ATODLEN 10GORCHMYNION ADENNILL MEDDIANT AR SEILIAU DISGRESIWN ETC.: RHESYMOLDEB
I1I210Amgylchiadau mewn perthynas â hawliad meddiant ar sail tor contract
Os gwneir hawliad meddiant ar y sail yn adran 157 (tor contract)—
a
natur, amlder neu hyd y tor contract neu’r toriadau contract,
b
y graddau y mae deiliad y contract (neu feddiannydd y caniateir iddo feddiannu’r annedd) yn gyfrifol am y toriad,
c
pa mor debygol yw hi y bydd y toriad yn ailddigwydd, a
d
unrhyw gamau i ddod â’r toriad i ben, neu i’w atal rhag ailddigwydd, a gymerwyd gan y landlord cyn gwneud hawliad meddiant.