Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

RHAN 3LL+CTENANTIAETHAU A THRWYDDEDAU NAD YDYNT BYTH YN GONTRACTAU MEDDIANNAETH

Y rheolLL+C

7(1)Nid yw tenantiaeth neu drwydded yn gontract meddiannaeth ar unrhyw adeg pan fo’r paragraff hwn yn berthnasol iddi.

(2)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i denantiaeth neu drwydded os yw pob un o’r personau y’i gwneir â hwy wedi eu heithrio rhag bod yn ddeiliaid contract gan adran 7(6) (unigolion nad ydynt wedi cyrraedd 18 oed).

(3)Mae’r paragraff hwn hefyd yn gymwys i—

(a)tenantiaeth y mae Rhan 2 o Ddeddf Landlord a Thenant 1954 (p. 56) (tenantiaethau busnes) yn gymwys iddi;

(b)meddiannaeth warchodedig neu denantiaeth statudol o fewn ystyr Deddf Rhenti (Amaethyddiaeth) 1976 (p. 80);

(c)tenantiaeth warchodedig neu denantiaeth statudol o fewn ystyr Deddf Rhenti 1977 (p. 42);

F1(d). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(e)tenantiaeth o ddaliad amaethyddol o fewn ystyr Deddf Daliadau Amaethyddol 1986 (p. 5);

(f)tenantiaeth busnes fferm o fewn ystyr Deddf Tenantiaethau Amaethyddol 1995 (p. 8);

(g)tenantiaeth hir (gweler paragraff 8);

(h)tenantiaeth neu drwydded sy’n ymwneud â llety’r lluoedd arfog (gweler paragraff 9);

(i)tenantiaeth neu drwydded sy’n ymwneud â llety mynediad uniongyrchol (gweler paragraff 10).

[F2(j)tenantiaeth neu drwydded sy’n ymwneud â llety a ddarperir—

(i)gan, neu ar ran, yr Ysgrifennydd Gwladol mewn cysylltiad â gofyniad a osodwyd o dan adran 3(6) (darpariaethau cyffredinol) o Ddeddf Mechnïaeth 1976 (p. 63), neu

(ii)o dan Ran 1 (trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau prawf) o Ddeddf Rheoli Troseddwyr 2007 (p. 21) at y dibenion prawf (o fewn ystyr adran 1 o’r Ddeddf honno);

(k)tenantiaeth neu drwydded sy’n ymwneud â—

(i)llety a ddarperir o dan adran 4 (llety) neu Ran 6 (cymorth i geiswyr lloches etc.) o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999 (p. 33), neu

(ii)cyfleusterau a ddarperir o dan baragraff 9 o Atodlen 10 i Ddeddf Mewnfudo 2016 (c. 19) (mechnïaeth mewnfudo) ar gyfer llety i berson a ddarperir mewn cyfeiriad a bennir mewn amod mechnïaeth mewnfudo.]

[F3(l)trwydded sy’n ymwneud â llety digartrefedd dros dro sector preifat (gweler paragraff 10A).]

Diwygiadau Testunol

F2Atod. 2 para. 7(3)(j)(k) wedi eu mewnosod (1.12.2022) gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/803), rhlau. 1(1), 2 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2022/906, erglau. 1(2), 15)

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Ystyr “tenantiaeth hir”LL+C

8(1)Ystyr “tenantiaeth hir” yw—

(a)tenantiaeth am gyfnod penodol o fwy na 21 mlynedd (pa un a ellir ei derfynu neu y caniateir ei derfynu cyn diwedd y cyfnod hwnnw drwy hysbysiad a roddir gan y tenant neu drwy ailfynediad neu fforffediad ai peidio),

(b)tenantiaeth am gyfnod sydd wedi ei bennu gan y gyfraith oherwydd cyfamod neu rwymedigaeth i’w hadnewyddu’n barhaus, ac eithrio tenantiaeth drwy is-les o dan un nad yw’n denantiaeth hir, neu

(c)tenantiaeth a wneir yn unol â Rhan 5 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68) (yr hawl i brynu), gan gynnwys tenantiaeth a wneir yn unol â’r Rhan honno [F4fel yr oedd y Rhan honno yn cael effaith] oherwydd adran 17 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) (yr hawl i gaffael).

