8(1)Mae’n rhesymol i’r landlord wrthod cydsynio i drafodiad—
(a)os yw’r landlord yn awdurdod tai lleol, a
(b)os, o ganlyniad i’r trafodiad, y bydd person sy’n anghymwys (neu sydd i’w drin fel pe bai’n anghymwys) i gael llety tai wedi ei ddyrannu iddo gan y landlord yn dod yn ddeiliad contract.
(2)Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i drosglwyddiad i olynydd posibl o dan adran 114 nac i ddeiliad contract diogel o dan adran 118.
(3)Penderfynir pa un a yw person yn anghymwys, neu i’w drin fel pe bai’n anghymwys, i gael llety tai wedi ei ddyrannu iddo gan y landlord yn unol ag adran 160A o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) a rheoliadau o dan yr adran honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 6 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I2Atod. 6 para. 8 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2
I3Atod. 6 para. 7 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2