xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Valid from 05/08/2016
Valid from 07/06/2021
Valid from 01/12/2022
(1)Caiff y landlord o dan gontract safonol cyfnod penodol [F2sydd o fewn Atodlen 9B], cyn neu ar ddiwrnod olaf y cyfnod y gwnaed y contract ar ei gyfer, roi hysbysiad i ddeiliad y contract fod rhaid iddo ildio meddiant o’r annedd ar ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad.
F3(2). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(3)[F4O] ran y dyddiad a bennir—
(a)ni chaiff fod cyn diwrnod olaf y cyfnod y gwnaed y contract ar ei gyfer, a
(b)ni chaiff fod yn llai na dau fis ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract.
F5(4). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(5)Os yw’r landlord yn rhoi hysbysiad i ddeiliad y contract o dan is-adran (1), caiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno.
(6)Mae adran 215 yn darparu bod yn rhaid i’r llys, os yw wedi ei fodloni bod y sail wedi ei phrofi, wneud gorchymyn adennill meddiant o’r annedd (yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract).
(7)Ni chaiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno cyn diwedd y contract safonol cyfnod penodol.
(8)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol [F6sydd o fewn Atodlen 9B.]
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 186 heading wedi eu mewnosod (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), aau. 10(2), 19(3)
F2Geiriau yn a. 186(1) wedi eu mewnosod (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), aau. 10(1)(a), 19(3)
F3A. 186(2) wedi ei hepgor (7.6.2021) yn rhinwedd Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), aau. 10(1)(b), 19(3)
F4Gair yn a. 186(3) wedi ei amnewid (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), aau. 10(1)(c), 19(3)
F5A. 186(4) wedi ei hepgor (7.6.2021) yn rhinwedd Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), aau. 10(1)(d), 19(3)
F6Geiriau yn a. 186(8) wedi eu hamnewid (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), aau. 10(1)(e), 19(3)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 186 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
Valid from 01/12/2022
(1)Os oes gan ddeiliad y contract o dan gontract safonol cyfnod penodol ôl-ddyledion rhent difrifol, caiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno.
(2)Mae gan ddeiliad y contract ôl-ddyledion rhent difrifol—
(a)pan fo’r cyfnod rhentu yn wythnos, yn bythefnos neu’n bedair wythnos, os oes o leiaf wyth wythnos o rent heb ei dalu;
(b)pan fo’r cyfnod rhentu yn fis, os oes o leiaf ddau fis o rent heb ei dalu;
(c)pan fo’r cyfnod rhentu yn chwarter, os oes rhent o leiaf un chwarter dros dri mis yn hwyr;
(d)pan fo’r cyfnod rhentu yn flwyddyn, os oes o leiaf 25% o’r rhent dros dri mis yn hwyr.
(3)Mae adran 216 yn darparu bod rhaid i’r llys (yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract) wneud gorchymyn adennill meddiant o’r annedd os yw’n fodlon bod gan ddeiliad y contract—
(a)ôl-ddyledion rhent difrifol ar y diwrnod y rhoddodd y landlord yr hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract, a
(b)ôl-ddyledion rhent difrifol ar y diwrnod y mae’r llys yn gwrando’r achos ar yr hawliad meddiant.
(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I2A. 187 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
(1)Cyn gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 187, rhaid i’r landlord roi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract sy’n pennu’r sail honno.
(2)Ni chaiff y landlord wneud yr hawliad—
(a)cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi’r hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract, na
(b)ar ôl diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod hwnnw.
(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 188 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
Valid from 01/12/2022
(1)Caiff contract safonol cyfnod penodol gynnwys teler sy’n galluogi deiliad y contract i derfynu’r contract cyn diwedd y cyfnod penodol drwy roi hysbysiad i’r landlord y bydd yn ildio meddiant o’r annedd ar ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad.
(2)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at gymal terfynu deiliad y contract, mewn perthynas â chontract safonol cyfnod penodol, yn gyfeiriadau at y teler a grybwyllir yn is-adran (1).
Gwybodaeth Cychwyn
I4A. 189 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
(1)Ni chaiff y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan gymal terfynu deiliad y contract fod yn llai na phedair wythnos ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i’r landlord.