(2)Ond nid yw tenantiaeth y gellir ei therfynu drwy hysbysiad ar ôl marwolaeth yn denantiaeth hir oni bai ei bod yn denantiaeth cydberchnogaeth.

(3)Tenantiaeth cydberchnogaeth yw tenantiaeth—

(a)a wnaed â chymdeithas dai a oedd yn landlord cymdeithasol cofrestredig neu’n ddarparwr tai cymdeithasol preifat cofrestredig,

(b)a wnaed am bremiwm a gyfrifwyd drwy gyfeirio at ganran o werth yr annedd neu gost ei darparu, ac

(c)a oedd, pan gafodd ei gwneud, yn cydymffurfio â gofynion y rheoliadau cydberchnogaeth a oedd mewn grym ar y pryd.

(4)Mae tenantiaeth a wnaed cyn bod unrhyw reoliadau cydberchnogaeth mewn grym i’w thrin fel pe bai o fewn is-baragraff (3)(c) os oedd, pan wnaed y denantiaeth, yn cydymffurfio â gofynion y rheoliadau cyntaf o’r fath i ddod i rym ar ôl iddi gael ei gwneud.

(5)Ystyr “rheoliadau cydberchnogaeth” yw rheoliadau o dan—

(a)adran 140(4)(b) o Ddeddf Tai 1980 (p. 51), neu

(b)paragraff 5 o Atodlen 4A i Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad 1967 (p. 88) a wnaed at ddibenion paragraff 4(2)(b) o’r Atodlen honno.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 2 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I4Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Ystyr “llety’r lluoedd arfog”LL+C

9Llety’r lluoedd arfog yw llety a ddarperir i—

(a)aelod o unrhyw un o luoedd Ei Mawrhydi,

(b)aelod o deulu aelod o unrhyw un o luoedd Ei Mawrhydi, neu

(c)sifiliad sy’n ddarostyngedig i ddisgyblaeth y lluoedd arfog (o fewn ystyr adran 370 o Ddeddf y Lluoedd Arfog 2006 (p. 52)),

at ddibenion unrhyw un neu ragor o luoedd Ei Mawrhydi.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 2 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I6Atod. 2 para. 9 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Ystyr “llety mynediad uniongyrchol”LL+C

10(1)Llety mynediad uniongyrchol yw llety—

(a)a ddarperir gan landlord cymunedol neu elusen gofrestredig,

(b)a ddarperir (cyn belled a’i fod ar gael) mewn ymateb i’r galw i unrhyw berson yr ymddengys ei fod yn bodloni meini prawf a bennir gan y landlord cymunedol neu’r elusen, ac

(c)na ddarperir ond am gyfnodau o 24 awr (neu lai) ar y tro.

(2)Caiff llety fod yn llety mynediad uniongyrchol hyd yn oed os caiff ei ddarparu i’r un person am sawl cyfnod yn olynol.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 2 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I8Atod. 2 para. 10 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Ystyr “llety digartrefedd dros dro sector preifat”LL+C

[F510A.(1)Llety digartrefedd dros dro sector preifat yw llety—

(a)a ddarperir gan landlord preifat o dan drefniadau a wneir gydag awdurdod tai lleol yn unol ag unrhyw un neu ragor o swyddogaethau darparu tai i’r digartref yr awdurdod hwnnw, a

(b)sydd o fewn y diffiniad o “llety Gwely a Brecwast” yn erthygl 2 (dehongli) o Orchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) 2015 (O.S. 2015/1268 (Cy. 87)), fel y mae’n cael effaith ar 30 Tachwedd 2023, sef y dyddiad y daeth Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 a Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) 2015 (Diwygio) 2023 (O.S. 2023/XXXX (W. XX)) i rym.

(2)Yn y paragraff hwn mae i “awdurdod tai lleol” a “swyddogaethau darparu tai i’r digartref” yr ystyron a roddir ym mharagraff 12(5).]