xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(a gyflwynir gan adrannau 209, 210 a 211)
1Mae’r Atodlen hon yn gymwys at ddiben penderfynu a yw’n rhesymol—
(a)gwneud gorchymyn adennill meddiant o dan adran 209 (tor contract) neu 210 (seiliau rheoli ystad), neu
(b)gwneud penderfyniad o dan adran 211 i ohirio achos ar hawliad meddiant neu ohirio ildio meddiant.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 10 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I2Atod. 10 para. 1 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2
2Rhaid i’r llys, wrth benderfynu a yw’n rhesymol gwneud gorchymyn neu benderfyniad o’r fath, neu wrth wneud unrhyw benderfyniad arall sydd ar gael iddo (ymysg pethau eraill), roi sylw i’r amgylchiadau a nodir ym mharagraffau 4 i 13 i’r graddau y mae’r llys o’r farn eu bod yn berthnasol (ac i’r graddau nad yw’n ofynnol fel arall iddo roi sylw i’r materion hynny; er enghraifft, o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998 (p. 42)).
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 10 para. 1 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2
I3Atod. 10 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I4Atod. 10 para. 2 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2
3Mae paragraff 14 yn dynodi amgylchiad, sy’n ymwneud â chymorth gan awdurdodau lleol mewn perthynas â digartrefedd, na ddylai’r llys roi sylw iddo (yn ddarostyngedig i unrhyw ofyniad i roi sylw i’r amgylchiad hwnnw y mae’r llys yn ddarostyngedig iddo).
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 10 para. 1 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2
I5Atod. 10 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I6Atod. 10 para. 3 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2
4Effaith debygol y gorchymyn neu’r penderfyniad ar ddeiliad y contract (ac ar unrhyw feddianwyr y caniateir iddynt feddiannu annedd).
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 10 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I8Atod. 10 para. 4 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2
5Os yw’r achos yn un lle y caniateir i’r llys benderfynu gohirio ildio meddiant, y tebygolrwydd y bydd deiliad y contract yn cydymffurfio ag unrhyw delerau a all gael eu gosod.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. 10 para. 4 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2
I9Atod. 10 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I10Atod. 10 para. 5 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2
6Effaith debygol peidio â gwneud y gorchymyn, neu’r penderfyniad, ar fuddiannau’r landlord, gan gynnwys buddiannau ariannol y landlord.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 10 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I12Atod. 10 para. 6 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2
7Os yw’r landlord yn landlord cymunedol, effaith debygol peidio â gwneud y gorchymyn, neu’r penderfyniad, ar allu’r landlord i gyflawni ei swyddogaethau mewn perthynas â thai, gan gynnwys cynorthwyo personau eraill sydd angen llety.
Gwybodaeth Cychwyn
I12Atod. 10 para. 6 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2
I13Atod. 10 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I14Atod. 10 para. 7 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2
8(1)Effaith debygol y gorchymyn neu’r penderfyniad ar—
(a)deiliaid contractau a meddianwyr y caniateir iddynt feddiannu anheddau eraill y landlord,
(b)personau sydd wedi gofyn i’r landlord ddarparu llety tai iddynt, ac
(c)personau sy’n byw, yn ymweld neu fel arall yn ymgymryd â gweithgaredd cyfreithlon yn yr ardal (a phersonau sy’n dymuno byw, ymweld neu ymgymryd â gweithgareddau cyfreithlon yn yr ardal).
(2)Os gwneir hawliad meddiant ar y sail yn adran 157 (tor contract), effaith debygol yr amgylchiadau a nodir ym mharagraff 10 ar y personau a grybwyllir yn is-baragraff (1).
Gwybodaeth Cychwyn
I15Atod. 10 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I16Atod. 10 para. 8 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2
9Pa un a yw’r landlord wedi cynnig neu’n ymrwymo i gynnig contract meddiannaeth newydd (boed ar gyfer yr un annedd neu anheddau eraill) i un neu ragor o’r personau sy’n meddiannu’r annedd neu’n byw yn yr annedd.
Gwybodaeth Cychwyn
I17Atod. 10 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I18Atod. 10 para. 9 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2
10Os gwneir hawliad meddiant ar y sail yn adran 157 (tor contract)—
(a)natur, amlder neu hyd y tor contract neu’r toriadau contract,
(b)y graddau y mae deiliad y contract (neu feddiannydd y caniateir iddo feddiannu’r annedd) yn gyfrifol am y toriad,
(c)pa mor debygol yw hi y bydd y toriad yn ailddigwydd, a
(d)unrhyw gamau i ddod â’r toriad i ben, neu i’w atal rhag ailddigwydd, a gymerwyd gan y landlord cyn gwneud hawliad meddiant.
Gwybodaeth Cychwyn
I19Atod. 10 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I20Atod. 10 para. 10 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2
11Os yw’r landlord yn gwneud hawliad meddiant gan ddibynnu ar dorri adran 55 (ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall), budd y cyhoedd yn gyffredinol mewn atal yr ymddygiad y mae’r adran honno yn ei wahardd.
Gwybodaeth Cychwyn
I21Atod. 10 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I22Atod. 10 para. 11 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2
12Os yw’r landlord yn gwneud hawliad meddiant gan ddibynnu’n llwyr neu’n rhannol ar Sail G o’r seiliau rheoli ystad (olynydd wrth gefn heb fod angen llety)—
(a)oedran deiliad y contract a olynodd i’r contract meddiannaeth o dan adran 73,
(b)y cyfnod y mae deiliad y contract wedi meddiannu’r annedd fel ei unig gartref neu ei brif gartref, ac
(c)unrhyw gymorth ariannol neu gymorth arall a roddodd deiliad y contract i’r deiliad contract a fu farw (neu, os oedd y deiliad contract a fu farw yn olynydd i ddeiliad contract blaenorol, i’r deiliad contract blaenorol hwnnw).
Gwybodaeth Cychwyn
I23Atod. 10 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I24Atod. 10 para. 12 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2
13Os yw’r landlord yn gwneud hawliad meddiant gan ddibynnu’n llwyr neu’n rhannol ar Sail H o’r seiliau rheoli ystad (cyd-ddeiliad contract yn ymadael)—
(a)oedran y deiliad contract sy’n weddill (neu bob un o’r deiliaid contract sy’n weddill ), a
(b)y cyfnod y mae’r deiliad contract sy’n weddill (neu bob un o’r deiliaid contract sy’n weddill) wedi meddiannu’r annedd fel ei unig gartref neu ei brif gartref.
Gwybodaeth Cychwyn
I25Atod. 10 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I26Atod. 10 para. 13 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2
14Nid yw’r tebygolrwydd y rhoddir cymorth i berson o dan Ran 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7) neu Ran 7 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) (digartrefedd) yn amgylchiad perthnasol (yn ddarostyngedig i unrhyw ofyniad i roi sylw i’r amgylchiad hwnnw y mae’r llys yn ddarostyngedig iddo).
Gwybodaeth Cychwyn
I27Atod. 10 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I28Atod. 10 para. 14 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2