Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

Llety myfyrwyrLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

10(1)Contract meddiannaeth pan fo’r hawl i feddiannu yn cael ei rhoi at ddiben galluogi deiliad y contract i fynychu cwrs dynodedig mewn sefydliad addysgol [F1yn unig].

(2)Ystyr “cwrs dynodedig” yw cwrs o unrhyw fath a ragnodir at ddibenion y paragraff hwn.

(3)Ystyr “sefydliad addysgol” yw sefydliad neu brifysgol sy’n darparu addysg bellach neu addysg uwch (neu’r ddau); ac mae i “addysg bellach” ac “addysg uwch” yr un ystyron â “further education” a “higher education” yn Neddf Addysg 1996 (p. 56) (gweler adrannau 2 a 579 o’r Ddeddf honno).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 3 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2Atod. 3 para. 10(1)(3) mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

I3Atod. 3 para. 10(2) mewn grym ar 5.8.2016 at ddibenion penodedig gan O.S. 2016/813, ergl. 2(a), Atod. Rhn. 1

I4Atod. 3 para. 10(2) mewn grym ar 1.12.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2022/906, ergl. 2