xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 6LL+CRHESYMOLDEB ATAL CYDSYNIAD, ETC.

RHAN 3LL+CAMGYLCHIADAU A ALL FOD YN BERTHNASOL I RESYMOLDEB MEWN CYSYLLTIAD Â THRAFODION PENODOL

Adran 118: trosglwyddiad i ddeiliad contract diogel mewn perthynas â chontract diogel gyda landlord cymunedolLL+C

14(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw deiliad contract o dan gontract diogel (“y trosglwyddwr”) yn ceisio trosglwyddo’r contract yn unol ag adran 118 i berson (“y trosglwyddai”) sy’n ddeiliad contract o dan gontract diogel arall.

(2)Os yw’r trosglwyddiad i fod yn rhan o gyfres o drafodion mae’n rhesymol gosod amod na chaiff y trosglwyddiad ddigwydd oni fydd y trafodion eraill yn digwydd.

(3)Os yw’r trosglwyddai yn olynydd â blaenoriaeth neu’n olynydd wrth gefn mewn perthynas â’r contract diogel y mae’n ddeiliad contract oddi tano cyn y trosglwyddiad, mae’n rhesymol gosod amod yn ei gwneud yn ofynnol i’r trosglwyddai gael ei drin at ddibenion y Ddeddf hon fel olynydd o’r math hwnnw mewn perthynas â’r contract diogel a drosglwyddir iddo gan y trosglwyddwr.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 6 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2Atod. 6 para. 14 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

I3Atod. 6 para. 13 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2