Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

RHAN 4LL+CTENANTIAETHAU A THRWYDDEDAU Y MAE RHEOLAU ARBENNIG YN GYMWYS IDDYNT: DIGARTREFEDD

11LL+CNid yw tenantiaeth neu drwydded o fewn adran 7, ond a wneir gydag unigolyn gan awdurdod tai lleol oherwydd swyddogaethau’r awdurdod o dan Ran 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7) (digartrefedd), yn gontract meddiannaeth oni bai bod yr awdurdod yn fodlon bod ganddo ddyletswydd tuag at yr unigolyn o dan adran 75(1) o’r Ddeddf honno (dyletswydd i sicrhau bod llety addas ar gael).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2Atod. 2 para. 11 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

12(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo awdurdod tai lleol, yn unol ag unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau darparu tai i’r digartref, yn gwneud trefniadau â landlord perthnasol ar gyfer darparu llety [F1, ond nid yw’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â thrwydded o’r math a ddisgrifir ym mharagraff 7(3)(l)].LL+C

(2)Nid yw tenantiaeth neu drwydded sydd o fewn adran 7, ond a wneir â landlord perthnasol yn unol â’r trefniadau, yn gontract meddiannaeth hyd nes yn union ar ôl diwedd y cyfnod hysbysu.

(3)Nid yw is-baragraff (2) yn gymwys os yw’r landlord, cyn diwedd y cyfnod hysbysu, yn rhoi hysbysiad i’r person y gwneir y denantiaeth neu’r drwydded ag ef ei bod yn gontract meddiannaeth.

(4)Y cyfnod hysbysu yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ag—

(a)y diwrnod y cafodd y person hwnnw ei hysbysu—

(i)o ganlyniad asesiad yr awdurdod o dan adran 62 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7) neu o benderfyniad yr awdurdod o dan adran 80(5) o’r Ddeddf honno, neu (yn ôl y digwydd)

(ii)o benderfyniad yr awdurdod o dan adran 184(3) neu 198(5) o Ddeddf Tai 1996 (p. 52), neu

(b)os oes—

(i)adolygiad o’r penderfyniad hwnnw o dan adran 85 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 neu apêl i’r llys sirol o dan adran 88 o’r Ddeddf honno, neu (yn ôl y digwydd)

(ii)adolygiad o’r penderfyniad hwnnw o dan adran 202 o Ddeddf Tai 1996 neu apêl i’r llys o dan adran 204 o’r Ddeddf honno,

y diwrnod yr hysbysir y person hwnnw o ganlyniad yr asesiad neu o benderfyniad yr adolygiad, neu’r diwrnod y penderfynir yn derfynol ar yr apêl.

(5)Yn y paragraff hwn—

  • ystyr “awdurdod tai lleol” (“local housing authority”) yw—

    (a)

    mewn perthynas â Chymru, cyngor sir ar gyfer ardal yng Nghymru neu gyngor bwrdeistref sirol, a

    (b)

    mewn perthynas â Lloegr, cyngor dosbarth, cyngor bwrdeistref yn Llundain, Cyngor Cyffredin Dinas Llundain neu Gyngor Ynysoedd Sili;

  • ystyr “landlord perthnasol” (“relevant landlord”) yw—

    (a)

    landlord cymunedol sy’n landlord cymdeithasol cofrestredig neu’n ddarparwr tai cymdeithasol preifat cofrestredig, neu

    (b)

    landlord preifat;

  • ystyr “swyddogaethau darparu tai i’r digartref” (“homelessness housing functions”) yw—

    (a)

    mewn perthynas ag awdurdod tai lleol ar gyfer ardal yng Nghymru, ei swyddogaethau o dan adrannau 68, 73, 75, 82 ac 88(5) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014, a

    (b)

    mewn perthynas ag awdurdod tai lleol ar gyfer ardal yn Lloegr, ei swyddogaethau o dan adrannau 188, 190, 200 a 204(4) o Ddeddf Tai 1996.

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 2 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I4Atod. 2 para. 12 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2