xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 2LL+CEITHRIADAU I ADRAN 7

RHAN 2LL+CTENANTIAETHAU A THRWYDDEDAU O FEWN ADRAN 7 NAD YDYNT YN GONTRACTAU MEDDIANNAETH ONI RODDIR HYSBYSIAD

Ystyr “llety a rennir”LL+C

6(1)Mae’r eithriad llety a rennir yn gymwys—

(a)os yw telerau’r denantiaeth neu’r drwydded yn darparu i’r tenant neu’r trwyddedai rannu unrhyw lety gyda’r landlord, a

(b)os yw’r landlord, yn union cyn gwneud y denantiaeth neu’r drwydded, yn meddiannu annedd sy’n cynnwys y cyfan neu ran o’r llety a rennir fel ei unig gartref neu ei brif gartref.

(2)Ond nid yw’r eithriad yn gymwys o dan is-baragraff (1) ond tra bo’r person sy’n landlord o bryd i’w gilydd mewn perthynas â’r denantiaeth neu’r drwydded yn parhau i feddiannu annedd o’r fath fel unig gartref neu fel prif gartref y person hwnnw.

(3)Mae’r eithriad llety a rennir hefyd yn gymwys—

(a)os yw telerau’r denantiaeth neu’r drwydded yn darparu i’r tenant neu’r trwyddedai rannu unrhyw lety gyda pherson arall (“y buddiolwr”),

(b)os yw’r buddiolwr, yn union cyn gwneud y denantiaeth neu’r drwydded, yn meddiannu annedd sy’n cynnwys y cyfan neu ran o’r llety a rennir fel ei unig gartref neu ei brif gartref,

(c)os yw’r annedd honno’n ddarostyngedig i ymddiriedolaeth, a

(d)os oes gan y buddiolwr o dan yr ymddiriedolaeth—

(i)hawl i fuddiant yn yr annedd, a

(ii)o ganlyniad i’r hawl honno, hawl i feddiannu’r annedd.

(4)Ond nid yw’r eithriad yn gymwys o dan is-baragraff (3) ond tra bo’r buddiolwr yn parhau i feddiannu annedd o’r fath fel ei unig gartref neu ei brif gartref.

(5)Mae tenant neu drwyddedai yn rhannu llety gyda’r landlord neu’r buddiolwr os yw’r tenant neu’r trwyddedai â defnydd ohoni yn gyffredin â’r landlord neu’r buddiolwr (boed yn gyffredin ag eraill ai peidio).

(6)Nid yw “llety” yn cynnwys ardal a ddefnyddir fel storfa, na grisiau, tramwyfa, coridor na dull arall o fynd iddo.

(7)Os yw dau neu ragor o bersonau yn landlord mewn perthynas â thenantiaeth neu drwydded, mae cyfeiriadau at y landlord yn gyfeiriadau at unrhyw un ohonynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2