(1), 28(2)(c))