ATODLEN 2EITHRIADAU I ADRAN 7
RHAN 3TENANTIAETHAU A THRWYDDEDAU NAD YDYNT BYTH YN GONTRACTAU MEDDIANNAETH
I8I57Y rheol
1
Nid yw tenantiaeth neu drwydded yn gontract meddiannaeth ar unrhyw adeg pan fo’r paragraff hwn yn berthnasol iddi.
2
Mae’r paragraff hwn yn gymwys i denantiaeth neu drwydded os yw pob un o’r personau y’i gwneir â hwy wedi eu heithrio rhag bod yn ddeiliaid contract gan adran 7(6) (unigolion nad ydynt wedi cyrraedd 18 oed).
3
Mae’r paragraff hwn hefyd yn gymwys i—
a
tenantiaeth y mae Rhan 2 o Ddeddf Landlord a Thenant 1954 (p. 56) (tenantiaethau busnes) yn gymwys iddi;
b
meddiannaeth warchodedig neu denantiaeth statudol o fewn ystyr Deddf Rhenti (Amaethyddiaeth) 1976 (p. 80);
c
tenantiaeth warchodedig neu denantiaeth statudol o fewn ystyr Deddf Rhenti 1977 (p. 42);
F1d
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
e
tenantiaeth o ddaliad amaethyddol o fewn ystyr Deddf Daliadau Amaethyddol 1986 (p. 5);
f
tenantiaeth busnes fferm o fewn ystyr Deddf Tenantiaethau Amaethyddol 1995 (p. 8);
g
tenantiaeth hir (gweler paragraff 8);
h
tenantiaeth neu drwydded sy’n ymwneud â llety’r lluoedd arfog (gweler paragraff 9);
i
tenantiaeth neu drwydded sy’n ymwneud â llety mynediad uniongyrchol (gweler paragraff 10).
F3j
tenantiaeth neu drwydded sy’n ymwneud â llety a ddarperir—
i
gan, neu ar ran, yr Ysgrifennydd Gwladol mewn cysylltiad â gofyniad a osodwyd o dan adran 3(6) (darpariaethau cyffredinol) o Ddeddf Mechnïaeth 1976 (p. 63), neu
ii
o dan Ran 1 (trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau prawf) o Ddeddf Rheoli Troseddwyr 2007 (p. 21) at y dibenion prawf (o fewn ystyr adran 1 o’r Ddeddf honno);
k
tenantiaeth neu drwydded sy’n ymwneud â—
i
llety a ddarperir o dan adran 4 (llety) neu Ran 6 (cymorth i geiswyr lloches etc.) o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999 (p. 33), neu
ii
cyfleusterau a ddarperir o dan baragraff 9 o Atodlen 10 i Ddeddf Mewnfudo 2016 (c. 19) (mechnïaeth mewnfudo) ar gyfer llety i berson a ddarperir mewn cyfeiriad a bennir mewn amod mechnïaeth mewnfudo.
F4l
trwydded sy’n ymwneud â llety digartrefedd dros dro sector preifat (gweler paragraff 10A).
I6I38Ystyr “tenantiaeth hir”
1
Ystyr “tenantiaeth hir” yw—
a
tenantiaeth am gyfnod penodol o fwy na 21 mlynedd (pa un a ellir ei derfynu neu y caniateir ei derfynu cyn diwedd y cyfnod hwnnw drwy hysbysiad a roddir gan y tenant neu drwy ailfynediad neu fforffediad ai peidio),
b
tenantiaeth am gyfnod sydd wedi ei bennu gan y gyfraith oherwydd cyfamod neu rwymedigaeth i’w hadnewyddu’n barhaus, ac eithrio tenantiaeth drwy is-les o dan un nad yw’n denantiaeth hir, neu
c
tenantiaeth a wneir yn unol â Rhan 5 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68) (yr hawl i brynu), gan gynnwys tenantiaeth a wneir yn unol â’r Rhan honno F2fel yr oedd y Rhan honno yn cael effaith oherwydd adran 17 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) (yr hawl i gaffael).
