Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

Caiff datganiad ysgrifenedig ymdrin â chontract diogel sy’n codi ar ddiwedd contract safonol rhagarweiniol

This section has no associated Explanatory Notes

6(1)Mae is-baragraff (2) yn gymwys os yw’r landlord a deiliad y contract, cyn diwedd y cyfnod rhagarweiniol, wedi cytuno (yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Ddeddf hon o ran ymgorffori darpariaethau sylfaenol ac atodol) beth fydd telerau’r contract diogel a allai godi ar ddiwedd y cyfnod rhagarweiniol.

(2)Caiff datganiad ysgrifenedig o’r contract safonol rhagarweiniol nodi telerau’r contract diogel drwy—

(a)dynodi telerau’r contract safonol rhagarweiniol na fyddant yn delerau’r contract diogel, a nodi’r telerau na fyddant ond yn gymwys i’r contract diogel, neu

(b)nodi holl delerau’r contract diogel ar wahân.

(3)Pan fo datganiad ysgrifenedig o gontract safonol rhagarweiniol yn ymdrin â’r contract diogel yn unol ag is-baragraff (2) (“datganiad ysgrifenedig perthnasol”)—

(a)nid yw’r datganiad ysgrifenedig perthnasol yn anghywir (gweler adran 37) ond am ei fod yn ymdrin â’r contract diogel,

(b)mae’r landlord i’w drin fel pe bai wedi cydymffurfio â’r gofyniad yn adran 31(1) (darparu datganiad ysgrifenedig) mewn perthynas â’r contract safonol, ac

(c)ni chaniateir gorfodi telerau’r contract diogel yn erbyn deiliad y contract cyn dyddiad meddiannu’r contract hwnnw (ac, yn unol â hynny, nid yw adran 42 yn gymwys).

(4)Os yw dyddiad meddiannu contract diogel y mae datganiad ysgrifenedig perthnasol yn ymdrin ag ef yn newid am fod y landlord wedi ymestyn y cyfnod rhagarweiniol yn unol â pharagraff 3, nid yw’r datganiad ysgrifenedig perthnasol yn anghywir ond am nad yw’n nodi’r dyddiad meddiannu newydd.