RHAN 9TERFYNU ETC. CONTRACTAU MEDDIANNAETH

PENNOD 7TERFYNU CONTRACTAU SAFONOL CYFNOD PENODOL

Cymal terfynu deiliad y contract

189Cymal terfynu deiliad contract

(1)

Caiff contract safonol cyfnod penodol gynnwys teler sy’n galluogi deiliad y contract i derfynu’r contract cyn diwedd y cyfnod penodol drwy roi hysbysiad i’r landlord y bydd yn ildio meddiant o’r annedd ar ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad.

(2)

Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at gymal terfynu deiliad y contract, mewn perthynas â chontract safonol cyfnod penodol, yn gyfeiriadau at y teler a grybwyllir yn is-adran (1).

190Y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir

(1)

Ni chaiff y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan gymal terfynu deiliad y contract fod yn llai na phedair wythnos ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i’r landlord.

(2)

Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sydd â chymal terfynu deiliad y contract.

191Adennill meddiant

(1)

Os yw deiliad contract yn methu ag ildio meddiant o’r annedd ar y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan gymal terfynu deiliad y contract, caiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno.

(2)

Mae adran 215 yn darparu bod yn rhaid i’r llys, os yw’n fodlon bod y sail wedi ei phrofi, wneud gorchymyn adennill meddiant o’r annedd (yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract).

(3)

Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sydd â chymal terfynu deiliad y contract.

192Cyfyngiadau ar adran 191

(1)

Cyn gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 191 rhaid i’r landlord roi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract sy’n pennu’r sail honno.

(2)

Caiff y landlord wneud yr hawliad meddiant ar neu ar ôl y diwrnod y mae’r landlord yn rhoi’r hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract.

(3)

Ond ni chaiff y landlord wneud yr hawliad meddiant ar ôl diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod hwnnw.

(4)

Ni chaiff y landlord roi hysbysiad adennill meddiant sy’n pennu’r sail yn adran 191 i ddeiliad y contract ar ôl diwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad o dan gymal terfynu deiliad y contract fel y dyddiad y byddai deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd.

(5)

Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sydd â chymal terfynu deiliad y contract.

193Terfynu contract o dan gymal terfynu deiliad y contract

(1)

Os yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan gymal terfynu deiliad y contract, neu cyn hynny, daw’r contract i ben ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.

(2)

Os yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar ôl y dyddiad hwnnw ond mewn cysylltiad â’r hysbysiad, daw’r contract i ben—

(a)

ar y diwrnod y mae deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd, neu

(b)

os gwneir gorchymyn adennill meddiant, ar y dyddiad a bennir yn unol ag adran 206.

(3)

Mae’r hysbysiad yn peidio â chael effaith os, cyn i’r contract ddod i ben—

(a)

yw deiliad y contract yn tynnu’r hysbysiad yn ôl drwy roi hysbysiad pellach i’r landlord, a

(b)

nad yw’r landlord yn gwrthwynebu mewn ysgrifen i’r tynnu’n ôl cyn diwedd cyfnod rhesymol.

(4)

Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sydd â chymal terfynu deiliad y contract.