xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 12LL+CTROSI TENANTIAETHAU A THRWYDDEDAU PRESENNOL SY’N BODOLI CYN I BENNOD 3 O RAN 10 DDOD I RYM

Penderfynu a yw contract wedi ei drosi yn gontract diogel neu’n gontract safonolLL+C

8(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo landlord cymunedol yn dod yn landlord o dan gontract safonol cyfnod penodol cyn diwedd y cyfnod o fis sy’n dechrau â’r diwrnod penodedig.

(2)Mae adran 12 (contractau a fabwysiedir gan landlord cymunedol) yn gymwys fel pe bai, yn is-adran (8)(b), “cyn diwedd y cyfnod o fis sy’n dechrau â’r diwrnod penodedig (o fewn ystyr adran 242)” yn cael ei roi yn lle “cyn i’r landlord cymunedol ddod yn landlord arno”.

(3)Rhaid i’r landlord roi’r hysbysiad sy’n ofynnol yn ôl adran 15(1) i ddeiliad y contract ar y diwrnod penodedig neu cyn y diwrnod penodedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 12 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2Atod. 12 para. 8 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2