xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 9LL+CTERFYNU ETC. CONTRACTAU MEDDIANNAETH

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C1Rhn. 9 wedi ei eithrio (1.12.2022) gan 2004 c. 34, a. 33(c) (fel y mewnosodwyd gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/1166), rhlau. 1(1), 28(2)(c))

PENNOD 7LL+CTERFYNU CONTRACTAU SAFONOL CYFNOD PENODOL

Diwedd cyfnod penodol: hysbysiad y landlordLL+C

186Hysbysiad y landlord mewn cysylltiad â diwedd cyfnod penodol [F1contract sydd o fewn Atodlen 9B] LL+C

(1)Caiff y landlord o dan gontract safonol cyfnod penodol [F2sydd o fewn Atodlen 9B], cyn neu ar ddiwrnod olaf y cyfnod y gwnaed y contract ar ei gyfer, roi hysbysiad i ddeiliad y contract fod rhaid iddo ildio meddiant o’r annedd ar ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad.

F3(2). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(3)[F4O] ran y dyddiad a bennir—

(a)ni chaiff fod cyn diwrnod olaf y cyfnod y gwnaed y contract ar ei gyfer, a

(b)ni chaiff fod yn llai na dau fis ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract.

F5(4). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(5)Os yw’r landlord yn rhoi hysbysiad i ddeiliad y contract o dan is-adran (1), caiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno.

(6)Mae adran 215 yn darparu bod yn rhaid i’r llys, os yw wedi ei fodloni bod y sail wedi ei phrofi, wneud gorchymyn adennill meddiant o’r annedd (yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract).

(7)Ni chaiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno cyn diwedd y contract safonol cyfnod penodol.

(8)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol [F6sydd o fewn Atodlen 9B.]

Diwygiadau Testunol

F1Geiriau yn pennawd a. 186 wedi eu mewnosod (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), aau. 10(2), 19(3)

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C2A. 186 wedi ei eithrio (1.12.2022) gan 2004 c. 34, a. 98A (fel y mewnosodwyd gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/1166), rhlau. 1(1), 28(6))

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 186 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2A. 186 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

[F7186ACyfyngiadau ar roi hysbysiad o dan adran 186: torri rhwymedigaethau statudolLL+C

Mae Atodlen 9A yn gosod cyfyngiadau ar roi hysbysiad o dan adran 186, sy’n ymwneud â thorri rhwymedigaethau statudol penodol.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 186A mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Terfynu gan y landlord: ôl-ddyledion rhent difrifolLL+C

187Ôl-ddyledion rhent difrifolLL+C

(1)Os oes gan ddeiliad y contract o dan gontract safonol cyfnod penodol ôl-ddyledion rhent difrifol, caiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno.

(2)Mae gan ddeiliad y contract ôl-ddyledion rhent difrifol—

(a)pan fo’r cyfnod rhentu yn wythnos, yn bythefnos neu’n bedair wythnos, os oes o leiaf wyth wythnos o rent heb ei dalu;

(b)pan fo’r cyfnod rhentu yn fis, os oes o leiaf ddau fis o rent heb ei dalu;

(c)pan fo’r cyfnod rhentu yn chwarter, os oes rhent o leiaf un chwarter dros dri mis yn hwyr;

(d)pan fo’r cyfnod rhentu yn flwyddyn, os oes o leiaf 25% o’r rhent dros dri mis yn hwyr.

(3)Mae adran 216 yn darparu bod rhaid i’r llys (yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract) wneud gorchymyn adennill meddiant o’r annedd os yw’n fodlon bod gan ddeiliad y contract—

(a)ôl-ddyledion rhent difrifol ar y diwrnod y rhoddodd y landlord yr hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract, a

(b)ôl-ddyledion rhent difrifol ar y diwrnod y mae’r llys yn gwrando’r achos ar yr hawliad meddiant.

(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 187 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I5A. 187 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

188Cyfyngiadau ar adran 187LL+C

(1)Cyn gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 187, rhaid i’r landlord roi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract sy’n pennu’r sail honno.

(2)Ni chaiff y landlord wneud yr hawliad—

(a)cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi’r hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract, na

(b)ar ôl diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod hwnnw.

(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 188 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I7A. 188 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Cymal terfynu deiliad y contractLL+C

189Cymal terfynu deiliad contractLL+C

(1)Caiff contract safonol cyfnod penodol gynnwys teler sy’n galluogi deiliad y contract i derfynu’r contract cyn diwedd y cyfnod penodol drwy roi hysbysiad i’r landlord y bydd yn ildio meddiant o’r annedd ar ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad.