(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sydd â chymal terfynu deiliad y contract.
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 190 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
(1)Os yw deiliad contract yn methu ag ildio meddiant o’r annedd ar y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan gymal terfynu deiliad y contract, caiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno.
(2)Mae adran 215 yn darparu bod yn rhaid i’r llys, os yw’n fodlon bod y sail wedi ei phrofi, wneud gorchymyn adennill meddiant o’r annedd (yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract).
(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sydd â chymal terfynu deiliad y contract.
Gwybodaeth Cychwyn
I6A. 191 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
(1)Cyn gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 191 rhaid i’r landlord roi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract sy’n pennu’r sail honno.
(2)Caiff y landlord wneud yr hawliad meddiant ar neu ar ôl y diwrnod y mae’r landlord yn rhoi’r hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract.
(3)Ond ni chaiff y landlord wneud yr hawliad meddiant ar ôl diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod hwnnw.
(4)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad adennill meddiant sy’n pennu’r sail yn adran 191 i ddeiliad y contract ar ôl diwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad o dan gymal terfynu deiliad y contract fel y dyddiad y byddai deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd.
(5)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sydd â chymal terfynu deiliad y contract.
Gwybodaeth Cychwyn
I7A. 192 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
(1)Os yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan gymal terfynu deiliad y contract, neu cyn hynny, daw’r contract i ben ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.
(2)Os yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar ôl y dyddiad hwnnw ond mewn cysylltiad â’r hysbysiad, daw’r contract i ben—
(a)ar y diwrnod y mae deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd, neu
(b)os gwneir gorchymyn adennill meddiant, ar y dyddiad a bennir yn unol ag adran 206.
(3)Mae’r hysbysiad yn peidio â chael effaith os, cyn i’r contract ddod i ben—
(a)yw deiliad y contract yn tynnu’r hysbysiad yn ôl drwy roi hysbysiad pellach i’r landlord, a
(b)nad yw’r landlord yn gwrthwynebu mewn ysgrifen i’r tynnu’n ôl cyn diwedd cyfnod rhesymol.
(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sydd â chymal terfynu deiliad y contract.
Gwybodaeth Cychwyn
I8A. 193 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
Valid from 01/12/2022
(1)Caiff contract safonol cyfnod penodol [F7sydd o fewn is-adran (1A)] gynnwys teler sy’n galluogi’r landlord i derfynu’r contract cyn diwedd y cyfnod penodol drwy roi hysbysiad i ddeiliad y contract y bydd yn rhaid iddo ildio meddiant o’r annedd ar ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad.
[F8(1A)Mae contract safonol cyfnod penodol o fewn yr is-adran hon—
(a)os yw wedi ei wneud am gyfnod o ddwy flynedd neu ragor, neu
(b)os yw o fewn Atodlen 9C (pa un a yw wedi ei wneud am gyfnod o ddwy flynedd neu ragor ai peidio).]
(2)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at gymal terfynu’r landlord, mewn perthynas â chontract safonol cyfnod penodol, yn gyfeiriadau at y teler a grybwyllir yn is-adran (1).
Diwygiadau Testunol
F7Geiriau yn a. 194(1) wedi eu mewnosod (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), aau. 11(1)(a), 19(3)
F8A. 194(1A) wedi ei fewnosod (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), aau. 11(1)(b), 19(3)
Gwybodaeth Cychwyn
I9A. 194 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
Valid from 01/12/2022
(1)Ni chaiff y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan gymal terfynu’r landlord fod yn llai na [F9chwe mis] ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract.
[F10(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol, ac eithrio contractau safonol cyfnod penodol—
(a)nad ydynt yn cynnwys cymal terfynu’r landlord, neu
(b)sydd o fewn Atodlen 8A (pa un a ydynt yn cynnwys cymal terfynu’r landlord ai peidio).]
Diwygiadau Testunol
F9Geiriau yn a. 195(1) wedi eu hamnewid (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), aau. 2(2)(a), 19(3)
F10A. 195(2) wedi ei amnewid (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), aau. 2(2)(b), 19(3)
Gwybodaeth Cychwyn
I10A. 195 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
Valid from 01/12/2022
(1)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad o dan gymal terfynu’r landlord cyn diwedd y cyfnod o [F1218 mis] sy’n dechrau â diwrnod meddiannu’r contract.
