ATODLEN 6RHESYMOLDEB ATAL CYDSYNIAD, ETC.

RHAN 3AMGYLCHIADAU A ALL FOD YN BERTHNASOL I RESYMOLDEB MEWN CYSYLLTIAD Â THRAFODION PENODOL

I1I2I314Adran 118: trosglwyddiad i ddeiliad contract diogel mewn perthynas â chontract diogel gyda landlord cymunedol

1

Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw deiliad contract o dan gontract diogel (“y trosglwyddwr”) yn ceisio trosglwyddo’r contract yn unol ag adran 118 i berson (“y trosglwyddai”) sy’n ddeiliad contract o dan gontract diogel arall.

2

Os yw’r trosglwyddiad i fod yn rhan o gyfres o drafodion mae’n rhesymol gosod amod na chaiff y trosglwyddiad ddigwydd oni fydd y trafodion eraill yn digwydd.

3

Os yw’r trosglwyddai yn olynydd â blaenoriaeth neu’n olynydd wrth gefn mewn perthynas â’r contract diogel y mae’n ddeiliad contract oddi tano cyn y trosglwyddiad, mae’n rhesymol gosod amod yn ei gwneud yn ofynnol i’r trosglwyddai gael ei drin at ddibenion y Ddeddf hon fel olynydd o’r math hwnnw mewn perthynas â’r contract diogel a drosglwyddir iddo gan y trosglwyddwr.