(2)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at gymal terfynu deiliad y contract, mewn perthynas â chontract safonol cyfnod penodol, yn gyfeiriadau at y teler a grybwyllir yn is-adran (1).

Gwybodaeth Cychwyn

I8A. 189 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I9A. 189 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

190Y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateirLL+C

(1)Ni chaiff y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan gymal terfynu deiliad y contract fod yn llai na phedair wythnos ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i’r landlord.

(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sydd â chymal terfynu deiliad y contract.

Gwybodaeth Cychwyn

I10A. 190 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I11A. 190 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

191Adennill meddiantLL+C

(1)Os yw deiliad contract yn methu ag ildio meddiant o’r annedd ar y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan gymal terfynu deiliad y contract, caiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno.

(2)Mae adran 215 yn darparu bod yn rhaid i’r llys, os yw’n fodlon bod y sail wedi ei phrofi, wneud gorchymyn adennill meddiant o’r annedd (yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract).

(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sydd â chymal terfynu deiliad y contract.

Gwybodaeth Cychwyn

I12A. 191 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I13A. 191 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

192Cyfyngiadau ar adran 191LL+C

(1)Cyn gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 191 rhaid i’r landlord roi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract sy’n pennu’r sail honno.

(2)Caiff y landlord wneud yr hawliad meddiant ar neu ar ôl y diwrnod y mae’r landlord yn rhoi’r hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract.

(3)Ond ni chaiff y landlord wneud yr hawliad meddiant ar ôl diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod hwnnw.

(4)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad adennill meddiant sy’n pennu’r sail yn adran 191 i ddeiliad y contract ar ôl diwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad o dan gymal terfynu deiliad y contract fel y dyddiad y byddai deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd.

(5)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sydd â chymal terfynu deiliad y contract.

Gwybodaeth Cychwyn

I14A. 192 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I15A. 192 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

193Terfynu contract o dan gymal terfynu deiliad y contractLL+C

(1)Os yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan gymal terfynu deiliad y contract, neu cyn hynny, daw’r contract i ben ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.

(2)Os yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar ôl y dyddiad hwnnw ond mewn cysylltiad â’r hysbysiad, daw’r contract i ben—

(a)ar y diwrnod y mae deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd, neu

(b)os gwneir gorchymyn adennill meddiant, ar y dyddiad a bennir yn unol ag adran 206.

(3)Mae’r hysbysiad yn peidio â chael effaith os, cyn i’r contract ddod i ben—

(a)yw deiliad y contract yn tynnu’r hysbysiad yn ôl drwy roi hysbysiad pellach i’r landlord, a

(b)nad yw’r landlord yn gwrthwynebu mewn ysgrifen i’r tynnu’n ôl cyn diwedd cyfnod rhesymol.

(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sydd â chymal terfynu deiliad y contract.

Gwybodaeth Cychwyn

I16A. 193 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I17A. 193 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Cymal terfynu’r landlordLL+C

194Cymal terfynu’r landlordLL+C

(1)Caiff contract safonol cyfnod penodol [F8sydd o fewn is-adran (1A)] gynnwys teler sy’n galluogi’r landlord i derfynu’r contract cyn diwedd y cyfnod penodol drwy roi hysbysiad i ddeiliad y contract y bydd yn rhaid iddo ildio meddiant o’r annedd ar ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad.

[F9(1A)Mae contract safonol cyfnod penodol o fewn yr is-adran hon—

(a)os yw wedi ei wneud am gyfnod o ddwy flynedd neu ragor, neu

(b)os yw o fewn Atodlen 9C (pa un a yw wedi ei wneud am gyfnod o ddwy flynedd neu ragor ai peidio).]

(2)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at gymal terfynu’r landlord, mewn perthynas â chontract safonol cyfnod penodol, yn gyfeiriadau at y teler a grybwyllir yn is-adran (1).

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C3A. 194 wedi ei eithrio (1.12.2022) gan 2004 c. 34, a. 98A (fel y mewnosodwyd gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/1166), rhlau. 1(1), 28(6))

Gwybodaeth Cychwyn

I18A. 194 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I19A. 194 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

195Y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateirLL+C

(1)Ni chaiff y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan gymal terfynu’r landlord fod yn llai na [F10chwe mis] ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract.

[F11(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol, ac eithrio contractau safonol cyfnod penodol—

(a)nad ydynt yn cynnwys cymal terfynu’r landlord, neu

(b)sydd o fewn Atodlen 8A (pa un a ydynt yn cynnwys cymal terfynu’r landlord ai peidio).]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I20A. 195 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I21A. 195 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

[F12195AY cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir: contractau safonol cyfnod penodol sydd o fewn Atodlen 8ALL+C

(1)Os yw contract safonol cyfnod penodol o fewn Atodlen 8A, ni chaiff y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan gymal terfynu’r landlord fod yn llai na dau fis ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract.