F13(2). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F14(3). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol, ac eithrio contractau safonol cyfnod penodol—
(a)nad ydynt yn cynnwys cymal terfynu’r landlord, neu
(b)sydd o fewn Atodlen 9 (pa un a ydynt yn cynnwys cymal terfynu’r landlord ai peidio),
F15...
Diwygiadau Testunol
F11A. 196 heading wedi ei amnewid (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), aau. 5(2), 19(3)
F12Geiriau yn a. 196(1) wedi eu hamnewid (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), aau. 5(1)(a), 19(3)
F13A. 196(2) wedi ei hepgor (7.6.2021) yn rhinwedd Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), aau. 5(1)(b), 19(3)
F14A. 196(3) wedi ei hepgor (7.6.2021) yn rhinwedd Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), aau. 5(1)(b), 19(3)
F15Geiriau yn a. 196(4) wedi eu hepgor (7.6.2021) yn rhinwedd Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 6 para. 18
Gwybodaeth Cychwyn
I11A. 196 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
Valid from 01/12/2022
Mae Atodlen 9A yn gosod cyfyngiadau ar roi hysbysiad o dan gymal terfynu’r landlord, sy’n ymwneud â thorri rhwymedigaethau statudol penodol.]
Valid from 01/12/2022
(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo—
(a)landlord (ar ôl rhoi hysbysiad i ddeiliad contract o dan gymal terfynu’r landlord) wedi gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 199, a
(b)y llys wedi gwrthod gwneud gorchymyn adennill meddiant gan ei fod o’r farn bod yr hawliad yn hawliad dialgar (gweler adran 217).
(2)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad arall o dan gymal terfynu’r landlord i ddeiliad y contract cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y gwrthododd y llys wneud gorchymyn adennill meddiant.
(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sydd â chymal terfynu’r landlord.]
Valid from 01/12/2022
(1)Os yw’r landlord yn rhoi hysbysiad i ddeiliad y contract o dan gymal terfynu’r landlord, caiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno.
(2)Mae adran 215 yn darparu bod yn rhaid i’r llys, os yw wedi ei fodloni bod y sail wedi ei phrofi, wneud gorchymyn adennill meddiant o’r annedd, oni bai bod adran 217 (troi allan dialgar) yn gymwys (ac yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract).
(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sydd â chymal terfynu’r landlord.
Gwybodaeth Cychwyn
I14A. 199 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
Valid from 01/12/2022
(1)Ni chaiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 199—
(a)cyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad y rhoddodd y landlord i ddeiliad y contract o dan gymal terfynu’r landlord, na
(b)ar ôl diwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r dyddiad hwnnw.
(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sydd â chymal terfynu’r landlord.
Gwybodaeth Cychwyn
I15A. 200 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
Valid from 01/12/2022
(1)Os yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan gymal terfynu’r landlord, neu cyn hynny, daw’r contract i ben ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.
(2)Os yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar ôl y dyddiad hwnnw ond mewn cysylltiad â’r hysbysiad, daw’r contract i ben—
(a)ar y diwrnod y mae deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd, neu
(b)os gwneir gorchymyn adennill meddiant, ar y dyddiad a bennir yn unol ag adran 206.
(3)Mae’r hysbysiad yn peidio â chael effaith os [F18—
(a)yw’r landlord, cyn i’r contract ddod i ben, ac yn ystod y cyfnod o 28 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad, yn tynnu’r hysbysiad yn ôl drwy roi hysbysiad pellach i ddeiliad y contract, neu
(b)cyn i’r contract ddod i ben, ac ar ôl y cyfnod o 28 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad—
(i)yw’r landlord yn tynnu’r hysbysiad yn ôl drwy roi hysbysiad pellach i ddeiliad y contract, a
(ii)nad yw deiliad y contract yn gwrthwynebu mewn ysgrifen i’r tynnu’n ôl cyn diwedd cyfnod rhesymol.]
(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sydd â chymal terfynu’r landlord.