Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

Ystyr “llety mynediad uniongyrchol”LL+C

This section has no associated Explanatory Notes

10(1)Llety mynediad uniongyrchol yw llety—

(a)a ddarperir gan landlord cymunedol neu elusen gofrestredig,

(b)a ddarperir (cyn belled a’i fod ar gael) mewn ymateb i’r galw i unrhyw berson yr ymddengys ei fod yn bodloni meini prawf a bennir gan y landlord cymunedol neu’r elusen, ac

(c)na ddarperir ond am gyfnodau o 24 awr (neu lai) ar y tro.

(2)Caiff llety fod yn llety mynediad uniongyrchol hyd yn oed os caiff ei ddarparu i’r un person am sawl cyfnod yn olynol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2Atod. 2 para. 10 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2