Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

Meddiannaeth yn rhinwedd swydd: cyffredinolLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

7(1)Contract meddiannaeth—

(a)pan fo deiliad y contract wedi ei gyflogi gan gyflogwr perthnasol, a

(b)y mae’n ofynnol i ddeiliad y contract feddiannu’r annedd yn ôl ei gontract cyflogaeth.

(2)Ystyr “cyflogwr perthnasol” yw—

(a)awdurdod lleol;

(b)corfforaeth dref newydd;

(c)ymddiriedolaeth gweithredu tai;

(d)corfforaeth datblygu trefol;

(e)landlord cymdeithasol cofrestredig (ac eithrio cymdeithas dai gwbl gydfuddiannol neu gymdeithas dai gydweithredol);

(f)darparwr tai cymdeithasol cofrestredig preifat;

(g)rheolwr sy’n cyflawni swyddogaethau rheoli awdurdod tai lleol o dan gytundeb rheoli;

(h)corff llywodraethu unrhyw un o’r ysgolion a ganlyn (gweler Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31))—

(i)ysgol wirfoddol a gynorthwyir,

(ii)ysgol sefydledig, neu

(iii)ysgol arbennig sefydledig.

(3)Ystyr “cytundeb rheoli” yw cytundeb o dan adran 27 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68) ac ystyr “rheolwr” yw person y gwneir y cytundeb ag ef.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 3 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2