xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
22(1)Mae is-baragraff (2) yn cael effaith mewn perthynas â chontract wedi ei drosi y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo fel pe bai’n ddarpariaeth atodol a ragnodwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 23.
(2)Rhaid i ddeiliad y contract (neu o leiaf un ohonynt, os oes mwy nag un) feddiannu’r annedd sy’n ddarostyngedig i’r contract fel ei unig gartref neu ei brif gartref.
(3)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gontract wedi ei drosi a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig—
(a)yn denantiaeth warchodedig neu denantiaeth statudol,
(b)yn denantiaeth ddiogel,
(c)yn denantiaeth sicr,
(d)yn denantiaeth ragarweiniol, neu
(e)yn denantiaeth isradd.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 12 para. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I2Atod. 12 para. 22 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2