xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
4Ystyr “sefydliad gofal” yw—
(a)ysbyty gwasanaeth iechyd, yn yr ystyr sydd i “health service hospital” yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 49) (gweler adran 206(1) o’r Ddeddf honno),
[F1(b)ysbyty annibynnol, yn yr ystyr sydd i “independent hospital” yn Neddf Safonau Gofal 2000 (p. 14) (gweler adran 2 o’r Ddeddf honno),
(c)man lle y mae gwasanaeth cartref gofal o fewn ystyr paragraff 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (dccc 2) yn cael ei ddarparu’n gyfan gwbl neu’n bennaf i bersonau sy’n 18 oed neu’n hŷn,
(d)man lle y mae gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd o fewn ystyr paragraff 3 o Atodlen 1 i Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn cael ei ddarparu, neu
(e)man y mae person wedi ei gofrestru o dan Ran 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 mewn cysylltiad ag ef i ddarparu—
(i)gwasanaeth llety diogel o fewn ystyr paragraff 2 o Atodlen 1 i’r Ddeddf honno, neu
(ii)gwasanaeth cartref gofal o fewn ystyr paragraff 1 o Atodlen 1 i’r Ddeddf honno i bersonau sy’n gyfan gwbl neu’n bennaf o dan 18 oed.]
Diwygiadau Testunol
F1Atod. 2 parau. 4(b)-(e) wedi ei amnewid ar gyfer Atod. 2 parau. 4(b)(c) (1.12.2022) gan Rheoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2018 (O.S. 2018/195), rhlau. 2(4), 56; O.S. 2022/906, ergl. 2
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I2Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2