2
Ond nid yw tenantiaeth y gellir ei therfynu drwy hysbysiad ar ôl marwolaeth yn denantiaeth hir oni bai ei bod yn denantiaeth cydberchnogaeth.
3
Tenantiaeth cydberchnogaeth yw tenantiaeth—
a
a wnaed â chymdeithas dai a oedd yn landlord cymdeithasol cofrestredig neu’n ddarparwr tai cymdeithasol preifat cofrestredig,
b
a wnaed am bremiwm a gyfrifwyd drwy gyfeirio at ganran o werth yr annedd neu gost ei darparu, ac
c
a oedd, pan gafodd ei gwneud, yn cydymffurfio â gofynion y rheoliadau cydberchnogaeth a oedd mewn grym ar y pryd.
4
Mae tenantiaeth a wnaed cyn bod unrhyw reoliadau cydberchnogaeth mewn grym i’w thrin fel pe bai o fewn is-baragraff (3)(c) os oedd, pan wnaed y denantiaeth, yn cydymffurfio â gofynion y rheoliadau cyntaf o’r fath i ddod i rym ar ôl iddi gael ei gwneud.
5
Ystyr “rheoliadau cydberchnogaeth” yw rheoliadau o dan—
a
adran 140(4)(b) o Ddeddf Tai 1980 (p. 51), neu
b
paragraff 5 o Atodlen 4A i Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad 1967 (p. 88) a wnaed at ddibenion paragraff 4(2)(b) o’r Atodlen honno.
I7I29Ystyr “llety’r lluoedd arfog”
Llety’r lluoedd arfog yw llety a ddarperir i—
a
aelod o unrhyw un o luoedd Ei Mawrhydi,
b
aelod o deulu aelod o unrhyw un o luoedd Ei Mawrhydi, neu
c
sifiliad sy’n ddarostyngedig i ddisgyblaeth y lluoedd arfog (o fewn ystyr adran 370 o Ddeddf y Lluoedd Arfog 2006 (p. 52)),
at ddibenion unrhyw un neu ragor o luoedd Ei Mawrhydi.
I4I110Ystyr “llety mynediad uniongyrchol”
1
Llety mynediad uniongyrchol yw llety—
a
a ddarperir gan landlord cymunedol neu elusen gofrestredig,
b
a ddarperir (cyn belled a’i fod ar gael) mewn ymateb i’r galw i unrhyw berson yr ymddengys ei fod yn bodloni meini prawf a bennir gan y landlord cymunedol neu’r elusen, ac
c
na ddarperir ond am gyfnodau o 24 awr (neu lai) ar y tro.
2
Caiff llety fod yn llety mynediad uniongyrchol hyd yn oed os caiff ei ddarparu i’r un person am sawl cyfnod yn olynol.
10AF5Ystyr “llety digartrefedd dros dro sector preifat”
1
Llety digartrefedd dros dro sector preifat yw llety—
a
a ddarperir gan landlord preifat o dan drefniadau a wneir gydag awdurdod tai lleol yn unol ag unrhyw un neu ragor o swyddogaethau darparu tai i’r digartref yr awdurdod hwnnw, a
b
sydd o fewn y diffiniad o “llety Gwely a Brecwast” yn erthygl 2 (dehongli) o Orchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) 2015 (O.S. 2015/1268 (Cy. 87)), fel y mae’n cael effaith ar 30 Tachwedd 2023, sef y dyddiad y daeth Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 a Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) 2015 (Diwygio) 2023 (O.S. 2023/XXXX (W. XX)) i rym.
2
Yn y paragraff hwn mae i “awdurdod tai lleol” a “swyddogaethau darparu tai i’r digartref” yr ystyron a roddir ym mharagraff 12(5).