(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sydd—

(a)yn cynnwys cymal terfynu’r landlord, a

(b)o fewn Atodlen 8A.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I22A. 195A mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

196[F13Cyfyngiad ar ddefnyddio cymal terfynu’r landlord tan ar ôl 18 mis cyntaf meddiannaeth]LL+C

(1)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad o dan gymal terfynu’r landlord cyn diwedd y cyfnod o [F1418 mis] sy’n dechrau â diwrnod meddiannu’r contract.

F15(2). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F16(3). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol, ac eithrio contractau safonol cyfnod penodol—

(a)nad ydynt yn cynnwys cymal terfynu’r landlord, neu

(b)sydd o fewn Atodlen 9 (pa un a ydynt yn cynnwys cymal terfynu’r landlord ai peidio),

F17...

Diwygiadau Testunol

F13Pennawd A. 196 wedi ei amnewid (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), aau. 5(2), 19(3)

Gwybodaeth Cychwyn

I23A. 196 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I24A. 196 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

[F18197Cyfyngiadau ar y defnydd o gymal terfynu’r landlord: torri rhwymedigaethau statudolLL+C

Mae Atodlen 9A yn gosod cyfyngiadau ar roi hysbysiad o dan gymal terfynu’r landlord, sy’n ymwneud â thorri rhwymedigaethau statudol penodol.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I25A. 197 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I26A. 197 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

[F19198Cyfyngiad ar y defnydd o gymal terfynu’r landlord yn dilyn hawliad meddiant dialgarLL+C

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo—

(a)landlord (ar ôl rhoi hysbysiad i ddeiliad contract o dan gymal terfynu’r landlord) wedi gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 199, a

(b)y llys wedi gwrthod gwneud gorchymyn adennill meddiant gan ei fod o’r farn bod yr hawliad yn hawliad dialgar (gweler adran 217).

(2)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad arall o dan gymal terfynu’r landlord i ddeiliad y contract cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y gwrthododd y llys wneud gorchymyn adennill meddiant.

(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sydd â chymal terfynu’r landlord.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I27A. 198 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I28A. 198 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

199Adennill meddiantLL+C

(1)Os yw’r landlord yn rhoi hysbysiad i ddeiliad y contract o dan gymal terfynu’r landlord, caiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno.

(2)Mae adran 215 yn darparu bod yn rhaid i’r llys, os yw wedi ei fodloni bod y sail wedi ei phrofi, wneud gorchymyn adennill meddiant o’r annedd, oni bai bod adran 217 (troi allan dialgar) yn gymwys (ac yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract).

(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sydd â chymal terfynu’r landlord.

Gwybodaeth Cychwyn

I29A. 199 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I30A. 199 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

200Cyfyngiad ar adran 199LL+C

(1)Ni chaiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 199—

(a)cyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad y rhoddodd y landlord i ddeiliad y contract o dan gymal terfynu’r landlord, na

(b)ar ôl diwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r dyddiad hwnnw.

(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sydd â chymal terfynu’r landlord.

Gwybodaeth Cychwyn

I31A. 200 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I32A. 200 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

201Terfynu contract o dan gymal terfynu’r landlordLL+C

(1)Os yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan gymal terfynu’r landlord, neu cyn hynny, daw’r contract i ben ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.

(2)Os yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar ôl y dyddiad hwnnw ond mewn cysylltiad â’r hysbysiad, daw’r contract i ben—

(a)ar y diwrnod y mae deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd, neu

(b)os gwneir gorchymyn adennill meddiant, ar y dyddiad a bennir yn unol ag adran 206.

(3)Mae’r hysbysiad yn peidio â chael effaith os [F20

(a)yw’r landlord, cyn i’r contract ddod i ben, ac yn ystod y cyfnod o 28 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad, yn tynnu’r hysbysiad yn ôl drwy roi hysbysiad pellach i ddeiliad y contract, neu

(b)cyn i’r contract ddod i ben, ac ar ôl y cyfnod o 28 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad—

(i)yw’r landlord yn tynnu’r hysbysiad yn ôl drwy roi hysbysiad pellach i ddeiliad y contract, a

(ii)nad yw deiliad y contract yn gwrthwynebu mewn ysgrifen i’r tynnu’n ôl cyn diwedd cyfnod rhesymol.]

(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sydd â chymal terfynu’r landlord.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I33A. 201 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I34A. 201 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2