Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

Adran 118: trosglwyddiad i ddeiliad contract diogel mewn perthynas â chontract diogel gyda landlord cymunedolLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

13(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw deiliad contract o dan gontract diogel (“y trosglwyddwr”) yn ceisio trosglwyddo’r contract yn unol ag adran 118 i berson (“y trosglwyddai”) sy’n ddeiliad contract o dan gontract diogel arall.

(2)Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, rhaid i’r amgylchiadau a ganlyn (yn ogystal â’r rheini sydd yn Rhan 2) gael eu hystyried (i’r graddau y maent yn berthnasol)—

(a)pa un a yw’r trosglwyddiad i fod yn rhan o gyfres o drafodion ac, os ydyw, yr holl amgylchiadau sy’n ymwneud â’r trafodion eraill y bwriedir iddynt fod yn rhan o’r gyfres (gweler hefyd baragraff 14(2)), a

(b)pa un a yw’r trosglwyddai yn olynydd â blaenoriaeth neu’n olynydd wrth gefn mewn perthynas â’r contract diogel y mae’n ddeiliad contract oddi tano cyn y trosglwyddiad (gweler hefyd baragraff 14(3)).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 6 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2Atod. 6 para. 13 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2